Pryd fydda i’n gadael CAMHS?
Gwybodaeth i bobl ifanc 11-18 oed i’ch helpu i ddeall y rhesymau dros adael CAMHS a beth i’w ddisgwyl.
Mae gadael Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS, neu SCAMHS yng Nghymru) yn gallu teimlo fel cyfnod brawychus ac ansicr iawn. Efallai y byddwch chi’n symud ymlaen i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS), neu efallai y bydd yn rhaid i chi gael cymorth gan wasanaethau oedolion eraill.
Ar y dudalen hon rydyn ni’n siarad am wasanaethau oedolion yn ogystal ag AMHS. Dydyn nhw ddim yr un fath yn union – mae AMHS yn enghraifft o wasanaeth i oedolion. Gall CAMHS symud eich cymorth i AMHS, neu efallai y bydd yn eich helpu i ddod o hyd i gymorth gan wasanaeth arall i oedolion.
Mae llawer o enghreifftiau o wasanaethau eraill i oedolion, fel:
- Mudiadau cymorth iechyd meddwl yn y gymuned
- Gwasanaethau gan eich awdurdod lleol
- Gwasanaethau lleol neu genedlaethol, fel elusennau
Mae’r dudalen hon yn ymdrin ag:
Ar ba oedran y byddaf yn gadael CAMHS?
Mae’r rhan fwyaf o CAMHS yn cynnig cymorth i bobl ifanc hyd at 18 oed. Ond mae pob gwasanaeth yn wahanol:
- Efallai y bydd rhai CAMHS yn dechrau eich proses pontio i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS) o 16 oed ymlaen, efallai y bydd eraill yn eich cefnogi hyd nes byddwch chi’n 25 oed.
- Gall y terfyn oedran fod yn wahanol os ydych yn byw mewn ardaloedd penodol yng Nghymru neu Loegr. Mae hefyd yn dibynnu ar y gwasanaeth a’r math o gymorth rydych chi’n ei gael.
- Os ydych chi’n aros yn CAMHS ar ôl i chi fod yn 18 oed, dylai eich cymorth fod yn addas i’ch grŵp oedran hŷn.
Os nad ydych chi’n siŵr ar ba oedran y byddwch yn gadael, gallwch chi holi eich tîm CAMHS ar unrhyw adeg. Os ydych chi’n meddwl eu bod wedi rhoi’r gorau i’ch helpu chi’n rhy fuan, dylech chi gysylltu â’r person sy’n gyfrifol am eich gofal.
Cofiwch, gall yr oedran fod yn wahanol i bawb. Dywedodd rhai o’r bobl ifanc y buom yn siarad â nhw:
Credaf mai’r syniad yn fy ardal i oedd ceisio cael pobl i wasanaethau oedolion yn 16 oed. Yn bendant, fi oedd y person ieuengaf i gael fy ngweld yn y gwasanaethau oedolion pan oeddwn i yno.
Mae gen i ffrindiau sy’n 18 oed sy’n dal gyda CAMHS ac mae eu triniaeth yn well. Rydw i’n meddwl ei fod hefyd yn dibynnu ar yr ardal rydych chi ynddi.
Ond nid eich oedran chi’n unig sy’n gyfrifol am hyn bob amser. Gallech chi adael CAMHS unrhyw bryd, heb ragor o gynlluniau ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Os ydych chi a’ch tîm yn cytuno eich bod yn ddigon iach i adael heb ofal pellach gan CAMHS neu AMHS, efallai y cewch eich rhyddhau.
Beth dylwn i ei ddisgwyl wrth adael CAMHS?
Mae gwahanol bobl ifanc yn gadael CAMHS am wahanol resymau. Pan fyddwch chi’n gadael CAMHS, bydd eich tîm gofal naill ai’n:
Mae hyn yn eu helpu i benderfynu a ydyn nhw’n gallu cynnig cymorth i chi. Dim ond os ydych chi’n ddigon hen i gael mynediad at y rhain yn eich ardal chi y cewch chi eich atgyfeirio at AMHS. Fel arfer, mae hyn yn digwydd pan fyddwch yn 18 oed, ond gallech gael eich cyfeirio os ydych chi ar fin troi’n 18 oed. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen am symud i AMHS.
Mae fy nyrs yn CAMHS wedi rhoi gwybod i mi y byddaf, pan fyddaf yn 18, yn symud i wasanaethau oedolion os byddaf yn teimlo bod angen gwneud hynny. Rhoddodd sicrwydd imi eu bod yr un mor barod i helpu ac yr un mor gefnogol.
Mae hyn yn golygu y bydd eich cymorth iechyd meddwl gan CAMHS yn dod i ben os ydych chi a’ch tîm CAMHS yn cytuno eich bod yn ddigon da. Gallai hyn ddigwydd ar unrhyw oedran. Dylent roi gwybodaeth i chi am fathau eraill o gymorth, a beth i'w wneud os bydd pethau’n gwaethygu.
Ar y dudalen hon, gallwch ddarllen mwy am ddeall rhyddhau.
Efallai y byddan nhw’n gwneud hyn os cewch chi eich rhyddhau, neu i’ch helpu i ddod o hyd i gymorth ychwanegol pan fyddwch chi ar y rhestr aros ar gyfer AMHS. Gallai’r gwasanaethau eraill i oedolion y gallent eich cyfeirio atynt gynnwys:
- Eich meddyg
- Gwasanaethau cymdeithasol
- Mudiadau elusennol
Gallech chi hefyd edrych ar opsiynau ar gyfer therapi preifat, os gallwch chi fforddio hynny. Os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn, edrychwch ar ein tudalen ar ddod o hyd i therapydd.
Os ydych chi’n gadael CAMHS yn gyffredinol, nid yw hynny oherwydd nad ydyn nhw eich eisiau chi, neu eich bod chi’n iawn – mae hynny’n annhebygol o ddigwydd. Efallai eich bod mewn lle digon diogel i adael.
Cael eich rhyddhau
Gall cael eich rhyddhau o CAMHS fod yn gam cadarnhaol iawn yn eich adferiad. Mae fel arfer yn golygu bod eich iechyd meddwl wedi gwella llawer. Os cewch chi eich rhyddhau, dylai eich tîm roi gwybodaeth i chi am y canlynol:
- Mathau eraill o gymorth, fel mudiadau lleol a llinellau cymorth
- Beth i’w wneud os bydd pethau’n gwaethygu
Os bydd CAMHS yn eich rhyddhau chi ond nad ydych chi’n cytuno â’r penderfyniad, edrychwch ar ein tudalen ar broblemau y gallaf eu hwynebu.
Dim ond ar ôl i mi deimlo’n barod y cefais fy rhyddhau, ac roedd yn benderfyniad a drafodwyd gyda mi. Roeddwn i’n teimlo’n hapus iawn nad oedd angen y gefnogaeth arna i mwyach – roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi goresgyn llawer!
Mynd ymlaen i gael cymorth gan wasanaethau oedolion
Os ydych chi’n cael eich atgyfeirio at unrhyw fath o wasanaeth i oedolion, gan gynnwys AMHS, dylai eich tîm CAMHS:
- Rhoi gwybodaeth i chi er mwyn deall y broses atgyfeirio.
- Rhoi gwybodaeth i chi am y cymorth y gallai gwasanaethau oedolion ei gynnig i chi.
- Eich cynnwys chi yn y broses o wneud cynlluniau, a gwrando ar eich barn
- Rhoi rhywun yn gyfrifol am reoli eich symud, os ydych chi’n symud o CAMHS i AMHS. Fel arfer maen nhw’n cael eu galw yn gydlynydd gofal yn Lloegr, neu’n weithiwr pontio yng Nghymru.
- Paratoi cynllun o’r hyn sydd ei angen arnoch a'r cymorth y dylech ei gael pan fyddwch yn symud i wasanaethau oedolion.
Cefais wybod fy mod yn cael fy mhontio i wasanaethau oedolion tua 4 mis cyn yr oeddwn i fod i symud. Cefais wybod hefyd am wasanaeth lleol arall ar gyfer anhwylderau bwyta, a pham yr oeddwn yn gadael CAMHS.
Cefais y sgwrs gyda’r prif gydlynydd tua blwyddyn cyn i mi symud i wasanaethau oedolion. Fe wnaethon nhw egluro i mi beth fydd yn digwydd a beth oedd y cynllun.
Gall fod yn ddefnyddiol iawn ysgrifennu eich profiadau blaenorol o CAMHS, yn ogystal â’ch gobeithion ar gyfer y dyfodol. I gael gwybod am ffyrdd o wneud hyn, darllenwch ein gwybodaeth am lenwi ‘pasbort’ wrth adael CAMHS.
P’un ai a ydych chi’n symud i wasanaethau oedolion ai peidio, efallai y byddai’n ddefnyddiol darllen ein hawgrymiadau ar gyfer gadael CAMHS.
A fydd CAMHS yn cynnwys fy rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid?
Mae CAMHS yn annog rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i gymryd rhan yn eich triniaeth a’ch cefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys dod i ddiwedd eich triniaeth a’ch cymorth CAMHS.
Dylai rhywun yn CAMHS ofyn faint rydych chi am iddynt fod yn rhan o hynny. Dylid parchu beth bynnag a ddwedwch.
Y naill ffordd neu’r llall, mae’n gallu helpu i gael pobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw o’ch cwmpas – ond does dim rhaid iddynt fod yn rhiant, yn ofalwr nac yn warcheidwad. Gallwch ofyn i ffrind, partner neu aelod arall o’r teulu gymryd rhan.
Beth os nad ydw i eisiau iddyn nhw wybod?
Mae gennych chi hawl i’ch gwybodaeth bersonol gael ei chadw’n gyfrinachol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar ôl i chi adael CAMHS.
Mae hyn yn golygu na ddylid rhannu eich gwybodaeth bersonol â’ch teulu, eich gofalwyr na’ch gwarcheidwaid oni bai eich bod yn cytuno neu mewn sefyllfaoedd penodol. I gael rhagor o wybodaeth am gyfrinachedd a’ch hawliau, edrychwch ar ein tudalen ar ddeall cyfrinachedd.
Child and Adolescent Mental Health Services (CAMHS)
These are services that support young people with their mental health.
You might see them called different names sometimes, but they offer the same type of services for young people:
- In Wales, they're called Specialist Child and Adolescent Mental Health Services (SCAMHS)
- In England or Wales, you might also hear them called Children and Young People’s Mental Health Services (CYPMHS)
Find out more in our CAMHS information hub.
Adult Mental Health Services (AMHS)
These are NHS services that support adults with mental health problems.
Visit our full treatment and support glossaryCare team
These are the people look after you when you're getting treatment and support for your mental health problem. Your care team might include nurses, doctors and therapists.
They may look after you in hospital, support you through Child and Adolescent Mental Health Services (CAMHS), or look after you at home.
Visit our full treatment and support glossaryReferral
This is a request to a service asking them to review:
- how you’re feeling
- what support you need.
The referral helps explain to the new service why they should see you, and what the best way to help you might be.
Sometimes referrals can be made by yourself, a family member or social worker. But they’re often made by your doctor as they understand your medical history.
Visit our full treatment and support glossaryDischarge
This means your treatment at a hospital, clinic or other service is ending. You may be discharged because:
- you’ve completed your treatment
- you’re old enough to use a different service
- you’ve asked to leave
- the next part of your treatment needs to continue somewhere else.
Your care team should explain what this means, and what will happen if you need care in the future.
Visit our full treatment and support glossaryCare co-ordinator
This is your main point of contact if you’re having ongoing treatment and support for your mental health. They should keep in close contact with you and answer any questions you may have.
Visit our full treatment and support glossaryPersonal information
This is any information that can be used to identify you. For example, your name, address or even your IP address.
Visit our full treatment and support glossaryConfidentiality
Confidentiality is about keeping your information private.
It means that when you talk to professionals they shouldn’t tell anyone else what you’ve said.
They will only share what you tell them in certain situations. For example, if you ask them to or if they’re worried that you or someone else could be in danger.
See our page on confidentiality for more information.
Visit our full treatment and support glossaryLocal authority
This is the local government for an area. It provides services for the people who live or are staying in the area. These include health services, social services, schools, transport and housing.
Each local government can decide how services are run. This means that some services in different areas may have different rules.
Visit our full treatment and support glossaryCafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, edrychwch ar ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.