Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Mae cymorth gan fy Mind lleol wedi fy helpu i gael fy mywyd yn ôl

Dydd Iau, 18 Mai 2023 David

Dyma David, o’r Canolbarth, sy’n egluro sut yr oedd help Un i Un gan ei Mind lleol wedi ei helpu i adennill ei hyder.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Deuthum at Mind gyntaf gwpwl o flynyddoedd yn ôl ar ôl profi gwaeledd meddwl. Roeddwn newydd symud o Sir Ddinbych, ar ôl diagnosis o awtistiaeth a wnaed yn fy 40au hwyr. Roeddwn yn delio â gorbryder difrifol a doeddwn i ddim yn gadael y tŷ, roedd yn well gen i aros gartref gyda fy anifeiliaid anwes.

Roedd y diagnosis awtistiaeth yn drobwynt yn fy mywyd. Roeddwn wedi teimlo erioed fy mod yn wahanol ac roeddwn wedi cael fy mwlio yn yr ysgol, ond dysgais fy mod wedi’i bod yn ei guddio’n eithriadol o dda – roeddwn mewn band, ac roeddwn wedi bod yn gweithio yng nghyffiniau fy nhref enedigol ers blynyddoedd.

Roedd fy niagnosis yn sicr yn esbonio sut yr oeddwn wedi bod yn teimlo, a dechreuais ymchwilio i awtistiaeth a phobl sy’n byw â’r cyflwr, pobl fel Chris Packham a Christine McGuiness.

"Roedd yn teimlo bod gen i ffrind"

Roeddwn wedi cysylltu â gwasanaeth awtistiaeth lleol, ond roedd y gweithgareddau wedi’u hanelu at bobl sy’n iau na mi, a doeddwn i ddim yn teimlo’n gartrefol. Dyna pryd y cefais fy nghyfeirio at Mind Canol a Gogledd Powys a’u gwasanaeth Un i Un.

Mae cymorth y gwasanaeth Un i Un yn dechrau gyda sgwrs ‘Yr hyn sy’n Bwysig’ i ganfod anghenion sylfaenol pob unigolyn, ac mae’n mynd ymlaen i greu cynllun i helpu’r unigolyn i roi sylw i’r anghenion hynny ac i gymryd camau bach ymlaen tuag at eu hadferiad. Mae’r cymorth ar gael am gyhyd ag y bydd ei angen a bod angen yr help hwnnw ar yr unigolyn.

Ar y dechrau, roeddem yn cael sgyrsiau ffôn wythnosol gan nad oedden yn teimlo y gallwn adael fy nghartref, ond yn y diwedd gofynnodd Janet, fy ngweithiwr cyswllt, a hoffwn ei chyfarfod wyneb yn wyneb ac y gallem fynd â fy nghi am dro. Mi wnaeth hyd yn oed gynnig dod i fy nhasglu am nad oeddwn yn teimlo y gallwn yrru am fod fy hyder mor isel.

Rwyf mor falch fy mod wedi derbyn ei chynnig.

Rwyf wedi teimlo erioed nad oes neb yn gwrando arnaf, ac roedd mor braf bod Janet yn gwrando ar bopeth. Roedd yn teimlo bod gen i ffrind, ac roedd cael gofod i siarad fy helpu i roi trefn ar bethau.

"Biti nad oes gan bawb sy’n gorfod siarad â’r DWP rywun fel Janet!"

Mae fy ngorbryder difrifol a diagnosis o PTSD yn golygu na allaf weithio, a’r haf diwethaf roeddwn yn poeni am y byddai’n rhaid imi siarad â’r DWP am y cymorth rwyf yn ei gael. Gwnaeth Janet yr ymdrech i ddod i fy nghartref, a bu wrthi am bedair awr yn fy helpu wrth imi ddweud wrth y nyrs ar y ffôn gymaint yr oedd fy iechyd meddwl yn effeithio ar fy mywyd o ddydd i ddydd. Roedd yn dipyn o frwydr – roeddwn yn crio ac yn cael pyliau o banig – ond roedd Janet yno. “Dywed y gwir Dave, sut wyt ti’n teimlo mewn gwirionedd?”.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach cefais gadarnhad y byddaf yn parhau i gael cymorth tan 2025 - mi wnaeth y nyrs y bûm y siarad â hi yn siŵr o hynny.

Dechreuais deimlo’n well. A dweud y gwir mi newidiodd fy mywyd – mi allwn ymlacio am y tro cyntaf yn fy mywyd yn yr ystyr ariannol. Er bod gen i broblemau o hyd gyda fy iechyd meddwl, roedd hyn yn bwysau oddi ar fy ysgwyddau; roedd pryderon ariannol wedi rhoi fy iechyd meddwl ar lefel gwbl newydd.

I Janet mae’r diolch i gyd am y gwelliant hwn am ei bod wedi dod yma ac wedi eistedd a gadael i’r Dave go iawn siarad drosto’i hun. Biti nad oes gan bawb sy’n gorfod siarad â’r DWP rywun fel Janet!

Er dod i gysylltiad â fy Mind lleol, rwyf wedi magu hyder. Wrth fynd am dro gyda Janet yn y parc gwledig lleol, mi wnes i ddechrau meddwl tybed a oeddent yn caniatáu gwirfoddolwyr - mae gen i ddiddordeb mewn gwyddoniaeth a sŵoleg, a fy uchelgais oedd bod yn fiowyddonydd. Daeth Janet gyda mi at y dderbynfa a chefais ffurflen. Byddaf yn mynd yn ôl i barhau i wirfoddoli cyn hi, gan fod y tywydd yn gwella.

Roedd Janet a’r rhaglen Un i Un yn fendith. Roeddwn yn teimlo nad oedd gen i neb. Roedd yn angor imi pan oeddwn yn ceisio cael trefn ar bethau tra’r oeddwn ar goll ac yn chwerw, a doedd dim pall ar ei help.

Rwyf yn awr yn y broses o gynllunio fy mharti 50 oed, ac mi fyddaf yn gwahodd ffrindiau a theulu. Mi fyddaf yn canu ar lwyfan am y tro cyntaf mewn chwe blynedd, o flaen cynulleidfa. Rwyf hefyd yn ychwanegu at fy nwy radd wyddonol gyda gradd Meistr ar-lein mewn Ecoleg Gynaliadwy.

Ni fyddai hyn wedi digwydd oni bai fy mod wedi cysylltu â fy Mind lleol.

 

See what we're campaigning on

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 15 a 21 Mai 2023. Eleni, rydym yn canolbwyntio ar yr effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar ein hiechyd meddwl. Darganfyddwch sut y gallwch chi gymryd rhan.

Mind

Our campaigns

We'll fight your corner. We believe everyone with a mental health problem should be able to access excellent care and services. We also believe you should be treated fairly, positively and with respect.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig