Mae pobl yng Nghymru yn haeddu mynediad at gymorth iechyd meddwl waeth pwy ydyn nhw, neu ble maen nhw
Mae pobl yng Nghymru yn haeddu mynediad at gymorth iechyd meddwl - 'waeth pwy ydyn nhw, neu ble maen nhw'.
Dyna'r neges a roddwyd i brif wneuthurwyr penderfyniadau ynghylch iechyd meddwl yng Nghymru wrth lansio adroddiad effaith blynyddol Ffederasiwn Mind yng Nghymru eleni, 'Iechyd Meddwl yw popeth, pobman, pawb'.
Gan dynnu sylw at y gwasanaethau hanfodol y mae 15 elusen annibynnol Mind yng Nghymru yn eu darparu, ochr yn ochr â gwybodaeth genedlaethol a chefnogaeth gan linellau cymorth Mind a llwyfan cymorth gan gymheiriaid ar-lein, lansiwyd adroddiad 2026 gan Gyfarwyddwr Cyswllt Mind Cymru, Julian John, ochr yn ochr â Lexy Gingell, o brosiect Meddwl Ymlaen Mind yng Ngwent.
Gan roi sylw i’r cyfnod rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025, mae adroddiad effaith diweddaraf Ffederasiwn Mind yng Nghymru, 'Iechyd Meddwl yw Popeth, Pobman, Pawb', yn dangos o fewn yr amser hwnnw:
- Bod grwpiau Mind lleol wedi darparu mwy na 160 o wahanol wasanaethau i gymunedau a chefnogi 32,246 o bobl gyda'u hiechyd meddwl ledled Cymru.
- Gyda chyfraniad gwirfoddolwyr rhoddwyd gwerth £670,815 o amser.
- Derbyniodd pedair llinell gymorth Mind, sy'n cynnwys cyngor ar les a budd-daliadau yn ogystal â chymorth emosiynol, 1,710 o alwadau o Gymru, gyda 37% yn cael eu cyfeirio at eu grŵp Mind lleol am gymorth.
- Rhoddwyd gwerth £332,253 o amser gan wirfoddolwyr ar draws siopau elusen Mind yng Nghaerdydd, Llandudno, Prestatyn a'r Rhyl, gan gynhyrchu incwm o £277,770.
Roedd trafodaeth banel a gynhaliwyd yn y digwyddiad yng Nghaerdydd hefyd yn cynnwys Prif Weithredwr Cwm Taf Mind, Keiran Harris, a chefnogwr Mind, Francesca Murphy, a siaradodd am y gefnogaeth a dderbyniodd drwy Mind ar ôl i ddamwain hwylio effeithio ar ei hiechyd meddwl ei hun, yn ogystal â Kimberley Hodges, Swyddog Prosiect Meddwl Ymlaen.
Gan weithio gyda gwasanaethau ieuenctid, mae Meddwl Ymlaen yn brosiect ar y cyd rhwng Mind yng Ngwent a ProMo Cymru dan arweiniad grŵp o 11 o Gynllunwyr Gwasanaethau gan Gymheiriaid 16-24 oed, sydd wedi'u recriwtio'n ffurfiol i helpu i ddatblygu dulliau newydd o gefnogi iechyd meddwl a gwytnwch ymhlith pobl ifanc ledled Gwent.
Gyda’r prosiect bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, yn ystod y camau cynnar casglwyd gwybodaeth gan dros 200 o bobl ifanc 11–27 oed - gan ddatgelu materion allweddol yn cynnwys ymwybyddiaeth gyfyngedig o wasanaethau, stigma a'r angen am gefnogaeth hyblyg a chyson - sydd bellach yn cael eu defnyddio i hybu datrysiadau iechyd meddwl mwy ymatebol, dan arweiniad pobl ifanc.
Fel un o'r rhai a gyflogwyd, dywed Mali Jones yn yr adroddiad: "Fe wnaethon ni ddarganfod bod pobl yn cael trafferth cael mynediad at wasanaethau ac roedden ni wir eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu uwchsgilio pobl ifanc i gefnogi eu hunain, cefnogi eu cyfoedion, a hefyd roedden ni eisiau targedu gweithwyr proffesiynol, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud hynny yn y ffordd orau a mwyaf effeithlon, ac mewn modd caredig."
Ychwanega Lexy, Cyd-gynllunydd Gwasanaeth: "Mae Meddwl Ymlaen yn gweithredu fel ffordd o gyflwyno pobl ifanc a'u lleisiau...credaf fod ei angen nawr yn fwy nag erioed. Mae pobl ifanc yn haeddu cyfle i gael cymorth iechyd meddwl - waeth pwy ydyn nhw, neu ble maen nhw."
Mae'r prosiect yn un enghraifft yn unig o'r nifer o wahanol wasanaethau sy'n cael eu darparu ar draws Ffederasiwn Mind yng Nghymru sy'n cefnogi nodau a amlinellir yn strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl, ac a lansiwyd yn 2025 gyda ffocws ar fwy o gydweithio ar draws gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaeth a sectorau i ddarparu'r gefnogaeth briodol i bobl ar gyfer eu hiechyd meddwl, pan fo angen.
Meddai Julian John, Cyfarwyddwr Cyswllt Mind Cymru: "Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb a neilltuodd amser i glywed am y gwaith y mae ein grwpiau Mind lleol yn parhau i'w wneud i newid bywydau a chefnogi anghenion iechyd meddwl pobl ledled Cymru. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r bobl ifanc o brosiect Meddwl Ymlaen ac i'n panel am rannu eu profiadau eu hunain er budd eraill, sydd ddim bob amser yn hawdd."
"Rydyn ni i gyd eisiau gweld system iechyd meddwl sy'n gweithio i bawb, ac rydyn ni'n ffodus i gael strategaeth iechyd meddwl bwrpasol yma yng Nghymru i gefnogi hyn. Dim ond trwy waith caled staff, gwirfoddolwyr, ymgyrchwyr a chefnogwyr yn ein cymunedau y gallwn byth obeithio cyflawni'r nodau hyn."
"Felly mae wedi bod yn brofiad teimladwy casglu a chydnabod gyda'n gilydd yr effaith y mae Mind yn parhau i'w chael ar lefel leol a chenedlaethol, ac ystyried yr uchelgeisiau ehangach ar gyfer iechyd meddwl sydd gennym mewn golwg fel gwlad."