Mae’r cymorth iechyd meddwl iawn yn gallu newid bywydau. Mae’n gallu stopio pobl rhag cyrraedd argyfwng. Mae’n gallu achub bywydau.
Dylai pawb allu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl sy’n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gweld, ac sy’n dechrau ar y diwrnod maen nhw’n gofyn am help.
Ond mae gormod ohonom ni’n cael profiad gwahanol iawn. Rydyn ni’n gofyn am help, ond yn gorfod aros. Rydyn ni’n adrodd ein stori, ond does neb yn gwrando.
Does dim rhaid i bethau fod fel hyn.
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, ymunwch â’n hymgyrch i drawsnewid dyfodol cymorth iechyd meddwl, ar sail ‘mynediad agored ar yr un diwrnod’. Sut bynnag rydyn ni’n gofyn am help, dylen ni gael ein gweld – ein gweld go iawn – ar yr un diwrnod.
Ail-ddychmygwch ein system iechyd meddwl.
Dychmygwch: dim mwy o restrau aros diddiwedd. Dim mwy o gael ein pasio o un gwasanaeth iechyd meddwl i'r llall. Dim mwy o deimlo'n waeth wrth aros am gymorth.
Dydyn ni ddim yn dweud y bydd hyn yn hawdd. Ond nid yw'r ffaith ei fod yn anodd yn rheswm dros beidio â'i wneud.
Ymunwch â'r frwydr ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni
Chwiliais am help am y tro cyntaf yn 2005, ond nid tan 2022 y cefais y diagnosis, y driniaeth a’r feddyginiaeth gywir.
Gavin
Roedd gwneud yr alwad at linell wybodaeth Mind yn hollbwysig yn fy nhaith tuag at adferiad. Am y tro cyntaf roeddwn i'n teimlo fy mod yn gallu siarad am fy iechyd meddwl mewn man anfeirniadol a diogel.
Gavin
Ymunwch â'n hymgyrch
Dydy’r sefyllfa bresennol ddim yn gynaliadwy. Mae angen cymorth ar ragor o bobl. Dim ond mynd yn hirach mae’r rhestrau aros. Mae arnom angen ateb newydd.
Felly rydyn ni’n adeiladu mudiad i wireddu hyn. Pobl â phrofiad bywyd. Gweithwyr iechyd proffesiynol. Llunwyr polisïau. Gwleidyddion. Pawb sy’n gallu gweld bod mynediad agored ar yr un diwrnod yn well i’n hiechyd meddwl ac i’n system iechyd meddwl.
Gyda mynediad agored ar yr un diwrnod, rydyn ni’n cael y cymorth rydyn ni ei angen, pan fyddwn ni ei angen.
Ymunwch â'n hymgyrch a’n helpu ni i frwydro dros newid.
Stori Gavin
Darllenwch stori Gavin am sut y cymerodd hi 17 mlynedd iddo dderbyn y cymorth yr oedd ei angen arno.
Ein gwybodaeth
Mae ein gwybodaeth yn grymuso pobl i wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd meddwl. Mae'n helpu pobl i fyw gyda phroblemau iechyd meddwl ac adfer ohonynt.
Grwpiau Mind lleol
Mae ein rhwydwaith anhygoel o grwpiau Mind lleol ledled Cymru a Lloegr yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl sy'n mynd i'r afael â'r heriau y mae eu cymunedau'n eu hwynebu.
Siaradwch â ni
Mae gennym ni 4 llinell gymorth sy'n diwallu gwahanol anghenion iechyd meddwl neu lesiant. Rydyn ni'n gwybod bod iechyd meddwl yn gysylltiedig â phopeth, ac rydyn ni yma i'ch cefnogi chi.