Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Adroddiadau Mind Cymru

Adroddiadau Mind Cymru ar faterion iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Mae iechyd meddwl yn hollbwysig: etholiad Senedd 2026

Mae gan bwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru ddyletswydd i wneud iechyd meddwl y genedl yn flaenoriaeth.

Mae'r ddogfen hon yn tynnu sylw at bedwar argymhelliad allweddol, er mwyn creu Cymru lle mae gan bawb y cyfle i ffynnu.

Adroddiad Cymraeg

Adroddiad Saesneg

Yr Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr 2025

Mae Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr Mind yn rhoi trosolwg blynyddol o ddata a mewnwelediadau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r ddogfen hon yn dadansoddi'r cyflwr iechyd meddwl yng Nghymru, a'n hargymhellion ar gyfer gwella.

Adroddiad Cymraeg

Adroddiad Saesneg

Byw ar yr Ymyl:  Tlodi ac Iechyd Meddwl yng Nghymru

Mae'r straen y mae tlodi'n ei achosi yn gallu gwaethygu problemau iechyd meddwl, ac mae iechyd meddwl gwael yn gallu gwneud hi'n anoddach dianc rhag tlodi.

Mae'r adroddiad hwn yn egluro beth sydd ei angen i wella'r system i bobl sy'n profi tlodi neu sydd mewn perygl o dlodi.

Adroddiad Cymraeg

Adroddiad Saesneg

Y Canol Coll

Mae’r 'canol coll’ yn cyfeirio at y bwlch yn y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc sydd ag anghenion sy’n syrthio rhwng gwasanaethau cyffredinol a chymorth arbenigol.

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu effaith y diffyg cymorth hwn ar bobl ifanc a'n hargymhellion i Lywodraeth Cymru.

Adroddiad Cymraeg

Adroddiad Saesneg

CIMC: Blaenoriaethau i Lywodraeth nesaf Cymru

I sicrhau'r gofal gorau posibl i bawb yng Nghymru, rhaid i bartneriaid, gan gynnwys y trydydd sector a chyrff statudol, gydweithio. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno 9 blaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru gan Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru (CIMC); grŵp o 8 elusen sy’n gweithio ar iechyd meddwl, hunanladdiad a hunan-niweidio.

Adroddiad Cymraeg

Adroddiad Saesneg

Strategaeth iechyd meddwl newydd i Gymru

Yn 2023 buom yn siarad â thua 400 o bobl i ofyn beth yw eu blaenoriaethau ar gyfer strategaeth iechyd meddwl nesaf Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn 2024. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio pa gamau y mae angen i ni eu gweld gan y llywodraeth yn y strategaeth newydd am Gymru hapus ac iach.

Adroddiad Cymraeg

Adroddiad Saesneg

Codi Safon gofal cleifion mewnol iechyd meddwl

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio profiadau pobl mewn mannau cleifion mewnol yng Nghymru. Mae’n codi pryderon ac argymhellion ynghylch gofal a diogelwch cleifion, y defnydd o ddulliau cyfyngol, a chasglu data.

Adroddiad Cymraeg

Adroddiad Saesneg

Ailadeiladu Meddyliau ar ôl strôc

Mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Strôc, buom yn gweithio gyda goroeswyr strôc i ddeall bylchau mewn cymorth iechyd meddwl. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi eu profiadau ac yn cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru a’r GIG.

Adroddiad Cymraeg

Adroddiad Saesneg

Gwella hawliau pobl o ran iechyd meddwl

Mae’r Mesur Iechyd Meddwl yn ddarn o ddeddfwriaeth sy’n canolbwyntio ar wella hawliau pobl i gael cymorth iechyd meddwl. Hawliau fel cael mynediad at driniaeth, ac eiriolaeth yn yr ysbyty. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar yr effeithiau y mae’r Mesur wedi’u cael. A beth arall y gellir ei wneud.

Adroddiad Cymraeg

Addroddiad Saesneg

Amseroedd aros am therapi

Mae miloedd o bobl ledled Cymru yn aros yn hirach na'r targed o 26 wythnos i gael therapi seicolegol arbenigol. Mae cannoedd o bobl yn aros am fwy na flwyddyn.

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru wella dewis, cynyddu capasiti a lleihau amseroedd aros.

Adroddiad Cymraeg

Adroddiad Saesneg

Effeithiau'r pandemig ar iechyd meddwl

Trwy ein hymchwil yn 2020, dywedodd mwy na 800 o bobl wrthym sut yr effeithiodd y pandemig ar eu hiechyd meddwl.

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio profiadau'r bobl hynny.

Adroddiad Cymraeg

Adroddiad Saesneg

Ymchwil ar effaith coronafeirws

Mae'r pandemig coronafeirws wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau iechyd meddwl presennol.

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar yr effaith y mae coronafeirws wedi’i chael ar iechyd meddwl, yn enwedig ar gymunedau agored i niwed.

Adroddiad Cymraeg

Adroddiad Saesneg

Ymgyrchoedd

Rydyn ni'n ymgyrchu i gael bargen well i'r rhai ohonom yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl. Darganfyddwch fwy.

Byddwch yn ymgyrchydd 

Mae ein hymgyrchwyr yn siarad am y problemau go iawn sy'n effeithio ar bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Mind Cymru

Gyda'n rhwydwaith o 20 grŵp Mind lleol, ni yw'r brif elusen iechyd meddwl yng Nghymru. Darganfyddwch fwy.

Y Mesur Iechyd Meddwl

Mae’r Mesur Iechyd Meddwl yn ddarn uchelgeisiol o ddeddfwriaeth i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bawb. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut mae wedi newid y ffordd mae pobl yn cael gafael ar gymorth ac mae’n gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru i wella cymorth.

Darllen yr adroddiad

Rhy Hir i Aros

Mae miloedd o bobl ledled Cymru’n disgwyl mwy na’r targed o 26 wythnos am therapi seicolegol arbenigol, a channoedd o bobl yn disgwyl am fwy na blwyddyn. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wella’r dewis, cynyddu’r ddarpariaeth a lleihau amseroedd aros.

Darllen yr adroddiad

Canlyniadau Coronafeirws

Mae ein hymchwil ddiweddaraf ynglŷn â effaith y coronafeirws ar iechyd meddwl yng Nghymru yn paentio darlun o anghydraddoldebau gwaethygol. Mae'n angenrheidiol dydy cymunedau bregus ddim yn cael eu gadael ar ôl.

Darllen yr adroddiad

Person with pink hair and a wrist tattoo

Ceisio Cysylltu

Mae’r pandemig coronafeirws yn golygu fod gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi gorfod datblygu ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys apwyntiadau digidol. Er bod hynny wedi galluogi pobl i gael cefnogaeth yn ystod y cyfnod clo, mae yna nifer o broblemau arwyddocaol gyda darpariaeth ddigidol mae’n rhaid eu hwynebu.

Darllen yr adroddiad

Yr Argyfwng Iechyd Meddwl

Trwy’n hymchwil, dywedodd dros 800 ohonoch wrthym ni sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eich iechyd meddwl. Mae’r canfyddiadau’n glir. Nid yw blaenoriaethu iechyd meddwl yng Nghymru erioed wedi bod mor hanfodol.

Darllen yr adroddiad

arrow_upwardYn ôl i'r brig