Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Byw gydag anhwylder deubegwn yn ystod y cyfnod cloi

Dydd Mercher, 10 Mehefin 2020 Becky

Dyma flog gan Becky, o Gaerdydd, am y ffordd mae hi’n rheoli ei anhwylder deubegwn yn ystod y cyfnod cloi.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Ers i fi dderbyn diagnosis chwe blynedd yn ôl, does dim diwrnod wedi pasio heb i fi feddwl am fy anhwylder deubegwn. Mae’n rhan mor greiddiol o drefn fy niwrnod fel nad yw’n bosib i fi beidio meddwl amdano. Rwy’n dihuno, yn cymryd fy meddyginiaeth ac yn oedi i feddwl sut rwy’n teimlo. Bob nos, cyn i fi fynd i’r gwely, rwy’n cymryd fy meddyginiaeth eto ac yn nodi yn fy nyddiadur ble rydw i’n credu ydw i ar fy ngraddfa hwyliau.

Trwy gydol y dydd rwy’n cwestiynu fy ymatebion i bethau; ydw i’n hypomanig, neu ydw i wedi cael gormod o gaffîn? Ydw i wedi blino, neu ydy fy emosiynau gwneud i fi deimlo’n lluddedig gan fy mod i’n cwympo nôl mewn i iselder? Erbyn hyn, rwy’ mwy neu lai yn gyfarwydd â’r ymdeimlad, a diolch i’r therapi, dyw’r peth ddim yn fy mhoeni i gymaint rhagor. A dweud y gwir, mewn nifer o ffyrdd mae bod yn gyfarwydd â fy ymennydd fy hun yn ddefnyddiol iawn; rwy’n gallu adnabod unrhyw newid yn fy hwyliau yn eithaf cynnar, sy’n fy helpu i geisio ei atal rhag mynd y tu hwnt i reolaeth.

Mae’r cyfnod cloi wedi fy nhaflu i’n llwyr.

Mae’n adeg ryfedd ac anarferol i bawb, os ydych chi’n ei chael yn anodd ymdopi â’ch iechyd meddwl ai peidio. Gan fy mod i’n methu â rheoli’r hyn sy’n digwydd yn y byd tu allan, rwy’n treulio llawer o amser yn sownd yn fy meddwl, sydd ddim wir yn lle da i fi fod, yn enwedig pan fod y pethau sydd fel arfer yn fy nghadw i’n brysur, fel mynd allan gyda ffrindiau, wedi cael eu cymryd oddi wrthyf i.

Gydag anhwylder iechyd meddwl fel anhwylder deubegwn, mae’n rhwydd treulio bywyd yn poeni am y newid nesaf yn eich hwyliau. Mae llawer o bethau nad ydyn ni’n gwybod am y pandemig, ac fel rhywun sy’n hoffi bod mewn rheolaeth, gall hyn achosi cryn dipyn o bryder.  Gall therapi fod yn hynod o ddefnyddiol i fynd i’r afael â hyn, ond hefyd mae elfen o dderbyn y peth yn bodoli (ond mae’n haws dweud na gwneud). Mae bywyd yn llawn o bethau nad ydyn ni’n gwybod ac mae hyn yn un arall i ychwanegu i’r pentwr.

Rwy’n tueddu i or-feddwl pethau, ac weithiau rwy’n argyhoeddi fy hun bod fy hwyliau’n newid pan rwy’n gwbl iawn, mewn gwirionedd.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae technegau tawelu (grounding techniques) wedi bod o gymorth mawr.

Mae technegau tawelu’n helpu rheoli symptomau gan gymryd y sylw i ffwrdd o feddyliau, atgofion neu bryderon, a chanolbwyntio ar y presennol. Ar y dechrau, doeddwn i ddim yn siŵr - dydw i ddim yn berson sy’n ffeindio anadlu’n drwm a myfyrio’n ddefnyddiol iawn. Fodd bynnag, rwy’ wedi dysgu bod nifer o dechnegau eraill ar gael sy’n gweithio i fi. Un pwysig yw chwarae gemau cardiau i un chwaraewr, fel solitaire neu spider, ar fy nghyfrifiadur. Efallai bod hyn yn swnio braidd yn hurt, ond mae wedi bod yn dechneg ddefnyddiol tu hwnt i dynnu fy sylw oddi ar fy ngorbryder.

Dydw i ddim wedi bod yn cymryd mantais o’r cyfle i ymarfer corff bob dydd fel y dylwn i, ond rwy’n credu bod rhoi clustffonau ymlaen, gwrando ar gerddoriaeth a mynd am dro (neu i redeg os yw hynny’n mynd â’ch bryd) yn ffordd arbennig o ddianc oddi wrth fy meddyliau am sbel fach.

Rwy’n gwneud y gorau o’r amser hwn i ddysgu mwy amdanaf i a fy iechyd meddwl, ond rwy’ hefyd yn dysgu ei fod yn iawn cymryd egwyl weithiau, ac os oes diwrnodau lle rwy’n teimlo fel gwneud dim heblaw am wylio ffilm a rhoi cwtsh i fy nghath, mae hynny’n gwbl iawn. Does dim rhaid i fi fod yn weithgar drwy’r amser; mae cymryd amser i ymlacio a chael seibiant yn hollbwysig i fi.

Mae cydbwysedd yn rhan bwysig o ofalu am eich hun. Rwy’n gobeithio y gwnewch chi gofio hynny hefyd.

 

Mae Becky’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n mwynhau gwylio Buffy the Vampire Slayer a darllen pentyrrau o lyfrau.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig