Pam fy mod yn annog dynion i gymryd pum munud i feddwl er mwyn eu hiechyd meddwl
Mae Louis, o Gasnewydd, yn esbonio pam mae'n meddwl y gallai dynion elwa o neilltuo amser er lles iddyn nhw bob dydd.
Mi fydda i'n onest gyda chi - rwy’n dioddef gyda fy iechyd meddwl. Pam fy mod yn siarad yn agored am hyn? Oherwydd fy mod am eich helpu i weld NAD ydych chi ar eich pen eich hunain.
Dyma fy stori.
Louis yw fy enw i, rwy'n 23 oed ac yn dod o Gasnewydd, de Cymru. Yn 2020 dechreuais i ddioddef gyda fy iechyd meddwl, a dyma'r tro cyntaf (i mi wybod) i mi brofi gorbryder. Roeddwn i wedi gorflino'n llwyr, ac yn teimlo ar goll. Doeddwn i wir ddim yn gwybod beth i'w wneud. Roeddwn i'n cadw popeth i mi fy hun - doeddwn i ddim yn siarad am sut roeddwn i'n teimlo ac o ganlyniad, aeth pethau'n waeth.
"Roeddwn i'n gwybod bod angen i mi siarad â rhywun oherwydd mae rhannu'r baich yn ei ysgafnhau."
Rwy'n cofio un tro a minnau i ffwrdd yn Frankfurt, fe ges i deimlad rhyfedd yn mynd trwy fy mraich, a phoen tynn yn y frest wedyn. Roedd yn brofiad ofnadwy o frawychus i mi oherwydd doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd. Fe es i'r ysbyty ac fe ddywedon nhw fod popeth yn iawn. Ond, doeddwn i ddim yn gallu stopio meddwl am sut roeddwn i wedi teimlo pan ddigwyddodd hynny.
Fe sylweddolais yn fuan mai gorbryder yn meddiannu fy nghorff oedd hyn mewn gwirionedd. Wrth i mi sylweddoli hyn, roeddwn i'n teimlo rhyddhad a phryder. Roeddwn i'n teimlo rhyddhad oherwydd roeddwn i'n gwybod fy mod i'n iach yn gorfforol, ond yn teimlo'n bryderus oherwydd doeddwn i ddim yn siŵr os/pryd y byddai'n digwydd eto.
Yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, rwy'n cofio eistedd ar fy ngwely yn teimlo ar goll yn llwyr. Fe benderfynais fynd am dro un prynhawn a phan ddes i nôl, roeddwn i'n teimlo'n well o lawer. Ond, roeddwn i'n gallu gweld fy mod i'n cael pethau'n anodd. Roeddwn i'n gwybod bod angen i mi siarad â rhywun oherwydd mae rhannu'r baich yn ei ysgafnhau.
Pan fydda i'n edrych yn ôl ar y foment hon, daw un cwestiwn i'r meddwl yn syth: pam ei fod wedi teimlo mor anodd i mi estyn allan at rai o'm ffrindiau agosaf?
Chwalu stigma
Rwy wastad wedi bod yn ymwybodol o'r stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl dynion a dydw i ddim yn gallu credu bod pobl yn dweud wrth gymaint o ddynion ledled y byd am 'ymddwyn fel dyn'. Rwy'n credu mai dyma un o'r rhesymau pam roeddwn i'n ei chael hi'n anodd bod yn agored am fy mhrofiad gydag iechyd meddwl.
Roeddwn i'n pryderu beth fyddai ymateb fy nheulu a'm ffrindiau. Ond, roedden nhw'n gefnogol dros ben ac fe wnaethon nhw fy helpu drwy amser anodd. Rwy mor ddiolchgar am eu cefnogaeth oherwydd mae wedi gwneud i mi sylweddoli nad oeddwn i ar fy mhen fy hun gyda fy nheimladau.
Roeddwn i am chwalu'r stigma sydd ynghlwm wrth y broblem gynyddol hon, ac yn 2021, dechreuais weithio ar Clear for Men.
Mae Clear For Men yn frand gofal croen sy'n codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a'r nod yw annog dynion i gymryd pum munud er lles iddyn nhw. Mae hunanofal yn bwysig dros ben i mi oherwydd mae'n gwneud i mi flaenoriaethu fi fy hun ac mae'n ffordd wych o ymlacio hefyd. Roeddwn i'n awyddus i ddynion gael rheswm i oedi, gwneud yn siŵr eu bod nhw eu hunain yn iawn ac ymarfer hunanofal, a dyna pam y penderfynais mai enw fy nghynnyrch cyntaf fyddai 'Take Five' er mwyn atgoffa dynion i gymryd pum munud i feddwl.
Bob dydd Mawrth, rwy'n postio “Take Five Tuesday”, sef fideo ohonof fi'n golchi fy wyneb ac yn rhoi nodyn atgoffa cadarnhaol i'm cynulleidfa. Rwy'n gorffen y fideo drwy ddweud “Rwy'n falch ohonoch chi, gobeithio y cewch chi wythnos wych a chofiwch gymryd 5 Munud i Feddwl er eich mwyn CHI”.
Codi arian dros Mind
Rwy'n aml yn cael negeseuon gan bobl ar-lein sy'n dweud wrtha i fod fy nghynnwys wedi cael effaith gadarnhaol arnyn nhw ac ar eu diwrnod.
Ychydig fisoedd yn ôl, fe wnes i bostio fideo cadarnhaol ar Instagram ac fe ges i neges breifat gan un o fy nilynwyr yn dweud: “Dydw i ddim yn un sy'n anfon neges at bobl yn aml ond diolch yn fawr iawn am eich postiadau… mae hyn yn fy helpu i gymryd cam yn ôl i feddwl, edrych dros bethau ac ymlacio – rwy'n ei werthfawrogi”.
Pan fydda i'n mynd yn fyw ar TikTok, rwy'n aml yn cael negeseuon yn diolch i mi am y ffrwd byw ac mae llawer yn dweud wrtha i fod hyn yn llonni eu diwrnod. Pan fydda i'n gweld y negeseuon hyn, rwy'n teimlo balchder anhygoel oherwydd fy mod i'n gallu gweld yr effaith gadarnhaol rydw i a Clear For Men yn ei chael ar gymaint o bobl ledled y byd. Os bydd unrhyw un yn cysylltu â mi i sôn am eu hiechyd meddwl, bydda i wastad yn dweud wrthyn nhw fy mod i'n falch ohonyn nhw am estyn allan. Rwy'n gwybod pa mor anodd y gall hynny fod.
Roeddwn i'n gwybod pan ddechreuais i Clear For Men fy mod i eisiau rhoi'n ôl i Mind, felly mae canran o bob gwerthiant yn mynd i'r elusen.
Rwy'n gallu gweld y gwaith caled a'r ymroddiad sy'n cael ei roi i helpu pobl gyda'u hiechyd meddwl, ac rwy wir yn edmygu popeth y mae Mind yn sefyll drosto. Pan roeddwn i'n ei chael hi'n anodd gyda fy iechyd meddwl y tro cyntaf, rwy'n cofio bod fy mrawd wedi cofrestru i gwblhau '100 milltir ym mis Mawrth' er mwyn Mind. Rwy'n cofio edrych ar bob digwyddiad ac ymgyrch y mae Mind wedi'u cynnal drwy'r flwyddyn, ac roeddwn i'n ei theimlo'n anrhydedd fy mod yn cefnogi elusen sy'n gwneud cymaint er lles pobl sy'n ei chael yn anodd. Rwy'n teimlo bod cynnwys postiadau Mind ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar eu gwefan yn cael effaith go iawn, ac mae wedi fy helpu i lawer iawn ar y daith o ran fy iechyd meddwl.
Rwy hefyd yn falch iawn o ddweud fy mod i'n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 6 Hydref i godi arian i Mind. Ffwrdd â ni!
Get involved
There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.