Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Y Gofod Llwyd

Dydd Mercher, 08 Mehefin 2022 Georgia

Mae Georgia, o Dde Cymru, yn disgrifio sut wnaeth ei thrawsnewid i wasanaethau iechyd meddwl oedolion ei gadael yn teimlo’n unig ac yn ddryslyd.

Mae Georgia yn cefnogi ein hymgyrch Sortiwch y Switsh, lle rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a gwasanaethau iechyd meddwl i wrando ar bobl ifanc a sortio'r switsh o wasanaethau iechyd meddwl plant arbenigol i wasanaethau oedolion.

Rhybudd: mae'r flog yma'n trafod anhwylderau bwyta.

Darllenwch mwy am Sortiwch y Switsh

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Fy enw i ydy Georgia ac rwy’n 18 oed, ac rwy’n byw yn Ne Cymru.  Rwyf wedi bod yn derbyn triniaeth ar gyfer Anhwylder Bwyta ers i mi fod yn 14 oed.  Roeddwn gyda thîm diogel iawn yn CAMHS a lwyddodd i fy helpu i gyrraedd pwynt lle’r oeddwn yn gwneud cynnydd da iawn gyda fy nhriniaeth ac yn gwella’n araf.  Yna ar ôl troi’n 18 oed, fe newidiodd popeth.

Rwy’n disgrifio’r cam o symud o CAMHS i’r gwasanaethau oedolion fel ‘gofod llwyd’.  Roedd y gofod llwyd yn teimlo’n unig, ar goll, afreolus a dryslyd.  Rwyf wirioneddol yn ofni ansicrwydd ac fe wnaeth symud o system cymorth cyson yn CAMHS ac yna gorfod aros am gyfnod hir iawn i ymuno â’r Gwasanaethau Oedolion achosi i fy Anhwylder Bwyta ail-ddechrau.  Roedd bod yn y ‘gofod llwyd’ hwn yn golygu nad oeddwn yn ddigon sâl ar y pryd i orfod cael fy nerbyn ar unwaith mewn uned arbenigol ond roeddwn yn arddangos arwyddion bod pethau’n dirywio.  Roedd fy Anhwylder Bwyta yn gwaethygu dros amser a dechreuais golli pwysau yn gyflym.

"Sylweddolais yn sydyn iawn nad ward seiciatrig oedd yr amgylchedd cywir i ferch ifanc gydag Anhwylder Bwyta."

Cefais fy atgyfeirio gan fy nhîm CAMHS i’r Gwasanaethau Oedolion wrth geisio atal fy nirywiad yn y cyfamser.  Fodd bynnag, nid oedd ganddynt unrhyw bŵer i wneud penderfyniadau mawr ar fy rhan am fy mod dros 18 oed erbyn hyn, a oedd yn golygu fy mod yn parhau i fynd i’r Brifysgol a byw i ffwrdd o gartref.  Yn y cyfnod hwn, gwaethygodd fy Anhwylder Bwyta yn raddol a olygodd y bu’n rhaid i mi adael y Brifysgol.

Cyrhaeddais bwynt argyfwng pan fu’n rhaid i fy ymgynghorydd CAMHS alw ward seiciatrig i oedolion a threfnu i mi gael fy nerbyn y diwrnod hwnnw.  Gyda gwaith caled fy ymgynghorydd, cefais fy nerbyn gan y Gwasanaethau Oedolion o’r diwedd a chefais fy nerbyn yn yr ysbyty.  Sylweddolais yn sydyn iawn nad ward seiciatrig oedd yr amgylchedd cywir i ferch ifanc gydag Anhwylder Bwyta.  Roedd y cleifion tair gwaith fy oedran ar y cyfan, gyda salwch meddwl a oedd yn amrywio o sgitsoffrenia, iselder a phroblemau dibyniaeth.  Nid oeddwn byth yn gwybod pryd y byddai helynt yn mynd i ddechrau, roeddwn yn teimlo’n anniogel ac wedi fy nghamddeall.  Profiad cyfyngedig oedd gan y tîm o Anhwylderau Bwyta felly nid oeddent yn sylwi ar fy ymddygiad ac roeddwn yn gallu parhau i golli pwysau.  Roeddwn yn teimlo nad oedd unrhyw un yn gwybod beth i’w wneud i fy helpu ac aeth nifer o wythnosau heibio cyn i fi gael cyswllt gyda Thîm Anhwylderau Bwyta Oedolion.  Erbyn y pwynt hwn, roeddwn mor sâl, ni allai unrhyw beth yr oedd unrhyw un yn ei ddweud wrthyf newid unrhyw beth.

"Roedd y cyfnod aros yn teimlo fel oes i fy rhieni, wrth iddynt fy ngweld yn gwanhau ac yn gwaethygu’n ddifrifol."

Arhosais ar y ward seiciatrig am nifer o fisoedd, yn parhau i golli pwysau bob wythnos.  Yn y diwedd, pan oeddwn mewn cysylltiad â gwasanaeth Anhwylderau Bwyta, roedden nhw’n gwybod ar unwaith bod angen i mi gael fy nerbyn mewn uned arbenigol Anhwylderau Bwyta.  Fodd bynnag, nid oedd uned o’r fath yng Nghymru a oedd yn golygu y byddai’n rhaid i mi gael fy anfon i wlad arall a gorfod aros nes y byddai gwely ar gael.  Roedd y cyfnod aros yn teimlo fel oes i fy rhieni, wrth iddynt fy ngweld yn gwanhau ac yn gwaethygu’n ddifrifol.  Bu’n rhaid i mi gael fy nerbyn mewn ysbyty cyffredinol oherwydd bod fy nghorff yn cau i lawr.

Roedd yn rhaid i mi fod yn sâl iawn i gael gwely yn yr uned arbenigol oherwydd roedd yn seiliedig ar flaenoriaeth.  Ar ôl tair wythnos o fod ar ward gyffredinol yn yr ysbyty, cefais i a rhywun ardal o Gymru ein blaenoriaethu ar gyfer un gwely a oedd ar gael mewn uned Anhwylderau Bwyta yn Lloegr.  Roeddwn yn ffodus o gael y gwely hwn a chefais fy anfon i uned arbenigol i gleifion mewnol o’r diwedd yn Lloegr, lle cefais y cymorth yr oeddwn wedi bod yn aros amdano ar hyd yr amser.

"Yn anffodus, ar ôl cyfarfod llawer o bobl eraill ag Anhwylderau Bwyta, roedd bron pob un ohonynt wedi cael yr un profiad â fi, neu waeth."

Byddai wedi bod yn bosibl osgoi’r cyfnod hwnnw a wastraffwyd, lle’r oeddwn wedi bod yn dirywio gyda chefnogaeth gyfyngedig, pe byddwn wedi cael trosglwyddiad mwy llyfn o CAMHS i’r gwasanaethau oedolion.  Yn anffodus, ar ôl cyfarfod llawer o bobl eraill ag Anhwylderau Bwyta, roedd bron pob un ohonynt wedi cael yr un profiad â fi, neu waeth.  Mae pobl ag Anhwylderau Bwyta yn gorfod cyrraedd BMI penodol cyn iddynt gael eu hystyried o ddifri.  Cyn hynny, rydych yn cael eich gadael i frwydro adref neu ar ward seiciatrig gyda phobl nad ydynt yn gwybod sut i drin anhwylderau bwyta.  Oherwydd y nifer cyfyngedig o unedau arbenigol cyfyngedig, gallwch gael eich anfon i un unrhyw le yn y DU (roeddwn i’n ddigon lwcus i gael un dim ond two awr o fy nghartref).

Mae bywydau’n cael eu colli oherwydd y diffyg cysondeb a thriniaeth barhaus.  Mae Anhwylderau Bwyta yn salwch meddwl difrifol a gallai peidio â derbyn triniaeth yn ddigon cyflym fod yn angheuol.  Rwy’n lwcus fy mod mewn lle llawer gwell erbyn hyn.  Rwyf wedi gweithio’n galed iawn i ddilyn cyngor gan y gweithwyr proffesiynol yma a byddaf yn cael fy rhyddhau cyn hir.  Mae gen i dîm gwych yn awr a fydd yn parhau i fy nghefnogi pan fyddaf gartref ac rwy’n gobeithio na fydd angen i fi fynd i’r ysbyty eto.

Prif neges fy stori yw, pe byddwn wedi cael fy ngweld ar unwaith ac na fyddwn wedi cael fy nghadael yn y ‘gofod llwyd’ yma, yna efallai na fyddwn wedi cyrraedd y pwynt argyfwng.  Gwell rhwystro’r clwy na’i wella.  Dyna pam yr wyf yn teimlo mor angerddol ynghylch ‘Sortio’r Switsh’ a rhwystro hyn rhag digwydd i unrhyw un arall.

See what we're campaigning on

Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym bod y symudiad o wasanaethau arbenigol plant i wasanaethau iechyd meddwl oedolion ddim yn gweithio yng Nghymru.  

Mae rhai’n teimlo eu bod wedi cael eu gadael, eu bod ar eu pen eu hunain ac yn cael eu hanwybyddu. Mae angen i’w lleisiau newid y system er gwell. Nawr.

Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a gwasanaethau iechyd meddwl i wrando ar bobl ifanc. A sortio'r switsh.

Ebostiwch eich AS i Sortio'r Switsh

Mind

Our campaigns

We'll fight your corner. We believe everyone with a mental health problem should be able to access excellent care and services. We also believe you should be treated fairly, positively and with respect.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig