Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sefwch Drosof I a fy anhwylder bwyta

Dydd Mawrth, 22 Medi 2020 Abigail Davies

Mae Abigail yn 28 oed ac yn dod o Gastell Nedd. Mae’n ohebydd chwaraeon llwyddiannus ac wedi byw gydag anorecsia am dros 18 mlynedd. Fel rhan o'n hymgyrch Sefwch Drosof i wella gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl yng Nghymru, dyma Abigail yn blogio am ei phrofiadau. 

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Yn 2019, cefais fy ngollwng o’r ysbyty am yr wythfed – a gobeithio – y tro olaf. Rwyf wedi brwydro yn erbyn anorecsia am 18 mlynedd ac, er fy mod yn gwella erbyn hyn, roedd yn teimlo fy mod wedi bod mewn perthynas gyda fy meddwl fy hun yn fy ngham-drin.

Daeth Anorexia Nervosa i’m bywyd y tro cyntaf pan oeddwn i’n naw mlwydd oed. Roedd fy rhieni wedi ysgaru pan oeddwn i’n ifanc iawn ac roeddwn i’n cael trafferth deall y ddeinameg newydd a gwahanol. Roedd fy nhad yn cynnal perthynas dda gyda ‘mrawd ond nid gyda fi. Sylweddolais yn fuan mai’r unig beth allwn i ei reoli oedd beth oeddwn i’n ei fwyta. Roedd anorecsia’n teimlo fel cydymaith, ffrind y gallwn i ymddiried ynddo.

Roeddwn i’n 11 oed cyn gweld y meddyg am y tro cyntaf. Dywedodd y dylwn ni golli mwy o bwysau er mwyn cael triniaeth, a oedd, wrth gwrs, yn bwydo ar fy ffordd anhrefnus o feddwl. Roedd gen i ragor o bwysau i’w golli - neu felly yr oeddwn i'n meddwl.

Doeddwn i ddim yn sylweddoli nad oedd pobl eraill yn clywed yr un llais yn eu pen ag yr oeddwn i. “Wyt ti’n siŵr dy fod eisiau bwyta hwnna?” byddai’n gofyn.
Dim ond dwy neu dair blynedd yn ddiweddarach, roedd fy anhwylder bwyta wedi gafael yn dynn. Erbyn hyn, roedd fy ffrind yr oeddwn yn ymddiried ynddo yn fy rheoli i. Roedd yn fy atal rhag gwneud y pethau yr oeddwn i’n eu mwynhau. Ond erbyn hynny, roeddwn i’n credu ei fod wirioneddol eisiau gwneud y gorau i mi.

Roeddwn i’n eithriadol o anhapus ond, gan fy mod yn rheoli fy mhwysau, roeddwn i’n teimlo fy mod mewn rheolaeth o bopeth arall; fy mod yn trin pethau’n iawn. Roedd fy anorecsia yn fy ngwneud yn emosiynol ddi-deimlad ac roedd fy obsesiwn gyda chyfrif calorïau yn tynnu fy sylw oddi ar y problemau craidd oedd yn achosi fy salwch meddwl.

Yn 12 mlwydd oed, dechreuais ymarfer corff yn obsesiynol. Dechreuodd y meddygon fonitro fy mhwysau bob wythnos a chefais fy nghyfeirio at Wasanaethau Plant ac Iechyd Meddwl Cymru.

Roedd hyn yn 2005, ac er bod fy nghyflwr yn cael ei gymryd o ddifrïaf erbyn hyn - roeddwn i wedi colli digon o bwysau erbyn hynny - dim ond yr ochr gorfforol ac nid yr ochr seicolegol oedd yn cael sylw. Doedd gen i ddim syniad beth oedd andresia nervosa ac, ar ôl i mi ofyn, cefais dudalen o Wikipedia i’w darllen. Doedd neb yn fodlon trafod hynny – na’i drafod gyda mi. Rwy’n dal i deimlo’n chwerw am hynny. Hyd heddiw, rwy'n tueddu i lithro’n ôl ac rwy'n dal i ddeffro gydag anorecsia yn fy mhen.

Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol. Pe byddwn i wedi cael help yn naw mlwydd oed, gallwn i fod yn byw bywyd normal nawr.

Mae hynod bwysig ein bod yn addysgu pobl a bod pethau'n newid. Hyd yn oed heddiw, pan mae yna gymaint o wybodaeth a chymaint o dystiolaeth, rwy’n dal i glywed am bobl yn cael eu troi i ffwrdd gan feddygon nes bod eu BMI yn ddigon isel. Mae timau meddygol yn dal i ymdrin ag agweddau corfforol o anorecsia ac fe ddylid gwneud rhagor am y problemau seicolegol sydd y tu ôl i hynny.

Allwn i ddim hyd yn oed yfed dŵr tap rhag ofn bod rhywun wedi ychwanegu calorïau ato. Roeddwn i’n gwthio dodrefn yn erbyn drws fy ystafell wely rhag ofn i rywun fy mwydo ganol nos. Roeddwn i’n gyfan gwbl paranoid ac roedd gen i body dysmorphia. Gallwn i fod ar lan y bedd ond roedd beth oeddwn i’n ei weld yn y drych yn fy ffieiddio. Nid oherwydd bod esgyrn yn gwthio allan o’m croen ac nid oherwydd bod fy ngwallt yn disgyn allan. Ond oherwydd nad oeddwn i’n ddigon tenau. Roeddwn i’n gweld rhywbeth a oedd yn codi cywilydd arna i ac yn fy wneud yn embaras.

Roeddwn i’n teimlo’n gyfan gwbl ddi-werth ac yn barod i farw. Byddai anorecsia yn fy mhoenydio pob awr o’r dydd. Byddai'n fy neffro ac yn rantio arnaf am fwyta’r nesaf peth i ddim o galorïau. Byddwn yn hunan niweidio er mwyn cosbi fy hunan am fethu.

Doeddwn i ddim yn cael prynu dillad newydd ac allwn i ddim gwenu. Doedd yr anorecsia ddim yn gadael i mi. Roedd fy meddwl yn fy maglu ac yn fy ngham-drin.

Doedd gen i ddim syniad pwy oeddwn i. Doedd dim Abi ar ôl. Roedd anorecsia wedi meddiannu pob rhan o’m bywyd.

Cefais fy nghymryd i’r ysbyty am y tro cyntaf yn bymtheg mlwydd oed pan gefais rybudd y byddwn yn cael trawiad ar fy nghalon pe byddwn i’n aros gartref. Erbyn hynny, roeddwn i’n cymryd 100 o garthyddion y dydd. Roeddwn i wedi cymryd DNP gwpl o weithiau (dôs farwol ohono laddodd Eloise Parry yn 2015). Roeddwn i wedi gwthio fy Mam i ffwrdd a’m ffrindiau hefyd. Roeddwn i’n ynysu fy hunan yn fy ystafell ble byddwn yn ymarfer corff bob awr o’r dydd.

Yn yr ysbyty, dysgais i gyfnewid triciau ac awgrymiadau gyda merched eraill. Mae anorecsia’n salwch cystadleuol felly, fe fydden ni’n ysgrifennu llythyrau at ein gilydd a brwydro i fod y “gorau".

Roeddwn i’n cael cymaint o feddyginiaeth fel nad wy’n gallu cofio’n rhan fwyaf o’m hamser yn yr ysbyty. Roeddwn i’n dal ar dabledi gwrth iselder a oedd yn cael eu hystyried yn wirioneddol ddinistriol i rai o dan 18 oed. Dim ond ar ôl i fy chwaer ddweud hynny wrth y staff y cafodd fy meddyginiaeth ei newid.

Rwy’n cofio nyrs yn gofyn i mi beth oeddwn i'n mwynhau ei wneud. Fy ateb oedd: “Cyfri’r calorïau”. A dyna fe. Doeddwn i ddim yn werth unrhyw beth arall. Er mwyn hynny roeddwn yn bodoli. Dywedodd hi mai hynny oedd yn gwneud fy anhwylder bwyta yn hapus, nid yn fy ngwneud i’n hapus. Ond roeddwn wedi fy nghlymu gymaint yn yr anorecsia fel bod y ddau ohonom, erbyn hynny, yn un.
Treuliais y cyfan o’m Blwyddyn 11 yn yr ysbyty, yno y cefais fy nysgu gyda fy Mam yn teithio i’m gweld pob dydd o Gastell Nedd. Dywedais wrthi nad oeddwn yn ei charu ond daliodd ati i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu. Ond doedd gen i ddim teimladau a dim empathi. Dim ond y gwëwr oeddwn i’n ei deimlo a’r poen corfforol – y teimlad o fod fel rhew trwy’r amser, y teimlad bod fy esgyrn yn sefyll allan o’m croen. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu cerdded heb lewygu.

Roeddwn i wedi cynllunio fy angladd cyn mynd i mewn i'r ysbyty. Roedd fy nodiadau i’m teulu i gyd wedi’u hysgrifennu. Roeddwn i’n teimlo nad oedd modd dianc ac roeddwn yn erfyn ar y staff meddygol bob dydd i adael i mi farw.
Ond un diwrnod, tra’n dal yn glaf yn yr ysbyty, gofynnodd fy ewythr a allai fynd â mi weld gêm. Roeddwn i wedi anghofio fy mod wrth fy modd gyda phêl-droed ond roeddwn yn ei weld yn ffarwel teilwng iddo.

Camu i mewn i’r stadiwm y diwrnod hwnnw wnaeth fy achub i.

Roedd fel petawn wedi ail ddarganfod plentyndod coll. Am 90 munud, doeddwn i’n meddwl am ddim ond tactegau a ffurfiadau. Roedd yn rhyddid. Roeddwn i’n Abi unwaith eto a rhoddodd y noson honno rhywbeth i mi gydio ynddo. Y diwrnod nesaf, ysgrifennais fy adroddiad gêm cyntaf o’m gwely yn yr ysbyty. Doedd e ddim ond fy anhwylder bwyta mwyach. O’r adeg hynny, gwylio chwaraeon oedd fy mheirianwaith ymdopi.

Wrth i mi ganolbwyntio ar wella, roedd fy anorecsia yn brwydro’n galetach nag erioed i’m rheoli. Wrth i mi ryddhau fy hunan o’i afael, byddai’n gwneud unrhyw beth i’m cadw. Ond, gyda phêl-droed roeddwn yn gallu credu fod gen i ddyfodol.
Yn y gêm honno, teimlais mai fi oedd fy ewythr yn ei weld ac nid fy anhwylder bwyta. Yn naturiol, doedd fy Mam ddim yn gallu gweld heibio’r arswyd o’i merch yn marw o flaen ei llygaid. Ond, roeddwn i angen i bobl fy ngweld i, ac, wrth i mi eistedd yno, yn dadansoddi’r gêm, trodd ataf a dweud yn ddiffuant, “Rwyt ti’n wirioneddol dda am hyn Abi.” Roedd yn drobwynt anferth.

Roedd fy llithriad diwethaf dwy flynedd yn ôl. Roedd yn erchyll gweld gymaint oedd pethau wedi dirywio. Does dim digon o arian ar gyfer gwasanaethau, llai o welyau ar gael felly, pobl yn gorfod disgwyl yn hirach am driniaeth ac mae’n anoddach fel oedolyn i gael triniaeth fel claf mewnol, hyd yn oed gyda fy hanes hir meddygol i.

Mae yna stigma’n dal y dylai pobl gydag anorecsia snapio allan ohono a pheidio â gwneud hynny iddyn nhw eu hunain. “Alli di ddim gweld beth mae’n ei wneud i’n teuluoedd?" “Alli di ddim gweld fod dy ymddygiad yn un hunanol?” Fyddai neb yn dweud hynny wrth glaf yn dioddef o gancr, felly, pam ei bod yn iawn gofyn hynny i rywun gyda salwch meddwl? Mae’n ychwanegu at y bai a’r euogrwydd.

Nawr, mae’r Llywodraeth, yn ei ryfel yn erbyn gordewdra, eisiau dod â gwybodaeth calorïau i mewn i fwytai. Mae’n bwysig cofio mai anorecsia sy’n lladd y mwyaf o bobl o holl salwch meddwl. Rwy wedi bod yn gwella ers dwy flynedd ond rwy’n dal i gael fy llygad dynnu drwy fy oes gan y bwyd sy'n mynd heibio fy ngwefusau.

Faint o galorïau? Sawl cegaid? Nid hynny ddylai fod y norm ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni eisoes wedi gorfod ymdrin â gwybodaeth calorïau ar y bwydydd rydym yn eu prynu. Os yw’r calorïau’n dal fy llygad ar eil yr archfarchnad, rwy'n gallu mynd yn ôl yn gyflym iawn i'm ffordd dryslyd o feddwl ac mae'n gallu wneud i mi deimlo’n bryderus iawn.

Ond yn ystod y 18 mis diwethaf, gallaf o’r diwedd ddweud fy mod wedi dechrau mwynhau bwyd. Gallaf fynd i fwyty ac archebu beth rwy ei eisiau, heb boeni gormod am faint o fraster sydd ynddo. Rhaid i’r Llywodraeth ganolbwyntio mwy ar faeth ac ymarfer corff priodol a rhoi’r gorau i’r obsesiwn gyda chalorïau.
Dydw i ddim wedi hunan niweidio am flwyddyn ac mae’n ddwy flynedd ers i mi geisio lladd fy hun. Rwyf wedi datblygu ffyrdd o ymdopi – rwy’n canolbwyntio ar faeth ac ar osod y pethau iawn yn fy nghorff i fod yn danwydd iddo. Rwyf wedi dysgu Therapi Ymddygiad Gwybyddol i fi fy hunan. Mae gen i bobl o'm cwmpas sy’n gallu gwylio am arwyddion o ail waelu. Mae yna adegau o hyd pan fydd yr anorecsia’n rheoli ond byth am yn rhy hir. Mae pob un ohonom yn haeddu hapusrwydd ac weithiau mae’r salwch yn ein twyllo i gredu ein bod yn llai nag ydym.

Rwyf wedi dod yn bell iawn ers i fy Mam orfod rhoi bath i mi yn 15 oed, pan oedd fy nannedd a'm hesgyrn yn malurio. Pan oedd fy ngwallt yn disgyn allan. Pan nad oeddwn yn gallu sefyll am hir heb lewygu. Erbyn hyn rwy'n gallu gweld cymaint o gelwyddgi ystrywgar yw anorecsia.

Mae gen i anorecsia ond nid oes gan anorecsia fi.

See what we're campaigning on

Sefwch Drosof I yw ein hymgyrch i sicrhau bod Llywodraeth nesaf Cymru yn blaenoriaethu iechyd meddwl. Er mwyn ein helpu i wneud i hynny ddigwydd, cofrestrwch fel ymgyrchydd i gael diweddariadau a ffyrdd o gymryd rhan.

Darllenwch mwy am Sefwch Drosof I

Mind

Our campaigns

We'll fight your corner. We believe everyone with a mental health problem should be able to access excellent care and services. We also believe you should be treated fairly, positively and with respect.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig