Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Beth mae bod yn ymddiriedolwyr yn meddwl i mi

Dydd Iau, 09 Tachwedd 2023 Cat

Mae Cat yn Ymddiriedolwyr i Mind Canolbarth a Gogledd Powys ac mae'n rhannu pam mae helpu lles ei chymuned yn bwysig iddi.

I mi, mae bod yn ymddiriedolwr yn golygu bod yn rhan o rywbeth mwy na mi a gwybod ein bod yn gwneud popeth gallwn ni i helpu llesiant ein cymunedau ar gyfer y dyfodol.

Mae pobl yn dweud mai ein hiechyd yw’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gennym. I mi, mae popeth yn dechrau gydag iechyd meddwl da. Rydw i mewn sefyllfa ffodus bod gen i sgiliau defnyddiol i’w cynnig, a rhywfaint o amser i wirfoddoli, sy’n rhan bwysig o fy mywyd ac sy’n cefnogi fy lles meddyliol fy hun.

"Mae bod yn Ymddiriedolwr gyda Mind Canolbarth a Gogledd Powys yn golygu fy mod yn helpu fy nghymuned mewn ffordd sydd o fudd i mi hefyd".

Mae gennym Fwrdd Ymddiriedolwyr cefnogol iawn a thîm staff gwych sy’n rhoi’r holl adnoddau i ni wneud penderfyniadau da a deall effaith ein gwaith. Mae’n deimlad braf iawn gwybod ein bod ni i gyd wedi chwarae ein rhan i sicrhau bod cymorth iechyd meddwl ar gael ar draws ein rhan wledig iawn o Gymru.

Yn fy swydd o ddydd i ddydd rwy’n rhedeg mudiad celfyddydau mewn iechyd bach, Music Anywhere CIC, sy’n mynd â cherddoriaeth fyw i bobl a allai fod ar eu pen eu hunain neu’n unig. Rydyn ni’n gweithio’n agos iawn ar draws y sector gwirfoddol ac elusennol ym Mhowys ac rydw i bob amser yn falch o ddweud fy mod i’n wirfoddolwr gyda Mind ac yn hyrwyddo’r cyfleoedd rydyn ni’n eu cynnig. Mae enw da Mind Canolbarth a Gogledd Powys yn wych ac mae’n fraint cael chwarae rhan fach yn y gwaith o gyfleu’r neges ein bod ni yma i bobl.

Mae gan bob un ohonom rywbeth i’w gynnig

Mae salwch meddwl wedi effeithio ar ffrindiau a theulu - tymor hir a thymor byr - felly rwy’n credu ei bod yn bwysicach nag erioed bod pawb yn gwybod eu bod yn gallu cymryd rhan i sicrhau dyfodol gwasanaethau hygyrch sydd yno pan fyddwn ni eu hangen nhw. Mae gan bob un ohonom rywbeth i’w gynnig, o ysgrifennu llythyr o gefnogaeth i wirfoddoli mewn digwyddiadau neu ymuno fel Ymddiriedolwr. Nid yw mor frawychus ag y mae’n swnio ac mae cymaint o help i ddatblygu a bod yn rhan hanfodol o wneud yn siŵr ein bod ni yno i bobl, yn union fel chi a fi, yn y dyfodol.

Mae bod yn Ymddiriedolwr dros Mind Canolbarth a Gogledd Powys yn golygu bod yn rhan o rywbeth mwy na mi, cael perthynas wych â phobl o’r un anian a gwybod ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu llesiant ein cymunedau ar gyfer y dyfodol.

Add signposts here

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

Related stories

arrow_upwardYn ôl i'r brig