Arolwg yn dangos bod apwyntiadau iechyd meddwl gyda meddygon teulu yng Nghymru wedi methu â diwallu anghenion 1 o bob 3 ymatebydd
Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Mind Cymru heddiw yn dangos bod dros draean yr ymatebwyr yng Nghymru (36%) yn dweud bod eu hapwyntiad iechyd meddwl diwethaf gyda’u meddyg teulu wedi methu â diwallu eu hanghenion.
Dim ond hanner yr ymatebwyr (52%) oedd yn gadael eu hapwyntiad yn teimlo'n obeithiol, a dywedodd nifer tebyg (50%) eu bod wedi cael eu trin yn annheg yn ystod y 12 mis diwethaf wrth geisio cael gafael ar gymorth iechyd meddwl. Daw’r ffigurau hyn er gwaetha’r ffaith bod y mwyafrif helaeth (85%) wedi dweud bod eu meddyg teulu wedi gwrando ar yr hyn oedd ganddynt i’w ddweud yn ystod eu hapwyntiad diwethaf.
Bydd canlyniadau’r arolwg, a gafodd ei gwblhau gan 1,570 o oedolion yng Nghymru, yn cael eu cyhoeddi ar 16 Hydref fel rhan o Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr Mind. Wrth i etholiadau Senedd Cymru agosáu, mae’r elusen yn galw am drawsnewid gwasanaethau gofal sylfaenol.
Bu Mind Cymru yn sgwrsio â dynes o Ben-y-bont ar Ogwr am ei phrofiad hi o orfod disgwyl mis cyfan am apwyntiad gyda’i meddyg teulu, er ei bod hi’n ystyried lladd ei hun. Yn y pen draw bu’n rhaid iddi fynd i’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys am help. Mae hi wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma cymhleth (PTSD). Dywedodd:
“Roeddwn i wedi bod yn gweld seiciatrydd unwaith y flwyddyn ers 2017, ond yn 2020 cefais lythyr yn dweud fy mod i wedi colli apwyntiad ac oherwydd hynny bu’n rhaid i mi gael fy atgyfeirio yn ôl at fy meddyg teulu. Roeddwn i’n siŵr nad oeddwn i wedi colli apwyntiad, ond chefais i ddim opsiwn i ddal ati i gael gofal gan y Seiciatrydd.
“Doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i ddal ati i fyw, roeddwn i’n meddwl am ladd fy hun drwy’r amser. Roeddwn i’n teimlo fel petawn i’n gorfod brwydro i gael lle ar y system eto.
“Rwy’n cofio meddwl, ‘rwy’n gwbl ddi-werth’. Roeddwn i’n teimlo fel niwsans, ond roeddwn i’n gofyn am help er mwyn stopio teimlo fel hyn. Roeddwn i’n sâl iawn ar y pryd, ac roedd yr holl aros yn gwneud pethau’n waeth. Yn ystod y cyfnod gwaethaf datblygais seicosis. Bu’n rhaid i mi fynd i'r adran Ddamweiniau ac Achosion Brys sawl gwaith, ond mewn gwirionedd nid dyna oeddwn i ei angen.
Yn y diwedd bu’n rhaid i mi adael fy swydd. Roeddwn i mewn lle tywyll iawn yn feddyliol am nad oeddwn i’n gallu cael gafael ar y gefnogaeth oedd ei hangen arnaf i.”
Wrth i etholiadau Senedd Cymru 2026 agosáu, mae Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu'r gwaith o gyflawni Strategaeth Iechyd Meddwl 10 mlynedd Cymru ac ailwampio'r system ofal.
Mae hyn yn cynnwys cyflawni’r cynlluniau i ddarparu cymorth iechyd meddwl ar yr un diwrnod i bawb yng Nghymru a rhoi blaenoriaeth i anghenion iechyd meddwl cynyddol plant a phobl ifanc.
Mae’r elusen hefyd yn awyddus i weld rhagor o gydweithio rhwng darparwyr gofal iechyd yn y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol er mwyn rhannu'r baich sydd ar wasanaethau.
Dywedodd Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Gweithredol Mind Cymru: “Mae pobl yng Nghymru yn gorfod aros yn rhy hir o lawer am wasanaethau, ac mewn rhai achosion maent yn methu â chael gafael ar gefnogaeth iechyd meddwl addas. Mae hyn yn effeithio ar berthnasoedd pobl, eu gallu i weithio, eu hiechyd corfforol a’u hunanwerth”
“Yn y mwyafrif o’r achosion hyn, mae’r meddygon teulu a'r darparwyr yn y sector gwirfoddol yn gwneud eu gorau glas, ond nid yw'r system ofal iechyd yn gweithio i bobl sydd ag anghenion iechyd meddwl yng Nghymru heddiw.”
“Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru fynd ati i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau, a blaenoriaethu rhoi atgyfeiriadau ar yr un diwrnod i bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl.”
Mae Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr blynyddol Mind yn casglu data ynghyd am broblemau iechyd meddwl, stigma, gwahaniaethu a phrofiadau go iawn pobl, er mwyn creu darlun llawn o gyflwr iechyd meddwl yng Nghymru a Lloger ar hyn o bryd.