Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Fy hunllef rhestr aros

Dydd Iau, 22 Awst 2024 Gavin

Ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae Gavin, sydd ag anhwylder personoliaeth ffiniol ac anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth, yn blogio ynglŷn â sut y cymerodd hi 17 mlynedd iddo dderbyn y cymorth yr oedd ei angen arno.

Mae amseroedd aros hir y GIG yn y DU wedi bod yn un o'r rhannau anoddaf o reoli fy nghyflwr. Pan ydw i wedi gallu cael cymorth proffesiynol, rydw i wedi cael problemau gyda chamddiagnosis a meddyginiaeth amhriodol. Mae hyn yn aml wedi gwneud fy symptomau yn fwy peryglus.

Dechreuais brofi symptomau fel pryder cymdeithasol ac ymddygiad hunan-ddinistriol yn fy arddegau. Doeddwn i ddim yn deall pam oeddwn i'n teimlo fel yr oeddwn i. Yn sgil anwybodaeth ynglŷn â ble i geisio cymorth, fe wnes i hunan-feddyginiaethu gydag alcohol a chyffuriau. Pan siaradais â'm meddyg teulu o’r diwedd, roedd yn feirniadol o’m dewisiadau o ran ffordd o fyw, ac nid oedd yn cydnabod bod fy nghamddefnyddio sylweddau yn symptom o broblemau iechyd meddwl.

"Roedd gwneud yr alwad i Mind yn allweddol yn fy nhaith tuag at adferiad. Am y tro cyntaf roeddwn i'n teimlo fy mod yn gallu siarad am fy iechyd meddwl mewn man anfeirniadol a diogel."

Argymhellodd fy mod yn ceisio cymorth ar gyfer dibyniaeth ar alcohol, a rhagnododd wrthiselydd i mi heb awgrymu unrhyw fath o therapi siarad. Daliais i hunan-feddyginiaethu ag alcohol am beth amser a dechreuais golli gobaith y byddwn i byth yn teimlo'n well. Dyma pryd y gwelais hysbyseb ar gyfer Llinell Gymorth Mind a galw eu tîm cymorth.

Roedd gwneud yr alwad hon yn hollbwysig yn fy nhaith tuag at adferiad. Am y tro cyntaf roeddwn i'n teimlo fy mod yn gallu siarad am fy iechyd meddwl mewn man anfeirniadol a diogel. Gwrandawodd y cynghorydd arnaf a’m helpu i ddeall y camau yr oedd angen i mi eu cymryd i geisio triniaeth broffesiynol.

"Cefais fy rhoi ar restr aros arall, y tro hwn ar gyfer nyrs seiciatrig gymunedol. Gwaethygodd fy nghyflwr yn sylweddol."

Ar ôl siarad â’m meddyg teulu, rhagnodwyd cwrs o therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) i mi. Roedd yn rhaid i mi aros am chwe wythnos cyn i mi weld therapydd, a mynychais gwrs o chwe sesiwn. Helpodd CBT fi i reoli rhai o fy symptomau a dysgu strategaethau ymdopi iachach. Fodd bynnag, roeddwn yn dal i fod angen cymorth mwy arbenigol ar gyfer fy ymddygiadau seicotig, datgysylltiol a hunanddinistriol. Felly cefais fy rhoi ar restr aros arall – y tro hwn ar gyfer nyrs seiciatrig gymunedol.

Roeddwn i'n teimlo bod fy mywyd wedi'i ohirio. Gwaethygodd fy nghyflwr yn sylweddol, gwaethygodd fy mhroblemau gydag alcohol ac ar adegau roedd yn teimlo fel fy mod ar ben fy nhennyn. Roedd hi’n wyth mis cyn i mi gael apwyntiad o’r diwedd i weld nyrs seiciatrig gymunedol am asesiad. Canlyniad hyn oedd argymhelliad bod angen triniaeth arnaf gan Seicolegydd Clinigol Arbenigol, a oedd yn golygu rhestr aros hir arall.

Roeddwn i'n teimlo fy mod yn ôl i sgwâr un. Dechreuais deimlo’n anobeithiol a dechreuais hunan-niweidio.

Cyflwynodd y seicolegydd clinigol dechnegau hunan-dosturiol defnyddiol. Fodd bynnag, ar ôl i gwrs y driniaeth ddod i ben fe wnes i atglafychu eto. Ar ôl mwy o ymweliadau â'r adran damweiniau ac achosion brys a'r tîm argyfwng, argymhellwyd bod angen i mi weld seiciatrydd arbenigol. Ac ymlaen yr aeth pethau, a minnau’n cael fy ngwthio o bant i bentan.

"Chwiliais am help am y tro cyntaf yn 2005, ond nid tan 2022 y cefais y diagnosis, y driniaeth a’r feddyginiaeth gywir."

O’r diwedd, yn 2022 derbyniais yr help yr oedd ei angen arnaf. Gyda’n gilydd, daeth fy seiciatrydd a minnau o hyd i gyffur gwrthseicotig sydd wedi fy ngalluogi i reoli fy symptomau yn ddyddiol, a dydw i ddim wedi cael fy nerbyn i’r ysbyty ers dros ddwy flynedd.

Yn ystod y cyfnod hwn, cefais fy rhoi ar restrau aros am dros flwyddyn ar sawl achlysur, dim ond i ddarganfod fy mod wedi bod yn aros am y therapi anghywir ac wedi gorfod mynd yn ôl i sgwâr un. Rydw i wedi bod yn yr ysbyty ar sawl achlysur tra ar restrau aros, gan nad ydw i wedi gallu ymdopi am gyfnodau hir heb gymorth. Ddwy flynedd ar bymtheg ers chwilio am help rydw i o’r diwedd mewn lle mwy diogel, ond mae’r amseroedd aros yn ystod y cyfnod nid yn unig wedi bod yn rhwystredig ond hefyd wedi rhoi fy mywyd mewn perygl. Rydw i'n ystyried fy hun yn ffodus fy mod wedi goroesi.

 

 

If there is an image in the blog insert more blog copy below the image. If no image you can delete this. 

If the blog has signposts put them here.

 

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig