Mae pobl ifanc yng Nghymru yn teimlo’n ‘unig ac yn ddiobaith’ heb y gallu i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl
Mae pobl ifanc yng Nghymru yn teimlo’n ‘unig ac yn ddiobaith’ heb y gallu i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl
Mae Mind Cymru wedi canfod nad yw plant a phobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl pan mae ei angen arnynt, gan eu gadael yn teimlo'n ‘unig ac yn ddiobaith’.
Yn 2018, nododd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Llywodraeth Cymru fwlch critigol mewn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc. Disgrifiwyd hyn gan y pwyllgor fel ‘y canol coll’.
Mae ymchwil newydd gan Mind Cymru yn awgrymu bod hyn yn dal i fod yn broblem, gyda llawer yn dal i ddisgyn i’r ‘canol coll’ - lle mae eu hanghenion yn rhy gymhleth i wasanaethau cyffredinol ond nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cymorth arbenigol.
Mae pobl ifanc* wedi dweud wrth Mind Cymru bod cyfyngiadau o ran cwnsela yn yr ysgol a’r gwasanaethau eraill sydd ar gael wedi eu gadael yn teimlo eu bod yn cael eu stigmateiddio a hefyd yn amharod i ofyn am help.
Dywedodd un person ifanc: “Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn ddigon sâl i gael yr help oedd ei angen arnaf, ond ar yr un pryd roeddwn i’n rhy sâl i gael y cymorth cyffredinol oedd ar gael. Roeddwn i’n unig iawn ac yn teimlo fel baich.”
Dywedodd un arall: “Dydw i ddim yn gwybod a fydd cael cymorth arbenigol yn ymddangos ar fy nghofnod meddyg teulu a gallai hynny effeithio ar geisiadau am swyddi ac addysg yn y dyfodol. Dydw i ddim eisiau i'r defnydd o wasanaethau o’r fath adlewyrchu’n negyddol arna i.”
Mae Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu i bobl ifanc siapio gwasanaethau iechyd meddwl y dyfodol a ddarperir o dan ei strategaeth newydd ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill eleni.
Yn sgil treialu rhaglen ei hun o hunangymorth dan arweiniad ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed i helpu i gefnogi'r ‘canol coll’, mae’r elusen yn galw am well gwasanaethau a rhaglen wedi'i thargedu ar gyfer ysgolion ynghylch stigma iechyd meddwl.
Gwnaeth bron i 700 o bobl ifanc yng Nghymru ddefnydd o wasanaeth Canol Coll Mind, sef model hunangymorth dan arweiniad rhad ac am ddim dros chwe wythnos a oedd wedi’i addasu'n benodol ar gyfer eu hanghenion.
Canfu gwerthusiad o’r rhaglen fod 71% o’r rhai a gymerodd ran wedi profi gwelliannau i’w llesiant - a dywedodd pob person y byddent yn argymell y gwasanaeth i eraill.
Cyflwynwyd y rhaglen gan Mind Cwm Taf Morgannwg, Mind Abertawe a Mind Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a’r Glasoed (SCAMHS), gwasanaethau ieuenctid cymunedol, ysgolion a meddygon teulu.
Mae Lisa Thomas yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gyfun Dŵr Y Felin yng Nghastell-nedd, lle cwblhaodd mwy na 100 o fyfyrwyr raglen ‘Canol Coll’ Mind trwy Mind Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd Lisa: “Rydym yn ymdrechu am degwch i bawb ac i wneud hyn byddwn yn adeiladu ystod o wasanaethau cymorth sy'n gweithio gyda ni yn yr ysgol i gyflawni ein nodau. Mae Mind wedi bod yn hanfodol ac wedi dod i adnabod ein plant fel bod y gefnogaeth a gynigir yn bwrpasol. Maent wedi cynghori disgyblion ar y ffordd orau o gefnogi eu ffrindiau, ac maent wedi treulio amser gyda rhieni yn cynnig arweiniad ar sut y gallant gefnogi eu plant eu hunain orau.”
“Mae iechyd meddwl yn faes hanfodol sydd angen cefnogaeth yn yr ysgol fel bod plant yn gallu dysgu, sefydlu perthnasoedd ystyrlon a bod yn hapus ac yn iach fel bod eu plentyndod a'u blynyddoedd glasoed yn dod yn sylfeini y gallant adeiladu gweddill eu bywydau arnynt,” ychwanegodd Lisa.
“Mae Mind yn gwneud hyn yn ein cymuned ysgol. Maent o'r gymuned, yn cefnogi'r gymuned ac rydym mor ddiolchgar am bopeth maen nhw'n ei wneud."
Mae Mind Cymru eisoes wedi mynegi ei bryder ynghylch ‘dull gweithredu pob oed’ y strategaeth iechyd meddwl newydd ac mae’n ailadrodd ei alwad i anghenion plant a phobl ifanc gael eu clywed.
Mae’r elusen hefyd yn argymell rhagor o gyngor cyffredinol, gwybodaeth a lle diogel i archwilio materion iechyd meddwl mewn sefyllfa addysg.
Dywedodd Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru: Mae Cymru wedi gwneud datblygiadau sylweddol o ran mynd i’r afael â’r ‘canol coll’, gan gynnwys drwy gwnsela yn yr ysgol a dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ond mae pobl ifanc yn dal i ddweud wrthym nad ydyn nhw’n cael y lefel iawn o gymorth ar yr adeg iawn.
Er bod y rhesymau dros hyn yn gymhleth, rydym yn gwybod y gall cynnig ystod well o gefnogaeth, wedi’i theilwra i anghenion pobl ifanc, weithio. Ac mae’n gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i’w hiechyd meddwl ar adeg hollbwysig yn eu bywydau.”
“Bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymorth iechyd meddwl mynediad agored yn galluogi cymorth llawer mwy personol – ond dim ond os yw’r datblygiad yn cael ei arwain gan leisiau pobl ifanc yn ogystal ag oedolion, ac yr eir i’r afael â’u pryderon ynghylch stigma ar yr un pryd.”
Gallwch ddarllen mwy am raglen ac ymgyrch Canol Coll Mind Cymru yma