Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut i helpu rhywun ifanc arall sy’n hunan-niweidio – i bobl 11-18 oed 

Awgrymiadau a syniadau i bobl ifanc am sut i helpu ffrindiau, partneriaid, brodyr, chwiorydd neu bobl ifanc eraill sy’n hunan-niweidio.

Awgrymiadau am sut i helpu rhywun sy’n hunan-niweidio 

Weithiau, mae’n anodd gwybod beth i’w wneud i helpu rhywun sy’n hunan-niweidio. Mae ein gwybodaeth ni fan hyn i dy helpu di.

Mae gan y dudalen awgrymiadau a syniadau am sut i siarad gyda nhw, sut i’w helpu nhw, a sut i ofalu amdanat ti dy hun.

Efallai y bydd rhai o’r awgrymiadau’n gweithio’n well i ti na rhai eraill. Neu efallai y bydd rhai ohonyn nhw’n teimlo’n rhy anodd ar y funud.

Cofia fod yn garedig wrthyt ti dy hun, a rhoi cynnig ar y pethau rwyt ti’n gyfforddus yn eu gwneud, a dyna ni.

Os wyt ti’n poeni bod rhywun ifanc ti’n ei adnabod wedi brifo’i hun yn ddifrifol, fe alli di:

 

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans
  • Rhoi gwybod i oedolyn dibynadwy a gofyn iddo ffonio 999
decorative

Rhybudd: efallai y bydd rhywfaint o’r wybodaeth ar y dudalen hon yn anodd i’w darllen neu’n gwneud i ti deimlo’n emosiynol. Gwna’n sicr dy fod ti’n teimlo ddiogel cyn cario ymlaen i ddarllen.

Beth yw hunan-niweidio?

Cyn darllen ein hawgrymiadau a’n syniadau am sut i helpu rhywun sy’n hunan-niweidio, beth am ddod i ddeall beth ydy hunan-niweidio?

Os wyt ti’n hunan-niweidio, mae gennyn ni wybodaeth i dy helpu dithau hefyd.

Arwyddion bod rhywun yn hunan-niweidio

Mae’n gallu bod yn anodd gwybod a ydy rhywun yn hunan-niweidio.

Dydy pawb sy’n mynd drwy gyfnod anodd ddim yn hunan-niweidio. Efallai y bydd rhai pobl sy’n hunan-niweidio yn ceisio cuddio hynny, neu’n hunan-niweidio mewn llefydd cudd. A fydd pob math o hunan-niweidio ddim yn gadael creithiau na marciau.

Ceisia beidio â chymryd y peth yn rhy bersonol os byddi di’n darganfod bod rhywun sy’n bwysig i ti wedi hunan-niweidio, ond heb ddweud wrthyt ti. Efallai nad ydy’r unigolyn hwnnw’n barod i siarad am y peth eto.

Efallai y bydd rhywun sy’n hunan-niweidio:

  • Yn teimlo’n isel ei ysbryd
  • Heb lawer o hunanhyder
  • Yn ddig neu’n gwylltio’n hawdd
  • Yn cefnu ar bawb neu’n ymddangos yn bell i ffwrdd
  • Yn gwneud pethau mwy peryglus, fel yfed neu gymryd cyffuriau
  • Yn ei chael hi’n anodd gofalu amdano’i hun, er enghraifft drwy beidio â bwyta, neu drwy beidio ag ymolchi neu frwsio dannedd
  • Yn ceisio cuddio cleisiau neu glwyfau neu’n gwrthod eu hesbonio
  • Yn cuddio rhannau o’i gorff y byddai’n eu dangos gan amlaf, er enghraifft wrth newid i wneud chwaraeon neu mewn tywydd poeth

Gallai’r rhain hefyd fod yn arwydd bod rhywun yn llithro yn ôl i’w hen arferion. Ystyr hynny ydy pan fydd rhywun wedi rhoi’r gorau i hunan-niweidio ond wedi ailddechrau.

A gallai rhai o’r rhain fod yn arwydd o rywbeth arall – fel teimlo’n ddig neu sefyllfa lle bydd rhywun yn cael ei gam-drin. Dydy’r rhain ddim wastad yn golygu y bydd rhywun wedi hunan-niweidio.

Ond os byddi di’n sylwi ar rywbeth sy’n dy boeni, neu os nad wyt ti’n siŵr, mae’n iawn i ti ofyn. Mae gennyn ni awgrymiadau am sut i siarad gyda phobl am hunan-niweidio.

Rydw i’n credu bod gweld ffrind yn hunan-niweidio yn anodd, oherwydd mae rhywun yn teimlo pob math o emosiynau gwahanol. Roeddwn i eisiau ei helpu hi, ond hefydd roedd ei helpu hi yn fy mrifo i. Roeddwn i eisiau dweud wrth ei rhieni, ond wedyn byddai hynny wedi ei gwylltio – Molly, 17

Sut wyt ti’n teimlo

Mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth i’w wneud wrth ddarganfod bod rhywun sy’n bwysig i ti’n hunan-niweidio.

Efallai y byddi di’n teimlo:

  • Yn ddi-glem neu’n ynysig – efallai y byddi di’n teimlo nad wyt ti’n gwybod beth i’w wneud, neu sut i ymdopi.
  • Yn ofnus neu’n bryderus – efallai y byddi di’n poeni amdanyn nhw, am beth allan nhw’i wneud yn y dyfodol, neu am sut gallan nhw gael help.
  • Yn drist – efallai y byddi di’n poeni y bydd angen llawer o amser iddyn nhw deimlo’n well. Neu’n dymuno iddyn nhw beidio â theimlo bod angen iddyn nhw hunan-niweidio.
  • Yn llawn sioc neu wedi dy lethu – efallai y bydd y peth yn dy synnu di. Efallai y byddi di’n teimlo na alli di eu helpu nhw ar dy ben dy hun, neu nad wyt ti’n gwybod at bwy i droi.
  • Yn ddig – efallai na fyddi di’n deall pam eu bod nhw wedi brifo’u hunain. Neu’n teimlo bod pethau y tu hwnt i dy reolaeth di. Mae gennyn ni ragor o wybodaeth am ddicter.
  • Wedi drysu – efallai na fyddi di’n gwybod beth ydy hunan-niweidio nac yn adnabod neb sydd wedi hunan-niweidio o’r blaen.
  • Yn euog – efallai y byddi di’n teimlo’n ddrwg nad wyt ti wedi sylwi cyn hyn. Neu’n teimlo y gallet ti fod wedi gwneud mwy neu wneud rhywbeth yn wahanol.

Sut bynnag rwyt ti’n teimlo ar hyn o bryd, mae hynny’n iawn.

Os wyt ti wedi hunan-niweidio hefyd

Mae hi’n gallu bod yn fwy anodd fyth helpu rhywun arall os wyt ti dy hun wedi hunan-niweidio. Efallai y byddi di’n ceisio peidio â hunan-niweidio hefyd. Neu dy fod ti’n poeni am lithro yn ôl i’r hen arferion.

decorative

Cofia, dim dy waith di ydy gwneud popeth yn well, a dim ti sy’n gyfrifol am eu cadw nhw’n ddiogel. Mae angen i ti ofalu amdanat ti dy hun, hefyd.

Awgrymiadau am sut i siarad gyda rhywun sy’n hunan-niweidio

Pan fydd rhywun sy’n bwysig i ti wedi hunan-niweidio, mae gwybod beth i’w ddweud neu sut i ddweud hynny’n gallu bod yn anodd.

Mae siarad am hunan-niweidio’n gallu bod yn anodd. Efallai y bydd pobl sy’n hunan-niweidio yn teimlo’n euog neu’n teimlo cywilydd. Neu efallai y byddan nhw’n poeni y bydd pobl eraill yn eu barnu nhw.

Os galli di ddechrau’r sgwrs, efallai y byddan nhw’n teimlo’n fwy parod i fod yn agored. Fe alli di gael sgwrs wyneb yn wyneb, drwy alwad ffôn neu drwy decstio.

Roedd gweld un o fy ffrindiau gorau yn mynd drwy gyfnod mor ofnadwy yn anodd. Dechreuodd y peth gael effaith fawr arna i. Yn sydyn roeddwn i’n teimlo’n bryderus o hyd a dechreuais i gael pyliau o banig hefyd – Molly, 17

Sut i ddechrau’r sgwrs

Beth am geisio cychwyn y sgwrs fel hyn:

  •  ‘Rwy’n gwybod nad wyt ti wedi bod yn teimlo’n dda iawn yn ddiweddar. Oes yna rywbeth hoffet ti siarad amdano?’
  •  ‘Dydw i ddim yn mynd i dy orfodi di i siarad, ond rydw i yma os wyt ti eisiau siarad.’
  •  ‘Rydw i wedi sylwi dy fod ti’n ymddwyn ychydig yn wahanol yn ddiweddar, ydy popeth yn iawn?’
  •  'Rwy’n poeni amdanat ti, wyt ti eisiau sgwrs?’
  • ‘Rydw i wedi sylwi ar arwyddion dy fod ti efallai’n hunan-niweidio. Gawn ni sgwrs am y peth?’
  •  ‘Sut wyt ti’n teimlo? Wyt ti eisiau help?’
decorative

Os nad ydyn nhw eisiau siarad y funud honno – ceisia beidio cymryd hynny’n rhy bersonol. Atgoffa nhw dy fod ti yno iddyn nhw pan fyddan nhw’n barod.



Os ydyn nhw’n teimlo’n barod i siarad

Mae cael sgwrs am hunan-niweidio’n gallu bod yn anodd, ond dyma ychydig o awgrymiadau gennyn ni:

  • Paid â chynhyrfu, a cheisia osgoi mynd i banig. Y peth gorau y gallwn ni’i wneud ydy gwrando a pheidio â’u rhuthro nhw. Mae hyn yn gallu teimlo’n anodd os nad ydyn ni wedi paratoi. Ceisia gofio pa mor anodd fydd hi iddyn nhw fod yn agored. Beth am anadlu a chael saib cyn i ti ymateb?  
  • Paid â’u barnu nhw. Paid â gwneud iddyn nhw deimlo’n ddrwg am hunan-niweidio. Bydd hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo’n waeth. Weithiau, mae’n syniad da deall rhai o’r mythau am hunan-niweidio sy’n gallu gwneud i ni deimlo bod pobl yn ein barnu ni.
  • Cymera nhw o ddifri. Efallai ei bod hi’n anodd i ti ddeall hunan-niweidio. Ond ceisia barchu’r ffaith mai rhywbeth maen nhw’n ei wneud i ymdopi ydy hyn. Mae’n nhw’n bod yn ddewr iawn yn siarad gyda ti am y peth.
  • Rho wybod iddyn nhw dy fod ti yma iddyn nhw. Efallai y byddan nhw’n poeni sut bydd pobl yn ymateb. Gall dy gefnogaeth di fod yn gefn mawr iddyn nhw. Beth am siarad am y pethau y galli di eu gwneud, a’r pethau na alli di eu gwneud, i helpu?
  • Cynigia eu helpu nhw i ddod o hyd i gymorth, neu i siarad ag oedolyn dibynadwy. Fe alli di gynnig bod yn gwmni iddyn nhw os ydyn nhw eisiau dweud wrth rywun, neu wrth wneud apwyntiad meddyg neu aros am help. Efallai nad hon fydd y foment iawn, ond efallai y byddan nhw’n derbyn dy gynnig pan fyddan nhw’n parod.
  • Ceisia ddeall sut maen nhw’n teimlo. Hyd yn oed os nad wyt ti’n deall pam eu bod nhw wedi hunan-niweidio, gwrandawa ar sut maen nhw’n teimlo ac ar sut mae hunan-niweidio yn effeithio arnyn nhw.
  • Darllena ein gwybodaeth am ymdopi â hunan-niweidio. Gallet ti gynnig darllen y wybodaeth gyda nhw.

Weithiau, efallai y bydd rhywun yn dechrau sgwrsio am hunan-niweidio a ninnau’n teimlo nad ydyn ni wedi paratoi. Os nad ydyn ni’n teimlo ein bod ni wedi paratoi, efallai y byddwn ni’n gwneud neu’n dweud pethau nad ydyn ni’n eu golygu. Mae hynny’n iawn.

Gallwn ni deimlo llawer o emosiynau anodd pan fydd rhywun sy’n bwysig i ni mewn poen. Os nad aeth pethau’n dda y tro cyntaf, beth am roi cynnig ar ddilyn yr awgrymiadau yma y tro nesaf y byddwch chi’ch dau’n sgwrsio am hunan-niweidio?

Mae’n anodd dechrau siarad am y peth yn syth bin – dwyt ti ddim eisiau dweud y peth anghywir. Rwy’n aros iddyn nhw fod yn agored a theimlo’n gyfforddus.

Ceisia ddechrau sgwrsio mewn ffordd agored a chefnogol, ond heb eu cyhuddo nhw o gwbl – Rose, 16

Awgrymiadau ar gyfer holi sut maen nhw

Os wyt ti’n teimlo dy fod ti’n gallu gwneud hynny, hola nhw sut maen nhw’n teimlo. Fe all hyn wneud iddyn nhw deimlo’n llai unig.

Mae holi sut mae rhywun yn gallu cadw’r sgwrs yn agored hefyd. Mae hyn yn golygu efallai y byddan nhw’n teimlo y gallan nhw fod yn fwy agored ar adegau anodd.

Dyma rai syniadau ar gyfer holi sut maen nhw:

  •  ‘Sut wyt ti wedi bod yn teimlo’n ddiweddar?’
  •  ‘Sut mae pethau wedi mynd gyda’r hunan-niweidio yn ddiweddar?’
  •  ‘Rwy’n poeni amdanat ti. Wyt ti wedi brifo dy hun eto?’
  •  ‘Sut wyt ti’n ymdopi gyda’r ysfa i hunan-niweidio?’
  •  ‘Wyt ti wedi dod o hyd i rywbeth sydd wedi dy helpu di?’
  •  ‘Gad i fi wybod os oes yna rywbeth arall y galla i ei wneud i dy helpu di.’

Byddai fy ffrind a fi’n creu amcanion wythnosol – roeddwn i’n amyneddgar iawn ac roedd hi’n iawn os na fydden ni’n cyflawni’r amcanion, ond roedd hynny’n ein cadw ni’n dau ar y trywydd iawn i wneud pethau’n well.

Fe wnes i bwysleisio’r pethau cadarnhaol roedd fy ffrind wedi’u gwneud ar ei thaith, a gwneud iddi deimlo’n falch o hynny.

Roedd gan fy ffrind draciwr yn dangos am ba mor hir roedd hi wedi llwyddo i osgoi hunan-niweidio – byddai hi’n rhannu hwnnw â fi a bydden ni’n dathlu.

Atgoffwch nhw eich bod chi’n malio ac eisiau helpu, fel pawb arall hefyd. Mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth fydd yn digwydd nesaf, ond mae bod yn gwmni a theimlo bod rhywun yn malio yn gallu gwneud byd o les i bobl.

Cymera llawer o amser a seibiannau ar gyfer dy iechyd meddwl dy hun – ni fyddi di mor ddefnyddiol os wyt ti'n teimlo dicter tuag atyn nhw am rywbeth na allant ei reoli.

decorative

Efallai na fyddan nhw bob amser eisiau siarad am hunan-niweidio gyda ti, ac mae hynny'n iawn.

Beth sy'n helpu a beth sydd ddim yn helpu?

Efallai y byddi di’n poeni am beth i’w ddweud wrth rywun ifanc sydd wedi hunan-niweidio.

Mae’n debygol iawn dy fod ti’n gwneud dy orau glas yn barod, ond dyma rai pethau i feddwl amdanyn nhw:

Paid â cheisio dod o hyd i’r holl atebion

Yn hytrach, cofia nad oes angen i ti ddod o hyd i ddatrysiadau bob amser – un o’r pethau gorau y galli di’u gwneud ydy gwrando, dyna i gyd. Dim dy gyfrifoldeb di ydy datrys popeth, ac efallai y byddi di’n colli’r cyfle i wneud iddyn nhw deimlo bod rhywun yn gwrando.

Paid â cheisio’u gorfodi nhw i stopio

Yn hytrach, ceisia ddeall sut mae modd i bobl ymdopi â hunan-niweidio, a chanfod pa help sydd ar gael. Efallai y byddai hi’n cymryd amser hir iddyn nhw ddod o hyd i gymorth a gwahanol ffyrdd o ymdopi. I gael rhagor o wybodaeth, cer i’n tudalen am ymdopi â hunan-niweidio.

Paid â dweud eu bod nhw ‘eisiau sylw’

Yn hytrach, parcha sut maen nhw’n teimlo a sut maen nhw’n ymdopi. Mae dweud eu bod nhw eisiau sylw am frifo, a gallai hyn wneud iddyn nhw deimlo’n fwy unig byth. Fe alli di sôn am ffyrdd o ymdopi neu ddod o hyd i help, ond dim ond hyn a hyn y galli di’i wneud. Ac mae’n nhw’n dal am fod angen dy gymorth di.

Paid â chanolbwyntio ar y ffaith eu bod nhw wedi brifo’u hunain

Yn hytrach, bydd yn gefnogol, oherwydd dydy hi ddim yn hawdd i rywun stopio hunan-niweidio. Ceisia feddwl sut maen nhw’n teimlo a sut galli di eu helpu nhw. Atgoffa nhw o’r pethau sydd wedi helpu o’r blaen, gan y gall y rhain fod yn hawdd eu hanghofio. A meddylia am y sbardunau – efallai y byddi di’n dod i adnabod y sbardunau, neu efallai y byddan nhw wedi sôn wrthyt ti. Dydy hi ddim wastad yn bosib gwarchod pobl rhag sbardunau. Ond mae eu deall nhw, a’u rhoi nhw mewn cynllun diogelwch, yn gallu helpu.

Paid â gwneud iddyn nhw deimlo’n euog na theimlo cywilydd

Yn hytrach, atgoffa nhw beth rwyt ti’n ei hoffi neu’n ei garu amdanyn nhw – ysgrifenna hyn i lawr er mwyn iddyn nhw allu edrych ar hyn pan na fyddan nhw’n teimlo’n dda. Derbynia mai dyma sut maen nhw’n teimlo y maen nhw’n gallu ymdopi, hyd yn oed os ydy hi’n anodd i ti ddeall hyn.

Paid ag addo cadw cyfrinachau

Yn hytrach, esbonia dy fod ti wedi dweud wrth oedolyn dibynadwy oherwydd dy fod ti eisiau iddyn nhw fod yn ddiogel. Mae’r sawl wnaeth ddweud wrthyt ti yn ymddiried ynot ti. Felly, mae’n bwysig nad wyt ti’n dweud wrth bobl ifanc eraill. Ond fe ddylet ti ddweud wrth oedolyn dibynadwy. Efallai y byddan nhw’n flin dy fod ti wedi gofyn i rywun arall am help, ond mae hynny’n iawn. Eu diogelwch a’u lles nhw ydy’r peth pwysicaf.

Meddylia am beth ydy caredigrwydd, a sut galli di roi hynny iddyn nhw. Neu sut byddet ti eisiau i rywun dy drin di.

Os nad wyt ti’n siŵr, gofynna iddyn nhw sut bydden nhw’n hoffi i ti eu helpu nhw.

Dyma beth ddywedodd pobl ifanc eraill:

Ar adegau, ddylet ti ddim rhoi dy farn, mae dilysu’r profiad yn bwysicach o lawer.

Fe wnaeth dweud pethau positif fy helpu i, yn enwedig am fy mhersonoliaeth, nid sut roeddwn i’n edrych.

Dydy’r broses wella ddim yn llinell syth, ac os byddan nhw’n dychwelyd i hunan-niweidio, dydy hynny ddim yn golygu nad oedd eu gwellhad nhw’n ddilys.

Atgoffa nhw eu bod nhw angen help, eu bod nhw’n haeddu hynny, a bod help ar gael.

Cymera egwyl yn aml i ofalu am dy iechyd meddwl dy hun – dwyt ti ddim am fod mor ddefnyddiol iddyn nhw os wyt ti’n teimlo’n ddig tuag atyn nhw am rywbeth na allan nhw’i reoli.

Dweud wrth oedolyn dibynadwy bod rhywun yn hunan-niweidio

Efallai na fyddan nhw eisiau help gan neb arall. Ond os wyt ti’n amau bod pethau’n mynd yn waeth, efallai y byddan nhw angen help gan bobl eraill.

Os bydd rhywun wedi brifo’i hun yn ddifrifol, mae hyn yn argyfwng. 

Ffonia 999 a gofyn am ambiwlans, neu gofynna i oedolyn dibynadwy ffonio ar dy ran – hyd yn oed os ydyn nhw wedi gofyn i ti beidio â dweud wrth neb.

Sgwrsia â nhw am ble i gael help

Helpa nhw i ddeall eu hopsiynau a hola nhw eu barn am hynny. Beth am geisio rhannu ein gwybodaeth am driniaethau a help i bobl sy’n hunan-niweidio?

Cynigia eu helpu nhw i siarad gydag oedolyn dibynadwy

Fe allet ti ysgrifennu pethau ar bapur iddyn nhw rhag iddyn nhw’n anghofio, neu fod yn gwmni pan fyddan nhw’n dweud wrth rywun.

Meddylia gyda phwy y dylet ti siarad

Weithiau efallai na fydd dweud wrth bobl benodol yn helpu. Er enghraifft, os mai problemau gartref sy’n achosi i rywun hunan-niweidio, fydd dweud wrth y rhieni neu’r gofalwyr ddim yn helpu. Ceisia feddwl pwy y galli di a’r sawl ti’n ei helpu ymddiried ynddo.

Bydd yn glir pryd byddet ti’n ffonio am help mewn argyfwng

Efallai y byddai hyn mewn sefyllfa lle maen nhw wedi brifo’u hunain yn ddifrifol. Efallai na fyddan nhw’n hoffi hynny, neu efallai y byddan nhw’n gofyn i ti beidio, ond mae eu diogelwch nhw’n bwysicach.

Siarada gyda rhywun am sut rwyt ti’n teimlo

Does dim angen i ti roi manylion yr unigolyn oni bai ei fod yn argyfwng. Fe alli di siarad gyda nyrs yn yr ysgol, athro neu athrawes, meddyg, rhiant neu ofalwr, neu gwnselydd o Childline neu The Mix.

Helpa nhw i greu cynllun

Pan fyddwch chi’ch dau’n teimlo’n dawel eich meddwl, beth am awgrymu creu cynllun i helpu pan fyddan nhw’n cael teimladau anodd? Fe ddylai cynllun ei gwneud hi’n haws iddyn nhw edrych a chofio:

  • Beth i’w wneud os byddan nhw angen help
  • Yr arwyddion rhybudd neu’r sbardunau
  • Pethau y gallan roi cynnig arnyn nhw i helpu, sydd i’w gweld yn ein hawgrymiadau i ymdopi â hunan-niweidio
  • Y ffyrdd gorau o’u cadw nhw’u hunain a phobl eraill yn ddiogel

Fe allan nhw greu cynllun diogelwch ar eu pennau’u hunain neu gyda rhywun maen nhw’n ymddiried ynddo. Fe allet tithau helpu, os wyt ti’n teimlo y galli di. Ac os wyt ti’n teimlo’n gyfforddus, fe alli di sôn wrthyn nhw am unrhyw arwyddion neu sbardunau nad ydyn nhw wedi sylwi arnyn nhw eto.

Mae’n syniad da cadw’r cynllun yn rhywle lle gallwch chi’ch dau ddod o hyd iddo’n rhwydd, pe bai angen.

Lawrlwytho templed ar gyfer cynllun diogelwch

Gallan nhw lenwi eu cynllun diogelwch eu hunain, neu greu cynllun ar gyfer eu hoedolyn dibynadwy, drwy ddilyn y dolenni isod. Mae’r holl ddolenni yn agor mewn ffenestr newydd.

Os nad ydyn nhw’n siŵr sut beth ydy cynllun diogelwch wedi’i gwblhau, mae gennyn ni enghraifft.

Dilyna dy reddf. Byddi di’n gwybod os ydy rhywbeth y tu hwnt i ti, ac os bydd angen i ti ddweud wrth rywun arall (hyd yn oed heb ganiatâd) – Rose, 16

Pan fydd y sgwrs yn dechrau, eglura y gallai fod angen i ti ddweud wrth rywun arall os byddan nhw’n sôn am unrhyw beth sy’n gwneud i ti deimlo’u bod nhw mewn peryg. Gofynna iddyn nhw plîs beidio â dy gasáu di am hynny.

decorative

Os byddan nhw’n gwylltio neu’n cynhyrfu gan dy fod ti wedi dweud wrth rywun, bydd yn amyneddgar gyda nhw. Fe wnest ti’r peth iawn yn gofalu bod y ddau ohonoch chi’n ddiogel. Efallai na fyddan nhw’n gallu deall hyn y funud yma, ond byddan nhw maes o law.

Sut i ofalu amdanat ti dy hun

Mae poeni am rywun sy’n hunan-niweidio yn gallu llethu rhywun. Mae’n bwysig dy fod ti’n gofalu amdanat ti dy hun.

Dyma ein hawgrymiadau ni am sut i ofalu amdanat ti dy hun:

  • Gosoda ffiniau clir. Dwyt ti ddim wastad am deimlo dy fod ti’n gallu’u helpu nhw. Er enghraifft, os nad ydy dy iechyd meddwl di’n dda, neu os na fyddi di ar gael weithiau. Fe allet ti ofyn i’r unigolyn ifanc sy’n bwysig i ti holi sut rwyt ti cyn dechrau siarad am hunan-niweidio.
  • Paid â cheisio gwneud gormod. Efallai y byddi di’n ceisio ymdopi â dy broblemau dy hun hefyd, neu efallai y bydd angen mwy o help arnyn nhw nag rwyt ti’n gallu’i roi. Bydd yn onest gyda nhw am faint o help y galli di’i roi, a pha mor aml y galli di wneud hynny.
  • Paid â cheisio gwneud y cyfan dy hun. Ceisia’u hannog nhw i ddweud wrth rywun arall eu bod nhw wedi hunan-niweidio. Hefyd, ceisia siarad gyda rhywun dibynadwy am sut rwyt ti’n teimlo, fel rhiant, gofalwr, neu athro neu athrawes.
  • Darllena flogiau gan bobl eraill. Mae blogiau gan bobl ifanc sydd wedi helpu pobl eraill sy’n hunan-niweidio ar wefan YoungMinds.
  • Gofala am dy iechyd meddwl dy hun. Mae syniadau ar gyfer gofalu amdanat ti dy hun ar ein tudalen sy’n rhoi awgrymiadau am les.

Fe allet ti hefyd ffonio Childline neu siarad gyda rhywun yn The Mix. Os bydd rhywbeth yn rhy boenus neu’n dy boeni ormod i siarad amdano, dyweda hynny wrthyn nhw, er mwyn i chi’ch dau ofalu am eich lles eich hunain.

Apiau ar gyfer iechyd meddwl

Gall rhai apiau ein helpu gyda phethau fel teimlo'n dawelach neu reoli symptomau anodd. Ond gyda chymaint o apiau, gall deimlo'n anodd gwybod ble i ddechrau.

I ddod o hyd i apiau diogel a dibynadwy i bobl ifanc, cer i lyfrgell apiau Mind.

decorative

Cofia: rwyt ti’n gwneud dy orau glas. Hyd yn oed os na fyddan nhw’n dweud hynny, bydd yr unigolyn ifanc rwyt ti’n ei helpu yn ddiolchgar am dy help.

Fe wnaeth pobl ifanc rannu awgrymiadau am y pethau a oedd yn eu helpu nhw i ofalu amdanyn nhw’u hunain wrth helpu rhywun oedd wedi hunan-niweidio: 

  • Cadw dyddiadur
  • Cael rhwydwaith i dy gefnogi
  • Sylwi a chydnabod os ydy sgyrsiau’n creu sbardun i ti
  • Chwilio am help drwy gymunedau ar-lein
  • Creu rhestr o bethau cadarnhaol i’w dweud pan fyddi di’n teimlo dan straen wrth helpu rhywun arall, fel ‘Rwy’n gwneud fy ngorau glas ac mae hynny’n ddigon da’
  • Creu amser penodol i ti dy hun i ymlacio
  • Atgoffa dy hun nad ti sy’n gyfrifol am eu gwella nhw

Bechod na fyddwn i wedi deall nad fi oedd yn gyfrifol am bopeth – bechod na fyddwn i wedi gwybod nad fy mai i fyddai unrhyw beth drwg a fyddai’n digwydd.

Mae treulio amser gyda rhywun sydd ddim yn gwybod am y sefyllfa yn gallu helpu, oherwydd fydd hynny ddim ar feddwl yr unigolyn hwnnw o gwbl, felly efallai y bydd hi’n haws i ti anghofio am y peth a mwynhau amser i ti dy hun oddi wrth y sefyllfa anodd – Brianna, 17

Cafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2025. Byddwn yn ei diwygio ym mis Mehefin 2028. 

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

For more information

arrow_upwardYn ôl i'r brig