Mae wynebau adnabyddus yn cefnogi ymgyrch iechyd meddwl Cymraeg Mind Cymru
Mae enwogion a gwleidyddion yn cefnogi ymgyrch Mind Cymru i hybu cymorth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru, ar ôl i ymchwil ganfod nad yw siaradwyr Cymraeg yn gallu sgwrsio’n hawdd yn eu dewis iaith wrth geisio cymorth.
Mae actor Pobl y Cwm Rhys ap William, AS Gorllewin De Cymru Sioned Williams, a Llyr Gruffydd, AS dros Ogledd Cymru, ymhlith y wynebau cyfarwydd sydd wedi dangos eu cefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol i ymgyrch ddiweddaraf yr elusen, sy’n dod ar ôl i adroddiad ganfod bod ‘prinder cyffredinol’ o wasanaethau iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael yng Nghymru.
Dywedodd yr adolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn hefyd fod hyn yn arbennig o wir am blant a phobl ifanc.
Fodd bynnag, mae Mind Cymru yn cynnig ystod eang o wybodaeth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg ar ei wefan ar gyfer oedolion a phlant.
Mae’r elusen yn gofyn i aelodau’r cyhoedd helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth mae’n ei ddarparu, yng ngoleuni profiadau pobl ifanc fel Elen Jones.
Mae Elen yn siaradwraig Gymraeg iaith gyntaf a ddatblygodd symptomau iselder a phryder yn 16 oed, ac mae’n rhannu ei stori fel rhan o ymgyrch Mind Cymru, i helpu eraill i ddod o hyd i gefnogaeth.
Ar y pryd, roedd Elen yn gallu cael mynediad at wasanaethau therapi iaith Gymraeg gyda chefnogaeth ei Phennaeth Chweched Dosbarth yn yr ysgol yn Ynys Môn. Ond pan geisiodd hi gael mynediad at wasanaethau cwnsela tebyg i’w helpu i symud i’r brifysgol yn Abertawe, mae Elen yn disgrifio’r diffyg cymorth oedd ar gael iddi bryd hynny fel ‘syfrdanol’.
Dywed Elen, sydd bellach yn 24 oed: “Yn y diwedd fe wnes i lwyddo i gael rhywfaint o gefnogaeth, ond roedd hynny gan gwnselydd cyfrwng Saesneg, gan mai nhw oedd yr unig gwnselydd oedd ar gael, ond wnes i ddim elwa mewn gwirionedd.
“Prin oeddwn i'n siarad Saesneg nes i mi fynd i'r ysgol uwchradd, felly rydw i gymaint yn fwy hyderus yn siarad Cymraeg, a phan ydych chi'n siarad yn eich iaith eich hun rydych chi'n teimlo'n fwy cysylltiedig ac yn gallu mynegi eich hun yn well.
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn i bobl gael eu cefnogi trwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna sydd ei angen arnyn nhw.”
Mae adroddiad AGIC, AGC ac Estyn yn dweud bod cael dewis eu hiaith gyntaf yn bwysig i blant a phobl ifanc, gan ei fod yn eu helpu i adeiladu perthynas fwy ymddiriedus gyda darparwyr gofal, ac yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw fynegi eu meddyliau a’u teimladau.
Mae Rhys ap William yn actor sy’n ymddangos ar y sianel deledu Gymraeg S4C, ac mae’n credu nad plant a phobl ifanc yn unig sy’n colli allan ar dderbyn gwasanaethau iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Rhys, sy’n chwarae rhan Cai Rossiter yn y gyfres sebon, Pobol y Cwm, yn dweud bod yr adborth a gafodd ar ôl i’w gymeriad fod yn rhan o stori am frwydrau iechyd meddwl a meddyliau hunanladdol hirdymor, yn hynod gefnogol.
Dywedodd Rhys, sydd hefyd wedi bod yn agored am ei brofiadau ei hun gydag iechyd meddwl yn y gorffennol: “Roedd yr ymateb i’n stori ni yn aruthrol, a gwnaeth i mi sylweddoli’r cysylltiad sydd gennym â phob rhan o Gymru, yn enwedig y Gymru wledig, lle mae’r Gymraeg yn famiaith i lawer. Mae’n hanfodol bod pobl yn gallu gwneud y cam cyntaf hollbwysig hwnnw i gael cymorth trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n wych bod Mind Cymru yn gallu cynnig hyn.”
Mae Mind Cymru yn cynnig ystod o wybodaeth a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’i ddarpariaeth ‘Cynnig Cymraeg’, a lansiwyd mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cymorth i blant a phobl ifanc, rhedeg ei ymgyrchoedd yn ddwyieithog, a hyrwyddo gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Dywedodd Julian John, Cyfarwyddwr Cyswllt Gweithrediadau Mind Cymru: “Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall cymryd y cam cyntaf tuag at iechyd meddwl gwell fod, a pha mor anodd y gall fod i wneud synnwyr o’ch teimladau.
“Rydym yn credu hefyd na ddylai neb orfod wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Ond mae hyn yn parhau i fod yn bosibilrwydd real iawn i siaradwyr Cymraeg a allai fod yn cael trafferth cael cymorth trwy eu hiaith gyntaf, gan wneud iddynt deimlo’n fwy ynysig nag y dylent o ganlyniad.
“Mae’r wybodaeth, y cyngor a’r gwasanaethau cyfrwng y Gymraeg sydd ar gael yn anghyson ar draws Cymru. Dyma pam ein bod yn atgoffa pobl bod yna fynediad i wasanaethau iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg - i wneud yn siŵr bod cynifer o bobl â phosibl yng Nghymru yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt, yn yr iaith y maen nhw’n ei siarad.
“Byddwn hefyd yn annog pobl i ymgysylltu â’r Mind Lleol yn eu hardal i gael cefnogaeth a chyngor hefyd.”
Mae gwybodaeth i oedolion a phobl ifanc am ddelio â galar, teimladau hunanladdol personol neu mewn pobl eraill, problemau bwyta, hunan-barch, iselder ôl-enedigol ac ystod o bynciau iechyd meddwl eraill ar gael yn y Gymraeg yn www.mind.org.uk/cy/gwybodaeth-a-chefnogaeth/