Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Balchder yn Mind

Rydyn ni yma i unrhyw un o’r gymdeithas LHDTCRhA+ drwy gydol y flwyddyn. Ond mae mis Balchder yn amser i ddathlu, protestio, a myfyrio. Eleni, rydyn ni’n canolbwyntio ar pam mae Balchder yn bwysig ar gyfer iechyd meddwl. 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Yn ystod mis Balchder eleni, rydyn ni hefyd yn rhannu straeon gan bobl LHDTCRhA+ sydd â phrofiad uniongyrchol o wynebu problem iechyd meddwl. Byddan nhw’n siarad am pam mae Balchder yn bwysig i’w hiechyd meddwl.

Rydyn ni’n cefnogi pob cymuned LHDTCRhA+. Nid yn ystod mis Balchder yn unig. Ond drwy gydol gweddill y flwyddyn hefyd. Er enghraifft, rydyn ni’n brwydro i wahardd therapi trosi. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, rydyn ni yma gyda gwybodaeth a chefnogaeth i chi. Darllenwch fwy am ein gwaith isod.

Mae wedi bod yn daith hir o orfod derbyn; derbyn pwy ydw i fel unigolyn, derbyn fy nghredoau, a derbyn fy ngwerthoedd. Rydw i bellach yn canolbwyntio arnaf fi fy hun. Rydw i wedi gorfod bod yn dosturiol tuag ataf fy hun.Darllenwch stori Julien

 

Gwahardd therapi trosi unwaith ac am byth

Pwrpas Therapi trosi yw ymdrechu i newid neu ‘wella’ cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywun o ran rhywedd. Mae’n arfer anfoesol a niweidiol y mae’n rhaid ei wahardd. Nid oes angen i bobl LHDTCRhA+ ‘wella’ eu cyfeiriadedd rhywiol na’u hunaniaeth o ran rhywedd.

Nid yw ‘therapi trosi’ yn fath o therapi. Mae’n niweidiol ac mae’n rhoi pobl mewn perygl o ddioddef iechyd meddwl gwael. Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y DU i wahardd therapi trosi unwaith ac am byth.

Darllenwch ein hadroddiad

 

Edrych am gefnogaeth?

Os ydych chi'n ffeindio pethau'n anodd, gallwch chi gael mynediad at gefnogaeth trwy'r opsiynau isod.

Person in a hat looking at phone

Ein Llinell Wybodaeth

Gall ein Llinell Wybodaeth roi gwybodaeth i chi, a’ch cyfeirio at gymorth yn eich ardal. 

Ein Llinell Wybodaeth

""

Side by Side

Mae Side by Side yn gymuned ar-lein gefnogol lle gallwch siarad am eich iechyd meddwl a chysylltu ag eraill sy’n deall yr hyn rydych chi’n profi.

Side by Side

""

Grwpiau Mind lleol

Mae grwpiau Mind lleol yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru a Lloegr. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys therapïau siarad, cefnogaeth gan gymheiriaid, eiriolaeth, gofal mewn argyfwng, cymorth gyda chyflogaeth a thai.

Ffeindiwch eich Mind lleol

Gwybodaeth am iechyd meddwl LHDTCRhA+

Os ydych chi’n LHDTCRhA+, mae gennym ni lawer o wybodaeth ac awgrymiadau i’ch helpu chi gyda’ch iechyd meddwl.

Nid yw bod yn LHDTCRhA+ yn achosi problemau iechyd meddwl. Ond gall rhai profiadau rydych chi’n eu cael fel person LHDTCRhA+ eich gwneud chi’n fwy tebygol o wynebu problem iechyd meddwl.

Gall sgyrsiau yn ystod mis Balchder fod yn rhai dwys, felly mae’n bwysig cymryd camau i roi’r math cywir o hunanofal ar waith. Rydyn ni yma i helpu.

Darllenwch ein gwybodaeth

Dilynwch ni

Byddwn yn siarad am Falchder ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol mis Mehefin. Dilynwch ni i gael rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl pobl LHDTCRhA+, ac i glywed straeon gan bobl am eu profiadau.

Ffyrdd arall i gymryd rhan

arrow_upwardYn ôl i'r brig