Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Mind Cymru 

Ni yw Mind Cymru. Rydyn ni yma am gefnogaeth, parch ac i frwydro dros eich iechyd meddwl.

 

This page is also available in English.

Beth mae Mind Cymru yn ei wneud?

Mind Cymru yw Mind yng Nghymru. Rydym yn sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at y wybodaeth, y cymorth a'r gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen arnynt. Rydym yma i sicrhau nad oes unrhyw un yng Nghymru yn wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun.

Ymgyrchoedd

Rydym yn ymgyrchu i gyrraedd sefyllfa well i bobl Cymru. Yma, cewch fanylion am ein hymgyrchoedd cyfredol a sut y gallwch gymryd rhan.

Cymryd rhan

Hunangymorth

Rhaglen dan arweiniad am ddim, 6 wythnos o hyd, sy'n helpu i reoli sut rydych chi’n teimlo yw Hunan-gymorth â chefnogaeth (Monitro Gweithredol yn flaenorol). 

Cofrestrwch

Eich Mind lleol 

Mae 18 Mind lleol ar draws Cymru, yn cefnogi oddeutu 30,000 o bobl. Darganfyddwch sut gall eich Mind lleol eich cefnogi chi yn eich cymuned.

Mind lleol

Lle alla i gael cymorth iechyd meddwl yng Nghymru?

Mae gennym 18 Mind lleol ar draws Cymru. Mae pob Mind lleol yn wahanol, ond mae pob un ohonynt yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u teilwra i'w cymuned leol.

Please enter a valid UK postcode

Yn anffodus, nid oes Mind lleol yn agos at y côd post hwn. Rhowch gynnig ar gôd post arall i ddod o hyd i'ch Mind lleol agosaf, neu ffoniwch ein Llinell Wybodaeth ar 0300 123 3393 i ddod o hyd i'ch gwasanaeth agosaf.

          

Sut ydym yn cael ein llywodraethu?

Yng Nghymru, rydym yn gosod ein hagenda ein hunain ac yn blaenoriaethu ymgyrchoedd a phrosiectau sy'n bwysig i’r bobl sy'n byw yma.

Rydym yn cael ein llywodraethu gan 'Pwyllgor', sef pwyllgor o wirfoddolwyr sy'n helpu ein cyfeirio gan sicrhau ein bod ar y trywydd cywir.

Ein hymrwymiad i'r Gymraeg

O gyfieithu ein gwybodaeth fwyaf poblogaidd am iechyd meddwl, i gynyddu’r nifer o aelodau o staff sy’n medru'r Gymraeg, rydyn ni’n gwneud ein gorau i fod yn elusen well i siaradwyr Cymraeg.

Darganfyddwch fwy am yr hyn rydyn ni'n ei wneud a sut y gallwn ni eich cefnogi chi yn Gymraeg

Cynnig Cymraeg

Y Straeon Diweddaraf o Gymru 

Darllenwch y straeon diweddaraf o Gymru. Mae ein blogwyr yn rhannu eu profiadau o fyw gyda phroblem iechyd meddwl neu weithio ym maes iechyd meddwl.

Cael fy mywyd yn ôl gyda help Mind lleol

David, o’r Canolbarth, sy’n egluro sut yr oedd help Un i Un gan ei Mind lleol wedi ei helpu i adennill ei hyder.

> Stori David

Gweithio ar linell Gymorth Mind

Gyda'n Llinell Wybodaeth yn brysurach nag erioed, mae Sarah - sy'n gweithio i'r gwasanaeth yn egluro pam. 

> Stori Sarah

Sut daeth Balchder ym Mhowys

Jo sy'n esbonio sut y daeth y gymuned ynghyd ar gyfer parêd Pride cyntaf erioed Powys.

> Stori Jo

Partneriaethau Mind Cymru

Mae Mind Cymru yn gweithio gyda llawer o sefydliadau eraill. Mae'r partneriaethau hyn yn ein helpu i newid meddyliau a gweithio er mwyn gwella iechyd meddwl i bawb. Rydym yn gweithio gyda:

arrow_upwardYn ôl i'r brig