Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD)

Mae’r dudalen hon yn esbonio anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael mynediad at driniaeth a chymorth. Mae’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Therapi siarad ar gyfer OCD

Efallai y cewch gynnig therapi siarad ar gyfer OCD. Gall hyn fod ar ei ben ei hun, neu ynghyd â meddyginiaeth

Dechreuais ddysgu sut i reoli fy OCD pan siaradais â therapydd.

Therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) gydag amlygiad ac atal ymateb (ERP)

CBT gydag ERP yw'r driniaeth siarad a argymhellir fwyaf ar gyfer OCD. Mae'n cyfuno dau fath o therapi:

  • Mae therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) yn canolbwyntio ar sut mae eich meddyliau, eich credoau a'ch agweddau yn effeithio ar eich teimladau a'ch ymddygiad. Gweler ein tudalen CBT i ddysgu rhagor.
  • Mae amlygiad ac atal ymateb (ERP) wedi'i gynllunio i drin OCD. Mae'n eich annog i wynebu a derbyn eich obsesiynau, a gwrthsefyll yr ysfa i gyflawni gorfodaeth.

Efallai y cewch gynnig CBT gydag ERP wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. A gallai fod ar sail un-wrth-un neu mewn grŵp. Mae'n dibynnu ar eich anghenion a'r gwasanaethau yn eich ardal.

Yn ystod ERP, efallai y bydd eich therapydd yn eich annog i wneud, dweud neu feddwl pethau am eich obsesiynau neu ofnau. Yna byddant yn eich helpu i geisio goddef y gofid neu'r ansicrwydd, yn hytrach na gwneud gorfodaeth.

Dylai eich therapydd eich helpu i wneud hyn ar eich cyflymder eich hun a'ch cefnogi ar hyd y ffordd. Byddant fel arfer yn dechrau gyda heriau llai ac yn eich helpu i adeiladu eich hyder i wrthsefyll gorfodaeth.

Nod ERP yw eich helpu i weld y bydd y teimladau anghyfforddus yn diflannu yn y pen draw, hyd yn oed os na fyddwch chi'n perfformio gorfodaeth.

Gall y math hwn o therapi fod yn heriol. Ar y dechrau, gallai wneud i chi deimlo'n fwy gofidus. Gallai fod o gymorth i chi siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am unrhyw bryderon cyn i chi ddechrau ERP. Gallant ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am yr hyn y mae'n ei gynnwys.

Ceisio therapi yn breifat

Gall amseroedd aros am therapi trwy’r GIG fod yn hir. Ac nid yw'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom bob amser ar gael.

Oherwydd hyn, efallai y byddwch yn ystyried mynd yn breifat. Yn anffodus, gall hyn fod yn ddrud felly efallai na fydd yn bosibl.

Mae rhai therapyddion preifat yn cynnig sesiynau rhatach, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Felly efallai y byddai'n werth edrych ar eu gwefan neu gysylltu â nhw i weld a yw hyn yn rhywbeth y gallant ei wneud.

Mae'n bwysig dod o hyd i'r cymorth cywir ar gyfer eich anghenion. Nid yw rhai mathau o therapi sy'n canolbwyntio ar eich profiadau yn y gorffennol neu ar ddod o hyd i ystyr yn eich meddyliau yn cael eu hargymell ar gyfer OCD. Gallant waethygu symptomau.

Gallai fod o gymorth i siarad ag unrhyw therapydd posibl a gofyn faint o brofiad sydd ganddynt o drin OCD. Neu fe allai fod o gymorth i chwilio am bobl sy'n cynnwys ERP yn eu therapi.

Ewch i'n tudalen ceisio therapi preifat i ddysgu rhagor.

Cwrddais â’r seicolegydd a dangosodd i mi fod yna ffordd ymlaen. Bob wythnos roeddwn i’n herio gorfodaeth a des i gam yn nes at fod y person roeddwn i’n arfer bod

Meddyginiaeth ar gyfer OCD

Efallai y cynigir y meddyginiaethau canlynol i chi ar gyfer OCD, naill ai ar eu pen eu hunain neu ochr yn ochr â therapi siarad:

Mae gwahanol bobl yn gweld gwahanol feddyginiaethau yn ddefnyddiol. Gallwch siarad â'ch meddyg am eich opsiynau. Efallai y bydd angen i chi roi cynnig ar ychydig o wahanol fathau o feddyginiaeth cyn i chi ddod o hyd i un sy'n gweithio i chi.

Mae meddyginiaeth yn helpu rhai pobl. Ond nid yw'n iawn i eraill. Cyn penderfynu cymryd unrhyw feddyginiaeth, mae'n bwysig cael yr holl ffeithiau sydd eu hangen arnoch i wneud dewis gwybodus.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am unrhyw fanteision a sgil-effeithiau posibl y cyffur. Os nad ydych yn deall unrhyw agwedd ar feddyginiaeth a gynigir i chi, peidiwch â bod ofn gofyn cymaint o gwestiynau ag y teimlwch sydd eu hangen arnoch.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau ar bethau i'w hystyried cyn cymryd meddyginiaeth a'ch hawl i wrthod meddyginiaeth. I gael canllawiau ar sut i ddod oddi ar feddyginiaeth yn ddiogel, gweler ein tudalennau ar roi'r gorau i feddyginiaeth.

Dwi wedi bod ar feddyginiaeth am y tair blynedd diwethaf a dwi’n gallu rheoli fy OCD llawer yn well.

Sut alla i gael mynediad at driniaeth ar gyfer OCD?

Y cam cyntaf i gael triniaeth ar gyfer OCD fel arfer yw ymweld â'ch meddyg teulu. Dylai eich meddyg teulu ofyn am eich symptomau a thrafod gwahanol opsiynau triniaeth.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig triniaeth ar gyfer iselder, gorbryder, a rhai problemau iechyd meddwl eraill - gan gynnwys OCD. Gall amseroedd aros ar gyfer hyn amrywio, a gall fod yn hir weithiau.

Bydd y triniaethau a gynigir i chi yn dibynnu ar faint y mae OCD yn effeithio ar eich bywyd, a faint o ofid y mae'n ei achosi i chi. Gall hefyd ddibynnu ar unrhyw driniaethau yr ydych wedi rhoi cynnig arnynt yn y gorffennol, ac a weithiodd y rhain neu beidio.

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) – y sefydliad sy’n llunio canllawiau ar arferion gorau mewn gofal iechyd – yn awgrymu y dylai triniaeth ar gyfer OCD gynnwys triniaethau siarad neu feddyginiaeth, neu’r ddau. Mae gan wefan NICE ganllawiau ac argymhellion llawn ar gyfer trin OCD.

Os teimlwch nad yw triniaeth yn gweithio i chi, mae'n syniad da trafod hyn gyda'ch meddyg teulu. Efallai y bydd eraill ar gael.

Beth os ydw i'n poeni am siarad â fy meddyg?

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n ofnus ynglŷn â dweud wrth unrhyw un, hyd yn oed meddyg, am eich meddyliau ymwthiol.

Efallai y byddwch yn poeni y cewch eich barnu am feddyliau graffig neu sarhaus. Neu y gallai'r meddyg eich adrodd i'r heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol. Neu efallai y byddwch yn ei chael yn anodd rhannu faint o amser y mae eich gorfodaeth yn ei gymryd.

Gallai hyn ei gwneud hi'n anodd cael y cymorth cywir. Ond mae'n bwysig bod mor agored â phosibl, fel y gallwch gael mynediad at y triniaethau gorau i chi.

Cyn eich apwyntiad, efallai y byddai'n ddefnyddiol nodi'r ffyrdd y mae eich OCD yn effeithio ar eich bywyd, i ba raddau y mae eich symptomau’n eich gofidio a faint o amser y maent yn ei gymryd. Gall hyn eich helpu i gofio beth sydd angen i chi ei ddweud yn y foment. Gallech hefyd ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddo i fynd gyda chi.

Mae gennym ragor o wybodaeth am siarad â meddyg teulu am eich iechyd meddwl. Mae gan OCD Action hefyd dudalen ar baratoi ar gyfer apwyntiad meddyg teulu am OCD. Ac mae gan OCD-UK ganllaw syml y gallwch ei argraffu, ei gwblhau a mynd ag ef gyda chi.

Gwasanaethau OCD arbenigol

Os yw eich OCD yn ddifrifol iawn ac nad yw meddyginiaeth neu therapi siarad wedi helpu, efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaeth OCD arbenigol. Yn anffodus, nid oes gan bob ardal wasanaethau arbenigol ac efallai y bydd yn rhaid i chi deithio y tu allan i'ch ardal leol.

Mae gan OCD-UK ragor o wybodaeth am wasanaethau triniaeth OCD arbenigol y GIG.

Cefnogaeth gofal cymdeithasol

Yn dibynnu ar sut mae eich OCD yn effeithio ar eich bywyd, efallai y byddwch yn gymwys i gael gofal cymdeithasol.

Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cefnogi pobl sy'n cael trafferth rheoli gweithgareddau o ddydd i ddydd. Gallwch ddarllen rhagor am ofal cymdeithasol yn ein canllaw hawliau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Tachwedd 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig