Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut gwnaeth Mind fy helpu i reoli fy nicter

Dydd Mawrth, 14 Ionawr 2020 Samuel

 

Mae Samuel* yn byw yng ngogledd Cymru gyda’i wraig a dau o blant.

*ffugenw yw Samuel

 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Y funud y gwnaeth y ffrae gyda fy ngwraig waethygu, dyna pryd oeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i bethau newid. Ar ôl blwyddyn a hanner o gyfnodau clo, bod yn styc o fewn yr un pedair wal, fy ngwraig a minnau’n gweithio gyda’n gilydd ac yn dysgu’r plant gartref, roedd yna gymaint o bwysau yn y tŷ, doedd e ddim yn lle da.

Roeddwn i’n gallu adnabod yr arwyddion. Ymddwyn yn ymosodol ac yna’n teimlo’n euog a chywilyddio wedyn. Roedd fel bod pwysau’r 18 mis diwethaf wedi cael gwared ar bopeth roeddwn i wedi’i ddysgu yn y gorffennol am sut i reoli fy nicter.

Felly, roeddwn i’n gwybod fy mod i angen help, a hynny’n gyflym. Cysylltais â Mind ynghylch sesiynau cwnsela gan eu bod nhw wedi fy helpu rai blynyddoedd yn ôl. Gan fod yna restr aros, cefais gynnig Monitro Gweithredol tra’r oeddwn i’n disgwyl.

Fel mae’n digwydd, Monitro Gweithredol oedd yr union beth roeddwn i ei angen. I mi, roedd yn teimlo fel hanner ffordd rhwng gweithdy grŵp a sesiynau cwnsela un i un.

Oherwydd ei fod yn un i un, roeddwn i’n gallu bod yn agored am rai pethau na fyddwn i’n teimlo y gallwn i fod mewn grŵp. Roedd yn braf gallu egluro’n gyfforddus beth oedd yn bod a beth sy’n sbarduno fy nicter, heb boeni am gael fy meirniadu. Hefyd, oherwydd ei fod dros y ffôn, roedd y sesiynau’n wirioneddol gyfleus ac yn hawdd eu ffitio mewn i amser cinio.

Ond yn annhebyg i gwnsela, cefais lyfrau gwaith a theclynnau defnyddiol i dawelu fy hunan neu i ymdopi gyda rhai sefyllfaoedd. Roedd y rhain yn wirioneddol ymarferol felly, roeddwn i’n gallu dechrau eu defnyddio ar unwaith. Roedd y gefnogaeth ychwanegol gan berson go iawn, yn gwrando arna i ac yn fy arwain, yn wirioneddol ddefnyddiol hefyd.

Rydw i wastad wedi bod yn betrus am siarad gyda’m ffrindiau am y problemau sy’n fy mhoeni, ond mae Monitro Gweithredol wedi gwneud i mi sylweddol mai’r bobl o’m cwmpas sy’n gallu rhoi cefnogaeth i mi. Mae sgyrsiau felly mor bwysig, fel nad yw popeth yn aros fy mhen.

Hefyd, dechreuais gymryd amser ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar a gwneud rhywbeth i ymlacio ac rwyf wedi dod i ddeall fi fy hunan a’r problemau sydd gen i, yn ogystal â deall sut i’w hateb. Er enghraifft, rwy’n gwybod y dylwn i gymryd amser allan os oes rhywbeth yn digwydd a allai, o bosibl, sbarduno fy nicter, sy'n rhoi ychydig bach mwy o amser i mi feddwl sut i ymateb.

Yn bendant mae pethau wedi gwella ond mae’n dal gen i waith i’w wneud. Mae fy ngwraig a’m plant hefyd angen amser i addasu ac i ddod i arfer â mi’n ymateb mewn ffordd wahanol. Ond rwy’n teimlo ein bod yn gwneud cynnydd.

Canfod sut y gall Monitro Gweithredol eich helpu chi gyda dicter a rhagor.

Sign up here.

 

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig