Get help now Make a donation

Gallai mynd i’r afael â thlodi fod yn allwedd i helpu pobl â’u hiechyd meddwl yng Nghymru heddiw

Thursday, 14 August 2025 Mind

Gallai mynd i’r afael â thlodi fod yn allwedd i greu cenedl â meddyliau iach, yn ôl adroddiad gan Mind Cymru.

Mae mwy o bobl yn gweld lefelau llesiant yn gwaethygu o ganlyniad i amddifadedd ac mae hynny’n ei gwneud yn anos iddynt ddianc rhag tlodi, yn ôl astudiaeth ddiweddaraf yr elusen, ac mae llawer yn cyfeirio at sicrwydd â materion ariannol, tai a chyflogaeth fel meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt er mwyn gwella eu hiechyd meddwl.

Mae diweithdra, heriau wrth geisio cael mynediad at fudd-daliadau a stigma yn ymwneud â thlodi hefyd wedi golygu bod llawer o bobl wedi cael eu dal mewn ‘cylch na ellir dianc ohono’, lle mae arnynt eisiau bwyd a lle maent yn wynebu caledi. Amcangyfrifir bod hyn yn costio £60 miliwn yn ychwanegol mewn gofal iechyd meddwl i Gymru bob blwyddyn.

Pan ofynnwyd iddynt beth fyddai’n eu helpu i reoli eu hiechyd meddwl yn well, dywedodd y bobl a oedd yn ymwneud â Mind Cymru ‘os nad ydw i’n poeni am fy mhryd bwyd nesaf, gallaf flaenoriaethu pethau’n well’ ac mai’r cyfan roedd arnynt ei eisiau oedd ‘teimlo’n ddiogel mewn cartref, gwybod y galla i setlo ac adeiladu cyfeillgarwch a bywyd, a chael sicrwydd’.

Mae’r elusen yn galw yn awr ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu ei hymrwymiad i gefnogi pobl sy’n byw mewn tlodi yn dilyn lansio Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol newydd i Gymru, gan gadw’r mathau hyn o brofiadau mewn golwg. 

Yn dilyn ei chanfyddiadau diweddaraf, mae’r elusen yn dweud ei bod yn hanfodol bod addewidion i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y system iechyd meddwl drwy weithredu cynllun 10 mlynedd newydd ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill eleni, yn cael eu gwireddu yn awr.

Dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd yn Mind Cymru: “Pan wnaethon ni siarad â phobl sydd â phrofiad o iechyd meddwl gwael am y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol newydd i Gymru, dywedodd y rhan fwyaf fod arnynt eisiau ei gweld yn adlewyrchu ac yn mynd i’r afael â phrofiadau pobl sy’n byw mewn tlodi. 

“Ond mae ymchwil pellach yn dweud wrthym bod y mathau hyn o brofiadau yn gadel gormod o bobl yng Nghymru yn teimlo eu bod wedi cael eu dal mewn cylch na allant ddianc ohono o dlodi ac iechyd meddwl gwael – rhywbeth y mae angen mynd i’r afael ag ef ar frys.”

“Mae ar bobl yng Nghymru eisiau sicrwydd ynglŷn â materion ariannol, tai a chyflogaeth, ac rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae mynd i’r afael â’r materion hyn, er mwyn cefnogi iechyd meddwl y genedl, a hefyd fel ffactor amddiffynnol i sicrhau nad yw’n gwaethygu, yn hollbwysig,” meddai Simon.

Yn 2024, canfu Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr Mind fod 60% o bobl mewn astudiaeth yn y DU yn 2023 yn dweud bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar eu lles meddyliol, ac roedd 23% yn teimlo bod eu pryderon ynglŷn â’r cynnydd mewn costau byw yn effeithio ar eu cwsg.

Canfu partneriaeth rhwng Mind Cymru a Cyngor ar Bopeth yn gynharach eleni hefyd fod pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn fwy tebygol o ofyn am help â mater costau byw, ac mewn perthynas â dyled hefyd.

Yn seiliedig ar eiriau a phrofiadau pobl sy’n defnyddio ac yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl drwy rwydwaith Cymru o 16 grŵp Mind lleol, mae Adroddiad Tlodi Mind Cymru yn ceisio cael gwell dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng tlodi ac iechyd meddwl yng Nghymru, gan gadw canfyddiadau fel hyn mewn cof.

Mae ei argymhellion yn cynnwys: 
•    Angen cydnabyddedig i Lywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Lleol a sefydliadau eraill fuddsoddi yn y rôl y mae sefydliadau cymunedol yn ei chwarae wrth gefnogi pobl sydd â phroblemau ariannol a phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig pobl o gymunedau sy’n cael eu trin yn wahanol ar sail hil. 
•    Gwell dealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru o brofiad personol pobl sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru wrth geisio cael mynediad at gymorth iechyd meddwl, a defnyddio hyn i hybu gwelliannau yn ymwneud â mynediad a phrofiadau.
•    Datblygu camau gweithredu a llwybrau cliriach sy’n cefnogi iechyd meddwl a sicrwydd ariannol gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ôl Simon: “Mae gennym gyfle unigryw wrth i ni gychwyn ar gylch 10 mlynedd newydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl yng Nghymru i gydnabod y cysylltiad rhwng tlodi ac iechyd meddwl gwael, a datblygu ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â’r materion hyn gyda’n gilydd.

“Ond er mwyn bod yn wirioneddol effeithiol, rhaid i’r strategaeth newydd fod yn un sy’n gweithio i bawb ac sy’n deg i bawb, gan gydnabod unrhyw rwystrau penodol y gallai pobl ar hyd a lled y wlad fod yn eu hwynebu.”

“Beth mae’r adroddiad yma hefyd yn ei ddangos i ni, yw na allwn beidio â gweithredu ar flaenoriaethau a amlinellwyd gan y naill Lywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru ynglŷn â mynd i’r afael â thlodi er mwyn gwella iechyd meddwl y genedl – yn enwedig o ystyried yr hinsawdd presennol."

Darllenwch yr adroddiad llawn, Living on the Edge: Poverty and Mental Health in Wales, yma.

 

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top