Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr i gefnogi pobl ag anhwylderau bwyta fel fi - dim ond y gallu i wrando a thalu sylw sydd angen.

Dydd Gwener, 05 Mawrth 2021 James

Dyma flog gan James, sy’n disgrifio ei salwch a’r broses o wella.

Mae'r blog hwn yn trafod anhwylderau bwyta.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Ar ôl cael trafferth am beth amser gyda delwedd fy nghorff, fy mhwysau a fy siâp, cefais ddiagnosis o OCD ac anorecsia yng nghanol fy arddegau. Ar un ystyr, roedd yn rhyddhad gwybod beth oedd yn digwydd, cael diagnosis a chael rhywun i esbonio fy symptomau i mi.

Ond ble bynnag roeddwn i’n edrych, roeddwn i’n cael trafferth dod o hyd i enghreifftiau o bobl oedd yn edrych fel fi neu oedd yn cael profiadau tebyg i'r hyn roeddwn i’n mynd drwyddo.

Yr unig bobl roeddwn wedi clywed amdanyn nhw oedd yn dioddef ag anhwylderau bwyta oedd merched ifanc, a doedd y bobl oedd yn cael eu dangos yn y cyfryngau oedd yn dioddef o anorecsia ddim byd tebyg i fi o gwbl. Roedd yr unigrwydd roeddwn i’n ei deimlo ac wedi ei brofi am gyfnod mor hir yn gwaethygu gan fy mod i’n methu gweld adlewyrchiad o fy mhrofiadau fy hun yn unman.  

Yn waeth na hyn, yn aml doedd y gweithwyr proffesiynol oedd yn gyfrifol am fy ngofal ddim yn deall y gallai bachgen yn ei arddegau gael anhwylder bwyta. Roedden nhw wedi ceisio cynnal pob prawf o dan haul i ddiystyru afiechydon corfforol aneglur prin sy’n achosi pobl i  golli pwysau. Roedden nhw’n chwilio am ddiagnosis eraill i esbonio fy symptomau, ac fe ges i sylwadau fel "pam wyt ti eisiau colli pwysau? Nid dyna sut mae bechgyn eisiau edrych." Roedd hyn yn gwneud i fi deimlo mai fi oedd ar fai am fy anawsterau, a bod y peth yn arbennig o wael gan mai fi oedd yr unig fachgen yr oeddwn i’n gwybod amdano gyda'r cyflwr hwn. Wrth gwrs, mae dynion yn cael anhwylderau bwyta hefyd, ond doeddwn i ddim yn clywed eu straeon na’u lleisiau.

Drwy gydol fy nhaith hir o salwch a gwella, y rhwystr mwyaf i gael fy neall a fy nhrin yn iawn yw’r tybiaethau mae pobl yn eu gwneud am anhwylderau bwyta. Mae cymaint ohonyn nhw wedi bod.

Dydy dynion ddim yn dioddef o anhwylderau bwyta. Rhywbeth i ferched yn eu harddegau yw hynny. Pobl sydd eisiau sylw ac sy’n manipwleiddio pobl eraill yw’r rheini sy’n dioddef o anhwylderau bwyta. Dydy Bulimia ddim mor ddifrifol ag anorecsia. Mae pobl yn tyfu allan o anhwylderau bwyta, dim ond cyfnod mewn bywyd ydyn nhw. Mae anhwylderau bwyta yn digwydd i ddynion gan eu bod nhw’n methu derbyn eu bod nhw’n hoyw. Mae anhwylderau bwyta yn deillio o drawma plentyndod. Does dim modd gwella o anhwylder bwyta, bydd rhaid i chi fyw gyda’r afiechyd am byth. Dydych chi ddim yn ddigon iach i gael triniaeth. Dydych chi ddim yn ddigon sâl i gael triniaeth.

Rwy’ wedi dod ar draws yr holl sylwadau hyn ar ryw ffurf neu'i gilydd - o sylwadau achlysurol gan ffrindiau i sgyrsiau niweidiol â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol pan fyddwn i ar fy mwyaf bregus.

Mae cael ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta yn golygu dweud na wrth yr ystrydebau hyn, a chydnabod eu bod yn aml yn rhwystro rhywun rhag gwrando, gofalu a helpu.

Bu'n rhaid i mi aros dros bedair blynedd yn yr ardal rwy'n byw ynddi nawr i dderbyn gofal, gan fy mod i’n cael fy ystyried yn "rhy sefydlog yn feddygol" i gael fy nhrin, er fy mod i’n ei chael hi bron yn amhosibl parhau yn seicolegol. Gwrthodwyd therapi i fi, tra bod meddygon yn ceisio esbonio fy anhwylder bwyta fel problem gyda fy rhywioldeb y byddwn yn tyfu allan ohono. Mae'n rhaid newid yr agweddau hyn sy’n arwain at wrthod rhoi gofal i bobl.

Mae ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta yn golygu dysgu am wahanol fathau o anhwylderau bwyta, pwy sy'n dioddef ohonyn nhw a pham. Ond mae hefyd yn golygu cydnabod nad oes dau brofiad o anhwylderau bwyta sydd yr un fath, yn union fel nad oes dau berson sydd yr un fath. Yn bwysicaf oll, rhaid cofio y gall unrhyw un ddioddef o anhwylderau bwyta, a’u bod yn gallu effeithio ar bobl o bob cefndir, siâp, maint, lliw, oedran a mwy.

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta eleni, beth am geisio peidio meddwl bod cynyddu ymwybyddiaeth yn golygu dysgu pa gategorïau y gallwn ni roi pobl ynddyn nhw’n daclus. Gadewch i ni beidio defnyddio’r un diffiniadau ystrydebol o anhwylderau bwyta gwahanol, fel pe bai pawb yn dioddef yn yr un ffordd. Er y gallai hynny fod yn ddechrau da, dydy gwybodaeth o lyfr neu o wefan byth yn bwysicach na gwrando ar  y person sydd o’ch blaen, a gwrando ar eu profiadau heb farnu.

Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr na chael gradd mewn seicoleg i ddeall a helpu rhywun sydd ag anhwylder bwyta. Mae angen i chi allu rhoi'r hyn rydych chi'n meddwl rydych chi'n ei feddwl am anhwylderau bwyta i’r naill ochr, yn gyffredinol. Rhaid cydnabod y bydd profiad pawb yn unigryw ac yn wahanol. Y ffordd i helpu a gofalu am rywun ag anhwylder bwyta yw gwrando, gan gofio bod anhwylderau bwyta yn digwydd i bobl - pob math o bobl - a bod profiad pawb yn wahanol.

 

Mae James yn ymgyrchydd iechyd meddwl ac yn arbenigwr ar brofiadau o anhwylderau bwyta. Mae ganddo gyfrifoldebau amrywiol yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion a’r GIG Lloegr, gyda'r nod o wella'r cymorth i'r rhai sy'n profi problemau iechyd meddwl ac anhwylderau bwyta, ac i'w gofalwyr. Mae James hefyd yn cynrychioli nifer o elusennau iechyd meddwl y DU ac mae'n athro ioga a barre. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth am ei brofiadau ei hun gyda'r gobaith y bydd y rhai sy'n darllen ei waith yn cael cysur a gobaith. @jamesldowns (Twitter ac Instagram)

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig