Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Rhywiaeth, stigma ac iechyd meddwl; astudiaeth unigolyn

Dydd Mercher, 08 Mawrth 2023

Rhybudd ynghylch y cynnwys: mae’r blog hwn yn sôn am ymosodiad rhywiol

Mae Ffion* yn esbonio sut mae rhywiaeth a hunan-stigma wedi cael effaith ar ei hiechyd meddwl.

*Mae enwau wedi’u newid.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Dydw i ddim yn meddwl ei bod hi’n bosibl i mi edrych ar fy iechyd meddwl, a’m hunan-stigma dwfn yn ei gylch, heb gydnabod yr effaith y mae rhywiaeth a chasineb at fenywod wedi’i chael arnaf i yn ystod fy oes.

Hynny yw, rwy’n meddwl fy mod i’n blentyn sensitif yn ôl pob tebyg a fy nhynged bob amser oedd i deimlo’n ddwfn, ond dydw i ddim yn credu bod fy nheimladau o orbryder a chyfnodau o iselder yn ‘ddim ond’ yn ddiffyg biolegol. Ond mae wedi cymryd blynyddoedd o therapi ac, o’r diwedd, yn fy 30au hwyr, therapydd craff wedi’i llywio gan drawma i’m helpu i adnabod a derbyn hyn.

Yn ferch wyth oed, gwelais yr effaith ar fy mam o ganlyniad i berthynas carwriaethol hirhoedlog fy nhad gyda ffrind i’n teulu. Chwalodd ei hunan-barch gyda’r brad a gwyliais wrth iddi geisio dynion i’w dilysu, gan ddod i ben yn y pen draw mewn perthynas orfodaethol a rheolaethol gyda fy llysdad. Y wers a ddysgais i o hynny yn blentyn? Bod gan ddynion y pŵer. Roedd hyn yn teimlo’n frawychus ond heb unrhyw ffordd i’w fynegi, cafodd y teimladau hynny eu mewnoli ac roedd sylfeini fy mhroblemau iechyd meddwl wedi’u gosod.

“Roeddwn i’n mewnoli fy nheimladau eto a dyma pryd y dechreuodd fy ngorbryder ddatblygu o ddifrif.”

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach a dechreuodd y glasoed. Rwy’n arswydo nawr pan fyddaf i’n meddwl yn ôl am y rhywiaeth y bu’n rhaid i mi ddelio ag ef pan oeddwn i yn fy arddegau. Roedd dynion yn hwtian arna i a fy ffrindiau yn aml, byddai ffrindiau rhieni yn gwneud sylwadau ar sut byddwn i wedi ‘llenwi mas’, neu’n fy nghanmol ar rannau o’m corff y byddai ‘dynion yn eu hoffi’. Roedd popeth yn hwyl ac yn jôc mewn barbeciw teulu neu ddiwrnod ar y traeth tra byddwn i’n chwerthin yn gwrtais, fy stumog yn troi. Roedd fy nghorff fel petai’n eiddo cyhoeddus. O’r crafangu a’r gropes digroeso yn y stryd neu mewn gig, neu hyd yn oed yn yr ysgol, i’r ymosodiad rhywiol difrifol na ddywedais i wrth neb amdano. Gwnes i fewnoli fy nheimladau eto a dyma pryd y dechreuodd fy ngorbryder ddatblygu o ddifrif. Emosiwn llethol a fyddai’n dod drosof o unman ond roeddwn i’n teimlo bod rhaid i mi ei guddio. Wrth edrych yn ôl nawr, rydw i’n gweld bod teimlo ofn yn emosiwn synhwyrol iawn i fod wedi ei brofi, ond ar y pryd gwnes i atal fy nheimladau gymaint â phosib mewn ffyrdd nad oedd yn iach. Rydw i’n meddwl mai yn yr oedran hwn y gwnes i andwyo fy ngallu i ymddiried yn fy ngreddf. Mor gyffredin oedd rhywiaeth a chasineb at fenywod yn niwylliant Prydain y pryd hwnnw, roeddwn i’n meddwl mai fi oedd yr un a oedd yn gorymateb, a minnau’n ‘ferch wirion’.

Felly, pan es i fy meddygfa yn 18 oed yn crio, iselder oedd y diagnosis yn yr apwyntiad deg munud hwnnw a chefais bresgripsiwn am gyffuriau gwrth-iselder. Mwy o gywilydd, wedi’i bentyrru ar fwy o gywilydd. Am yr 20 mlynedd nesaf, roeddwn yn cario cywilydd y profiadau cynnar hynny a’r cywilydd o beidio â bod yn ddigon cryf i ddelio â nhw. Rydw i wedi teimlo ar fy mhen fy hun ar hyd fy oes ac wedi crio llawer am beidio â bod yn ‘normal’. Roedd pobl hyderus ac agored yn fy syfrdanu. Rydw i wedi cael adegau lle’r wyf wedi gallu ymdopi â phethau, ac adegau lle nad ydyn nhw wedi bod fel hynny. Mae bod yn fenyw yn golygu delio â rhywiaeth achlysurol yn rheolaidd. Ac i mi, roedd y sylwadau bach hynny’n teimlo fel bygythiadau dwys o ymosodiad rhywiol – roedden nhw’n codi ofn arna i bob un tro. Hefyd, gall adegau o fod yn agored (i niwed) fod yn arbennig o anodd, er enghraifft lefel yr agosatrwydd gyda dieithriaid sy’n gysylltiedig â rhoi genedigaeth a’r risgiau corfforol ac emosiynol sy’n gysylltiedig â hynny. Fodd bynnag, mae therapi, grŵp bach o ffrindiau agos a meddyginiaeth wedi fy nghadw i’n gweithredu ac yn symud ymlaen. Ond tair blynedd yn ôl, dechreuodd pethau newid yn fawr i mi.

Roeddwn i ar yr isaf erioed, gyda fy meddyliau ymwthiol (delweddau’n fflachio o drais) yn fy mhoeni ar bob cyfle. Roeddwn i’n ysu am rywbeth i newid ac i deimlo’n well. Cysylltais i â therapydd newydd a ofynnodd i mi, yn ein sesiwn gyntaf, a oeddwn i erioed wedi profi unrhyw beth y gellid ei ddisgrifio fel ymosodiad rhywiol. Dywedais i “i ryw raddau”, gan egluro beth oedd wedi digwydd, ac yn y foment honno, llwyddodd hi i fy nilysu i mewn ffordd nad oedd neb wedi gallu ei wneud o’r blaen. Wrth gydnabod y trawma a chydnabod yr effaith y gall ymosodiad ei chael ar unigolyn, roedd hi wedi fy rhoi ar lwybr at adferiad.

Dair blynedd yn ddiweddarach ac rydw i’n dal i’w chael yn anodd, ond dim hanner cymaint. Ac rydw i wedi dechrau bod yn agored, sy’n gwbl newydd i mi.

 

“Unwaith i mi ddarganfod rôl cywilydd yn fy mhroblemau iechyd meddwl, sylweddolais gymaint roeddwn i wedi bod yn stigmateiddio fy hun am bethau roedd pobl eraill wedi’u gwneud i mi.”

 

Wrth gwrs, mae fy system nerfol yn gweithio gormod. Y realiti trist yw bod menywod yn dal yn agored i niwed dynion mewn cymdeithas nawr. A gall hyd yn oed rhywiaeth bob dydd arwain at iechyd meddwl gwaeth. Mae deall hyn wedi rhoi persbectif gwahanol i mi ar fy mhroblemau iechyd meddwl a’r hyder i fod yn agored am sut rydw i’n teimlo. Nawr dydw i ddim yn beio fy hun, mae’n fy rhyddhau i ddelio â’r symptomau yn unig. Rydw i wedi dod o hyd i ffyrdd sy’n helpu i reoli fy mhryder pan fydd yn anodd a bod yn garedig â mi fy hun pan fydd yr iselder yn sleifio i mewn. Rwyf wedi dod i sylweddoli efallai nad ydw i’n berffaith, ond mae’r ffyrdd y mae llawer o ferched a menywod yn cael eu trin yn ddyddiol hefyd yn bell o fod yn berffaith. A hyd nes y bydd modd newid hyn, bydd llawer o ferched eraill yn tyfu’n fenywod ag ofn heb enw wedi’i wreiddio ynddynt hefyd.

 

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig