Pam mae mynediad agored ar yr un diwrnod yn bwysig
Mae’r cymorth iechyd meddwl iawn yn gallu newid bywydau. Mae’n gallu stopio pobl rhag cyrraedd argyfwng. Mae’n gallu achub bywydau.
Dylai pawb allu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl sy’n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gweld, ac sy’n dechrau ar y diwrnod maen nhw’n gofyn am help.
Ond mae gormod ohonom ni’n cael profiad gwahanol iawn. Rydyn ni’n gofyn am help, ond yn gorfod aros. Rydyn ni’n adrodd ein stori, ond does neb yn gwrando.
Does dim rhaid i bethau fod fel hyn.
Ymunwch â’n hymgyrch
Rydym yn ymgyrchu i drawsnewid dyfodol cymorth iechyd meddwl, ar sail ‘mynediad agored ar yr un diwrnod’ – sut bynnag rydyn ni’n gofyn am help, dylen ni gael ein gweld – ein gweld go iawn – ar yr un diwrnod.
Dydy’r sefyllfa bresennol ddim yn gynaliadwy. Mae angen cymorth ar ragor o bobl. Dim ond mynd yn hirach mae’r rhestrau aros. Mae arnom angen ateb newydd.
Felly rydyn ni’n adeiladu mudiad i wireddu hyn. Pobl â phrofiad bywyd. Gweithwyr iechyd proffesiynol. Llunwyr polisïau. Gwleidyddion. Pawb sy’n gallu gweld bod mynediad agored ar yr un diwrnod yn well i’n hiechyd meddwl ac i’n system iechyd meddwl.
Gyda mynediad agored ar yr un diwrnod, rydyn ni’n cael y cymorth rydyn ni ei angen, pan fyddwn ni ei angen.
Mae'n bryd i bob un ohonom sefyll i fyny a dweud, "gwêl fi nawr".
Rydw i wedi treulio blynyddoedd yn ymladd i gael fy nghlywed. Ac rydw i wedi blino'n lân ar orfod profi pa mor sâl ydw i, dim ond i gael fy ystyried yn deilwng o gefnogaeth. Ni ddylai neb orfod cyrraedd argyfwng cyn cael cymorth.
Natalie
Ein galwad
Sut bynnag rydyn ni’n gofyn am help, dylen ni gael ein gweld – ein gweld go iawn – ar yr un diwrnod.
Gallai'r sgwrs gyntaf honno ddigwydd wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn. Ond dylai bob amser ein gadael ni'n teimlo'n obeithiol, yn cael ein deall ac ar y llwybr at y gefnogaeth sydd ei hangen arnom.
Nid breuddwyd gwrach mo hon.
Mae grwpiau Mind lleol wedi gweithio fel hyn ers blynyddoedd. Bob dydd, maen nhw'n agor eu drysau heb wybod pwy fydd angen eu cymorth, ond maent bob amser yn barod i wrando, cynnig cefnogaeth a helpu i ddod o hyd i atebion.
Gadewch i ni ail-ddychmygu ein system iechyd meddwl.
Dychmygwch: dim mwy o restrau aros diddiwedd. Dim mwy o gael ein pasio o un gwasanaeth iechyd meddwl i'r llall. Dim mwy o deimlo'n waeth wrth aros am gymorth.
Dydyn ni ddim yn dweud y bydd hyn yn hawdd. Ond nid yw'r ffaith ei fod yn anodd yn rheswm dros beidio â'i wneud.
Yn ystod fy adegau tywyllaf, fe wnaeth gweithwyr proffesiynol tosturiol fy helpu i ddod o hyd i obaith a chred yn fy nyfodol… Fy ngobaith yw system iechyd meddwl lle mae pob person yn teimlo ei fod yn cael ei glywed, ei gefnogi a'i rymuso.
Alison
Keep up to date with Mind's work
Together, we're fighting for a mental health system that works for all of us. Because the right support today saves lives tomorrow.
Be part of the change
Join our mailing list to stay up to date with our campaigns and the difference we’re making together. You'll be the first to hear about events, fundraising opportunities and other ways to support our work. You can unsubscribe at any time.
You can find out how we use and look after your personal information in our Privacy Policy . For more information, or to stop receiving these emails, contact [email protected] or 020 8215 2243.