Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Fy mhlant yw’r rheswm gadawais i'r strydoedd

Dydd Mercher, 29 Medi 2021

Mae Dave, sydd ag anhwylder deubegynol, yn blogio am sut yr adenillodd reolaeth ar ei fywyd.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Am yn hir iawn, roeddwn i’n teimlo nad oedd dim yn fy mywyd ond yn deffro a disgwyl disgyn yn ôl i gysgu eto. Wrth edrych yn ôl, fe alla i ddweud yn gwbl onest nad ydw i’n yn gwybod sut yr oeddwn yn dod i ben – wn i ddim sut ddois i allan yr ochr arall.

Yn 2017, fe gefais ddiagnosis o anhwylder bipolar math 1 tra roeddwn yn ddigartref. Fel arfer, mae anhwylder bipolar math 1 yn cael ei ddiagnosio ar ôl i chi o leiaf un pwl o orffwylltra sydd wedi parhau’n hwy nag wythnos ac weithiau mae ysbeidiau o iselder yn nodweddiadol hefyd - fe gefais i’r ddau.

“Roeddwn i’n chwarae gemau gyda fy hunan yn barhaus”

Cyn i mi gael fy asesu’n ffurfiol fel bipolar, roeddwn i, am flynyddoedd, wedi bod yn delio gyda’r hyn oeddwn i’n feddwl oedd ‘dim ond fi’. Ond nid ‘dim ond fi’ oedd hynny, roedd rhywbeth arall yn mynd ymlaen o dan yr wyneb.

I bobl eraill roeddwn i’n ymddangos yn ‘wirion' neu'n ddi-hid.   Yn ôl yn y cyfnod hwnnw, roeddwn i’n chwarae gemau gyda fy hunan yn barhaus. Byddwn yn croesi’r ffordd gyda fy llygaid wedi cau - yn cerdded llinell denau rhwng bywyd a marwolaeth.

Pan rwy’n edrych yn ôl ar fy ymddygiad rwy’n meddwl, ‘ynfytyn’. Pam gwneud hynny? Ond, yr un pryd, alla i ddim egluro pam chwaith. Roeddwn i’n cael ysfa i chwarae gyda fy mywyd fy hun bob yn hyn a hyn.

“Roedd fy mywyd yn eithriadol, eithriadol o anhrefnus”

Roeddwn i’n ddigartref pan gefais yr asesiad seiciatrig a chael fy niagnosio gydag anhwylder bipolar math 1. Dros gyfnod o saith mlynedd, roeddwn i wedi bod mewn pump o wahanol hosteli yng Nghaerdydd a hyd yn oed, ar ddau gyfnod, wedi bod yn byw ar y strydoedd.

Roedd fy mywyd yn eithriadol, eithriadol o anhrefnus. Roeddwn i wedi cyrraedd pwynt pan nad oeddwn i eisiau byw bellach. Doedd gen i ddim i edrych ymlaen ato. Doeddwn i ddim yn berchen unrhyw beth. Doedd gen i ddim rhagolygon. Doedd gen i ddim dyheadau. Doedd gen i ddim mewn gwirionedd. Roeddwn i ond yn byw o ddydd i ddydd.

Roedd byw ar y strydoedd yn ei gwneud yn anos trin fy nghyflwr ac roedd fy nghyflwr yn ei gwneud hi’n anos byw ar y stryd hefyd. Roedd y gwasanaethau cefnogi i’r digartref yn canolbwyntio’n bennaf ar ailsefydlu pobl oedd yn cymryd cyffuriau, a doeddwn i ddim yn cymryd cyffuriau. Gwrthodais ddod yn gynnyrch fy amgylchedd. Roeddwn wedi gweld gormod o aelodau’r teulu’n dioddef gan gyffuriau.

Gan nad oedd gen i unrhyw arian, doeddwn i ddim yn gallu gwneud y pethau bach a fyddai wedi gwneud i mi deimlo’n well. Hyd yn oed y pethau syml iawn - doeddwn i ddim yn gallu mynd i’r siop a phrynu potel o coke.

Fodd bynnag, er nad oedd ond ychydig o gefnogaeth ar gael i mi, rwy’n sylweddoli erbyn hyn nad oeddwn i, tra’n ddigartref, yn gwneud unrhyw beth i’m helpu fi fy hunan na’m sefyllfa. Doeddwn i ddim yn gwneud unrhyw beth i helpu fy iechyd meddwl.

Roeddwn i’n disgwyl i bobl eraill i wneud hynny drosof. Roeddwn i’n disgwyl i’r meddyg rhoi pilsen hud i mi. Roeddwn yn disgwyl i fy ngweithiwr cefnogi roi popeth i mi roeddwn i ei angen. Nid hynny oedd yr agwedd iawn. Sylweddolais fod yn rhaid i mi ddechrau rheoli fy mywyd fy hunan. A dyna beth wnes i.

 

Cymryd rheolaeth o’m salwch meddwl

Fy mhlant yw 100% o’r rheswm pam fy mod wedi cael trefn ar fy mywyd. Meddwl amdanyn nhw oedd yn fy nghadw i fynd. Yn wir, fe alla i ddweud wrthych nawr, mae’n debyg y byddwn i’n gorff hebddyn nhw.

Wrth edrych yn ôl, mae’n dal yn wyrth i mi sut y llwyddais i ddod allan yr ochr arall. Rwy’n teimlo fel dau berson gwahanol. Rwyf hyd yn oed yn galw fy hun yn ddau enw  gwahanol. Fy enw bedydd yw David. Ond, rwy’n wirioneddol gasáu gael fy ngalw’n David ac erbyn hyn rwy’n galw fy hun yn ‘Dave’.  

Mae cael dau enw gwahanol yn gwahanu’n feddyliol pwy oeddwn i'n ôl yr adeg hynny. Erbyn hyn rwy’n aelod cynhyrchiol o gymdeithas, yn cymryd rhan yn y gwaith elusennol rwy’n ei wneud gyda’r digartref.

Yn 2019 fe gefais yr eiddo ble rwy’n byw nawr a, hefyd, dechreuais wirfoddoli gyda’r elusen Boomerang Caerdydd a gafodd ei sefydlu gan ffrind i mi. Roedd e hefyd wedi bod yn ddigartref ac yn deall nad oedd unrhyw help i bobl a oedd ond wedi disgyn ar amser caled.

Mae wirioneddol wedi fy helpu i newid fy ffordd o feddwl. Os ydych chi’n meddwl yn bositif, os ydych chi’n ymddwyn yn bositif ac os ydych chi’n gwneud pethau positif, bydd pethau positif yn dechrau digwydd i chi a byddwch, yn naturiol, yn dechrau teimlo’n well.

 

Taclo 'gwreiddiau'r broblem'

I mi, doedd mynd i weld meddyg a chymryd tabled ddim yn feddyginiaeth am gael trefn ar fy iechyd meddwl – roeddwn i angen taclo gwreiddiau’r broblem.  

Pan fyddwch chi’n sownd mewn cylch o feddwl yn negyddol, mae’n anodd iawn ail drefnu’ch ymennydd i feddwl yn wahanol. Peidiwch â’m camddeall - dydw i ddim wedi cyrraedd eto. Ond, dydw i ddim yn meddwl fy mod i yn bell iawn i ffwrdd chwaith.

Mae hynny’n rhoi gobaith i mi ac rwy’n gobeithio ei fod yn rhoi gobaith i bobl eraill hefyd. Nid fi fy hun, a neb arall, sy’n cyfrif bellach, ond pwy alla i ei achub. Mae yna bobl allan yna sy’n cymryd eu bywydau eu hunain mewn sefyllfaoedd ble nad oedd rhaid iddyn nhw.

Rwy’n brawf byw y gallwch chi weithio i geisio newid pethau - fe allwch chi newid eich bywyd os ydych chi wirioneddol eisiau gwneud hynny.

Ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, rydym yn eich gwahodd i wneud un peth i ymladd am gefnogaeth iechyd meddwl gyfartal i bawb - p'un a yw'n troi eich bywyd yn ddramatig, fel y mae Dave wedi'i wneud, neu'n mynd am dro ystyriol yn unig. Oherwydd os wnewn ni gyd un peth, gallwn newid popeth.

Ewch i'n tudalen we i ddarganfod sut i gymryd rhan, lawrlwytho adnoddau, a'n helpu i ledaenu'r neges ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni.

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig