Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut mae nofio wedi helpu gyda fy iechyd meddwl

Dydd Gwener, 09 Hydref 2020 Simon

Eleni, rydyn ni’n gofyn i bobl i wneud un peth i wella eu hiechyd meddwl, gan ddefnyddio’r hashnod #GwnewchUnPeth ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Dyma flog gan Simon, Pennaeth Polisi Mind Cymru, ar sut mae nofio wedi gwella ei iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Just keep swimming...

Rwy’ wedi bod yn ceisio llunio’r blog hwn yn fy mhen wrth nofio yn fy mhwll lleol, ond rwy’ bob amser wedi teimlo braidd yn lletchwith ynghylch ysgrifennu am y modd mae nofio wedi fy helpu i reoli fy iechyd meddwl. Pe baech chi’n gofyn i fi am y peth mewn sgwrs, fydden i’n ateb heb broblem, ond mae rhoi’r geiriau i lawr ar bapur yn eu gwneud nhw’n fwy parhaol, mewn rhyw ffordd. Felly dyna fy esgus os yw’r geiriau’n edrych fel petai nhw’n reit fympwyol!

Rwy’n cofio’r tro cyntaf i fi gael profiad o fod bron wedi bwrw’r wal o ran fy iechyd meddwl – penderfynais roi’r brêc ymlaen yn gyflym cyn cael damwain cas. Roeddwn i’n barod wedi cael profiad o iechyd meddwl gwael, ac roeddwn i wedi ceisio gweithio trwyddo ar ben fy hun. Spoiler bach nawr – wnaeth e ddim gweithio! Rwy’n berson sy’n cymryd balchder yn fy ngwaith ac rwy’n teimlo’r uchafbwyntiau a’r pwyntiau isel i’r byw. Mewn swydd flaenorol, ar adeg lle roeddwn i’n dioddef o straen, penderfynais wneud rhywbeth cadarnhaol yn hytrach na bodloni ar deimlo’n isel.

Roeddwn i bob amser wedi ystyried nofio i fod o gymorth yn setlo fy meddwl, yn enwedig os oedd yn rhaid i fi weithio ar broblem benodol.

Felly, ar ddydd braf ym mis Mai pan oeddwn i am aros yn y gwely yn fwy na dim arall, fe lusgais i fy hun lawr i’r pwll nofio lleol. A bod yn onest, roedd dod o hyd i dowel a dillad nofio yn ymdrech eithriadol, heb sôn am godi a cherdded am ugain munud i’r pwll nofio agosaf. Fodd bynnag, dydw i erioed wedi difaru mynd i’r ymdrech i ddefnyddio’r egni hwnnw. Wrth nofio hyd y pwll am y tro neu ddau cyntaf, rwy’n cofio’r pwysau’n dechrau codi. Hyd yn oed heddiw, flynyddoedd yn ddiweddarach, rwy’n cofio teimlo’r newid ar ôl dod allan o’r pwll. Doedd y newid ddim yn un radical eithriadol, ond roeddwn i’n teimlo’n falch o fod wedi gwneud rhywbeth drosof i fy hun a pheidio rhoi mewn i’r teimladau negyddol oedd yn fy ngyrru i beidio â thrafferthu. Fe addewais i fy hun y byddwn i´n ceisio gwneud nofio’n rhan o fy rwtîn. Felly, dechreuais neilltuo cyfnod byr peth cyntaf yn y bore yn fy nyddiadur gwaith fel ‘amser nofio’, gan roi caniatâd i fi fy hun i nofio a fy ysgogi i gerdded i´r ganolfan hamdden.

Doeddwn i ddim yn llwyddo gwneud hyn bob wythnos.  Ambell waith , roeddwn i’n llwyddo gwneud ambell ddiwrnod mewn wythnos. I fi, doedd nofio byth yn fater o wella ffitrwydd, o gynyddu sawl hyd roeddwn i’n ei nofio, neu hyfforddi i nofio’n gynt. Byddai hynny wedi bod yn wrthgynhyrchiol, gan fy achosi i fod hyd yn oed yn galetach ar fy hun. Ar yr wythnosau lle nad oeddwn i’n llwyddo, roeddwn i’n ceisio peidio â theimlo’n euog, ond sylweddoli bod anawsterau bywyd yn sefyll yn y ffordd ambell waith. Mae wedi bod yn bwysig i fi ganolbwyntio ar yr adegau rydw i wedi gallu nofio, yn hytrach na’r wythnosau nad ydw i wedi gallu gwneud hynny.

Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae nifer o adegau wedi bod lle byddai nofio wedi fy helpu i ddelio gyda straen bywyd mewn pandemig. Am gyfnod, roedd rhaid i fi gyfnewid fy amser nofio gydag chyfle i fynd am dro yn y parc neu o amgylch fy ardal leol, ond doedd hyn ddim yn cael yr un effaith gadarnhaol ac atgyfnerthol arnaf i, rhywsut. Mae gallu dychwelyd i’r pwll yn ystod y mis diwethaf wedi bod yn fendith, gan roi’r cyfle i fi fyfyrio a gadael fy meddwl i grwydro.

A bod yn onest, er fy mod i’n mwynhau nofio, rwy’n dal i brofi iechyd meddwl gwael ar adegau. Fodd bynnag, ar y dyddiau rwy’n llwyddo i fynd i’r pwll nofio, rwy’n teimlo’n well yn fy hun ac yn fwy tebygol o ddelio’n iawn â straen bywyd bob dydd.

Rwy’n llawn sylweddoli nad yw nofio o fudd i bawb, ac rwy’n ddiolchgar am yr amser sydd gen i er mwyn cadw i symud.

Rydw i wedi dysgu am bwysigrwydd dod o hyd i’r hyn sy’n gadael i fy meddwl i grwydro, gadael straen bywyd y tu ôl i fi a gwneud rhywbeth drosof i fy hun.

Os yw nofio’n fy helpu i deimlo’n fwy cadarnhaol, rwy’n tybio mai Just Keep Swimming fydd fy arwyddair i o hyn ymlaen...

 

Mae Simon yn Bennaeth Polisi ym Mind Cymru ac mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a thri o blant. Mae Simon yn mwynhau gwylio rygbi a nofio’n araf iawn yn y pwll lleol!  

Ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, rydym yn annog pawb i wneud un peth er gwell iechyd meddwl.

Ewch i'n tudalen we i gael mwy o ysbrydoliaeth a syniadau i wneud un peth er eich lles eich hun, neu i helpu eraill y Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd hwn.

Related Topics

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig