Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Bod yn fam yn ystod y cyfnod cloi: Sut mae grwpiau mamau yn fy helpu i reoli fy anhwylder deubegwn

Dydd Mercher, 06 Mai 2020 Julia

Dyma flog gan Julia, sy'n disgrifio'r pwysau o fod yn fam yn ystod y cyfnod cloi a sut mae cysylltu â rhieni eraill yn ei helpu i reoli ei hiechyd meddwl

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Sut wyt ti? Ti yn unig, nid 'sut wyt ti a'r babi?' Ti yn unig. Fel mam, dyma rywbeth rwy'n anghofio amdano yn aml. Rwy'n berson ar wahân i'r babi, er nad ydw i'n teimlo fel hyn yn aml. Yn naturiol, rydyn ni'n bopeth i'n babanod ni, a dydy hyn ddim o reidrwydd yn beth gwael. Rydw i wedi dwlu ar fod yn fam, mae fy mab bellach yn 14 mis oed a dyma 14 mis gorau, mwyaf anodd, hapus, heriol, ysbrydoledig, dyrys, anhygoel ac emosiynol fy mywyd. Rwy'n cael diwrnodau lle rwy'n teimlo pob emosiwn posib, a diwrnodau eraill lle nad oes gen i syniad beth rydw i wedi'i deimlo neu hyd yn oed beth rydw i wedi'i wneud.
Ar rai diwrnodau, rwy'n teimlo fy mod i'n 'ennill' ar fod yn fam i fy mab a fy nau gi, ar fod yn wraig, ar gadw tŷ ac ar bopeth arall rwy'n gwneud. Ond ar ddiwrnodau eraill, rwy'n teimlo fy mod i wedi methu ar bopeth. Mae dysgu i dderbyn fy mod i wedi llwyddo ar rai diwrnodau ac wedi methu ar ddiwrnodau eraill wedi bod yn anodd, ac weithiau rwy'n dal i deimlo fy mod i wedi methu.

Mae cael babi neu blentyn bach yn ystod y cyfnod cloi yn dod â'i heriau ei hun, yna ychwanegwch broblem iechyd meddwl i'r sefyllfa ac mae pethau'n anoddach fyth.

Mae'r cyfnod cloi yn anodd i bawb. Rydyn ni i gyd yn gweld eisiau ein teuluoedd a'n ffrindiau. Mae cael babi neu blentyn bach yn ystod y cyfnod cloi yn dod â'i heriau ei hun, yna ychwanegwch broblem iechyd meddwl i'r sefyllfa ac mae pethau'n anoddach fyth. Mae anhwylder deubegwn arna i, sy'n dod â heriau ar ddiwrnodau 'cyffredin'. Mae'r cyfnod cloi wedi bod yn arbennig o emosiynol i fi. Ar rai diwrnodau, rwy'n teimlo fy mod i fwy neu lai yn goroesi, fy mod i'n mynd i dorri lawr ar unrhyw funud. Ar adegau, rwy'n teimlo fel eistedd mewn cornel a chrïo. Rwy'n teimlo nad ydw i'n gallu rhoi beth sydd angen i fy mab, a fy mod i'n fam wael. Mae cael ychydig o amser i fy hun o hunan-ofalu, hyd yn oed rhyw bum munud o unrhyw fath, yn gwneud y diwrnodau hyn yn haws. Yn aml, rwy'n teimlo'n euog ynghylch cael paned poeth o de (mae babanod fel petai nhw'n gwybod eich bod chi wedi gwneud paned o de!) 10 munud ar y soffa, munud o gwsg neu hyd yn oed fynd i'r tŷ bach ar ben fy hun! (Rwy'n gobeithio nad fi yn unig sydd ddim yn cael gwneud hyn ar fy mhen fy hun yn aml!) Rwy'n gwybod na ddylwn i deimlo'n euog, a'i fod yn bwysig i gymryd amser i fy hun.

Mae fy mab yn dioddef o congenital cytomegalovirus (cCMV) sy'n golygu ein bod ni'n gweld llawer o weithwyr gofal iechyd gwahanol. Mae'r cyfnod cloi'n golygu bod apwyntiadau wedi cael eu canslo a bod eraill wedi cael eu cynnal trwy gyfrwng galwadau ffôn neu fideo. Er bod hyn yn ymateb dros dro, nid yw'r un peth â gweld gweithiwr gofal iechyd wyneb yn wyneb. Er enghraifft, roedd cynnal galwad fideo gyda ffisiotherapydd yn anodd, gan ei fod yn anodd iddi asesu fy mab a dangos i fi beth oedd rhaid i ni wneud adref i'w helpu yn ei ddatblygiad.

Mae bod yn sownd yn y tŷ hefyd wedi bod yn anodd i fi. Ers cael fy mab, rydw i wedi mwynhau mynd i leoedd yn fwy nag arfer. Rwy'n mwynhau mynd ag e i leoedd lle mae'n mwynhau, yn dysgu ac yn gallu cael profiadau newydd. Rwy'n credu bod fy mab yn ei chael yn anodd bod o fewn yr un pedwar wal, gyda'r un bobl a theganau trwy'r amser. Mae'n anodd gwybod sut i'w helpu i ddod dros hyn. Ymdopi â bod yn sownd yn y tŷ yw'r brif her i fi. Rwy' wedi bod yn gwneud y gorau o'r haul a threulio amser yn yr ardd, ac rwy' hyd yn oed yn mwynhau mynd i siopa gan fy mod i'n cael gadael y tŷ! Rwy'n cynnal galwad fideo gyda fy mam bron bob dydd, ac yn cysylltu â fy ngrŵp cefnogi i rieni, Mums Matters. Mae'r ddau beth hyn yn fy helpu i ymdopi bob wythnos.

 'Does dim modd arllwys o gwpan sy'n wag'.

Rwy'n gweld eisiau sgwrsio gyda mamau eraill. Sgyrsiau lle gallwch chi ddweud 'mae fy un bach i wedi dechrau gwneud hyn, neu heb wneud hyn eto', gyda rhywun yn ymateb 'ie, digwyddodd hyn i ni ar yr adeg hon' neu 'doeddwn ni ddim yn gorfod delio â hyn'. Rwy'n gweld eisiau sgyrsiau sy'n ymwneud â'r person bach rydyn ni'n gofalu amdano ac yn ceisio deall, sgyrsiau llawn syniadau y gall helpu tra bod pawb mewn cymaint o benbleth â'i gilydd. Rwy' hefyd yn gweld eisiau cael sgyrsiau nad ydyn nhw'n ymwneud â babanod gyda'r un bobl.

Mae bod yn rhan o'r cwrs Mums Matter ar lein wedi helpu gan fy mod yn cael gymaint o gefnogaeth ganddyn nhw. Mae hefyd wir wedi fy helpu i gofio bod hunan-ofalu yn bwysig a bod rhaid i fi ofalu am fy hun i allu gofalu am fy mab. Rwy' wedi dysgu brawddeg wych rwy'n ceisio ei chofio pan rwy'n teimlo o dan bwysau mawr neu fel petai dim amser gyda fi ar fy nghyfer i: 'Does dim modd arllwys o gwpan sy'n wag'. Mae hyn mor wir, ac er ei fod yn teimlo'n amhosibl gwneud hyn ar hyn o bryd, rhaid i fi gofio cymryd gofal o fy iechyd meddwl fy hun er mwyn gallu gofalu am fy mab.

 

For more information on coping with the coronavirus crisis take a look at our info page.

 

This is a mental health emergency – we need your help right now

The coronavirus pandemic is having a huge impact on our mental health. Help us be there for everyone who needs us at this crucial time.

Make a donation today

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig