Pam y gwnes i gerdded 6,600 o filltiroedd i godi arian i Mind
James, o Ogledd Cymru, sy’n egluro sut y gwnaeth o wneud ffrindiau, achub bywyd, a darganfod cariad ar ôl ymgymryd â’r dasg enfawr o gerdded arfordir Prydain.
Mae'r blog hwn yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad.
Helo. James Lloyd ydw i ac mi wnes i gerdded 6,600 o filltiroedd yr holl ffordd o amgylch arfordir Prydain i godi arian i Mind, yr elusen sydd wedi fy helpu i gael fy iechyd meddwl yn ôl.
Mi wnes i sgwennu fy mlog cyntaf i Mind yn fuan ar ôl cychwyn fy nhaith, dros 2 flynedd yn ôl! Cychwynnais ar 03 Hydref 2022, gan adael fy nghartref yng Ngogledd Cymru a cherdded yn groes i’r cloc o amgylch y tir mawr.
"Aeth yr anobaith yn drech na fi"
Cyn cychwyn, ro’n i wedi gwella ar ôl cyfnod o salwch meddwl. Ro’n i wedi bod yn gwadu bod gen i iselder a gorbryder am flynyddoedd. Ond roedd bod ar fy mhen fy hun yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19 yn ffordd berffaith o ymwreiddio naratif mewnol niweidiol o fod yn ddiwerth, naratif a oedd wedi’i adeiladu ar ddiffyg hyder ynof fi fy hun.
Mi ddechreuodd y teimlad o fod yn dda i ddim pan wnaeth fy mhartner ar y pryd fy ngadael i. Ro’n i wedi bod yn ymdrechu mor galed i geisio bod yn rhywun ro’n i’n meddwl ei fod o’n haeddu cael ei garu. Ond pan ddaeth cyfyngiadau symud munud olaf y Nadolig aeth yr anobaith yn drech na fi, a dechreuais gael meddyliau hunanladdol ar noswyl Nadolig. Roedd yna lais tywyll ac awdurdodol yn dweud wrtha i mod i’n dda i ddim, bod neb yn fy hoffi i, ac y dylwn i ddod â mywyd i ben. Roedd y llais yma’n boddi unrhyw lais rhesymegol.
Ro’n i mor falch mod i’n fyw ar ddydd Nadolig. Roedd fy rhieni wedi anfon coeden Nadolig fach drwy’r post ata i, a dywedodd fy mrawd wrtha i mod i’n mynd i fod yn ewythr. Ro’n i wedi cael dyn bach sinsir wedi’i wneud o ffelt y diwrnod hwnnw, ac roedd y dyn bach sinsir yma ar fy nghap i pan o’n i’n cerdded o amgylch yr arfordir i’m hatgoffa i pa mor ddiolchgar ro’n i’n teimlo y diwrnod hwnnw.
Cafodd fy meddyliau digalon effaith negyddol ar y ffordd ro’n i’n gweld fy hun, a chollais bob persbectif ar bwy o’n i. Mi wnaeth magu digon o blwc i siarad am y peth gyda phobl dw i’n eu trystio - fy mrawd i ddechrau, yna fy ffrindiau - fy helpu i gael rhywfaint o bersbectif yn ôl, a sylweddoli bod yna bobl oedd yn fy ngharu i – rhywbeth do’n i’n methu’n glir â’i weld ar y pryd. Mi wnaeth y meddyliau hunanladdol fy nychryn i, a gwneud i mi sylweddoli bod angen i mi dderbyn mod i’n sâl yn feddyliol a newid fy mywyd.
Blaenoriaethu hunanofal
Roedd hunanofal yn rhywbeth newydd i mi, ond mi ddaeth yn flaenoriaeth i mi. Roedd gwella fy niet, gwneud ymarfer corff a chael cwsg yn bwysig iawn yn fy adferiad, ond roedd gwneud amser i wneud pethau ro’n i’n mwynhau eu gwneud, a oedd yn ffyrdd o fynegi fy hun, yr un mor bwysig. Nid pethau dymunol i’w gwneud yn achlysurol oedd ysgrifennu, tynnu lluniau a cherdded i mi, ond pethau ro’n i eu hangen.
Rhan o’r hunanofal yma oedd gofyn am help. Mi wnaeth siarad â phobl sy’n agos ata i, a chwnsela ar ôl hynny, fy helpu i sylweddoli sut y gwnaeth disgwyliadau uchel, a thuedd i wrthod unrhyw beth a oedd yn llai na pherffaith, fy rhoi mewn sefyllfa lle nad oedd siawns i mi lwyddo. Mi wnaeth gwefan Mind hefyd fy helpu i newid y ffordd ro’n i’n gweld fy hun. Ro’n i’n argyhoeddedig bod rhywbeth mawr yn bod arna i, ond roedd y wefan yn adnodd gwych i ddysgu am iechyd meddwl a dileu naratifau di-sail.
Mi wnaeth clywed pobl eraill yn siarad yn agored am eu problemau nhw yn y gymuned wneud i mi sylweddoli nad o’n i ar fy mhen fy hun o ran y salwch yma, a bod gen i ddim rheswm i deimlo cywilydd. Roedd cael gwared ar y cywilydd yna a’r stigma yn hollbwysig er mwyn gwella, oherwydd mi wnaeth hynny fy ngalluogi i dderbyn fy sefyllfa.
Os ydy rhywun yn darganfod lwmp ar ei groen, ac yn cael clywed bod y lwmp yna’n ganser, mae gan y person yna lawer gwell siawns o oroesi os ydy o’n gofyn am help. Mae’r un peth yn wir ym maes iechyd meddwl, a dylai salwch cyffredin fel iselder a gorbryder gael eu trin fel caneri mewn pwll glo hefyd.
Drwy roi blaenoriaeth i hunanofal ac ymwybyddiaeth ro’n i’n datblygu perthynas ro’n i wedi bod yn ei hesgeuluso efo fi fy hun, ac roedd rhywbeth yn fy isymwybod yn dweud wrtha i bod yna werth i ’mywyd i. Mae iechyd meddwl yn troi’n salwch meddwl mewn amgylchedd lle mae rhywun yn esgeuluso ei hun.
Penderfynu cerdded dros Mind
Dw i’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored, ysgrifennu a thynnu lluniau, ac mi wnaeth y diddordeb yma fy annog i droi at hen freuddwyd a fyddai’n golygu bod gen i fwy o amser i’w dreulio’n gwneud y pethau yma; cerdded o gwmpas arfordir Prydain.
Mi ges i’r syniad yn wreiddiol ar ôl bod yn cerdded Llwybr Arfordir Ynys Môn, ac wrth edrych ar Google Maps a chwilio am lwybrau eraill i’w cerdded yn y dyfodol, gwelais ynys Prydain. Yn rhyfedd iawn, ro’n i’n teimlo mai hwn oedd y cam nesaf i mi. Roedd hyn tua’r adeg y gwnaeth fy mherthynas i chwalu ac y dechreuodd fy salwch meddwl, felly roedd y syniad yn teimlo fel ffordd o ddianc oddi wrth fy mhroblemau.
Ond roedd yr hedyn wedi’i blannu, ac ymhen blwyddyn, roedd o wedi tyfu yn fy meddwl. Roedd fy nghynllun hunanofal wedi trawsnewid fy iechyd meddwl, ond ro’n i wedi torri fy nghoes! Roedd y doctor wedi dweud wrtha i y byddwn i’n debygol o gael cryd cymalau pan fyddwn i’n hŷn, felly ro’n i’n teimlo mai dyma’r amser i wneud rhywbeth, cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Roedd dilyn fy nhrwyn o amgylch yr arfordir yn teimlo fel y llwybr iawn i mi, ac roedd anwybyddu’r alwad yna’n teimlo fel ildio i fywyd o ddisgwyliadau a oedd wedi achosi i mi esgeuluso fy hun.
Penderfynais gerdded i godi arian i Mind, casglu sbwriel ar yr arfordir wrth i mi gerdded, a chofnodi’r daith drwy dynnu lluniau efo camera, sgwennu ac arlunio. Ro’n i eisiau gwneud hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, a dangos bod rhan orau ein bywydau o’n blaenau ni. Ar 03 Hydref 2022 cychwynnais ar y daith, heb sylweddoli cymaint y byddai’n newid fy mywyd.
Roedd hi’n flwyddyn hir - cerdded 6,600 o filltiroedd o amgylch yr arfordir, a dringo’r mynydd uchaf ym mhob un o’r tair gwlad ar y ffordd.
Dyma brofiad anoddaf fy mywyd, cerdded tua’r de o Ogledd Cymru drwy stormydd y gaeaf a cheisio dilyn arfordir di-lwybr yr Alban yn yr haf. Bu bron iawn imi roi’r ffidil yn y to yn ystod storm ddychrynllyd ar yr ail ddiwrnod, ac ar y trydydd diwrnod, dechreuodd cynfas lawr fy mhabell ollwng, cyn rhwygo’n llwyr yn nes ymlaen. Bûm yn byw yn y babell am dri mis nes i mi gyfarfod dyn mewn tafarn yng Nghernyw wnaeth gynnig prynu un newydd i mi, ac mi ges i honno ar Noswyl Nadolig!
"Roedd rhywbeth mor syml â gwên neu gyfarchiad gan ddieithryn yn fy nghadw i fynd."
Ro’n i mor ddiolchgar iddo am ei help, ac am gefnogaeth cannoedd o bobl. Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn hebddyn nhw. Yn aml iawn byddai dieithriaid yn fy nghroesawu i’w cartrefi ar ôl fy nghyfarfod i ar y llwybr. Roedden nhw’n golchi fy nillad, yn fy mwydo, ac yn rhoi offer newydd a bwyd i mi.
Roedd pawb ro’n i’n gweithio efo nhw yn Mind yn gefnogol iawn, yn chwilio am gyfleoedd i gael sylw yn y cyfryngau ac fy annog i ddal ati. Roedd y gefnogaeth foesol yn anhygoel. Roedd rhywbeth mor syml â gwên neu gyfarchiad gan ddieithryn yn fy nghadw i fynd.
Helpu eraill
Ro’n i’n gobeithio y byddwn i’n gallu helpu pobl ar y daith, ond yn aml iawn ro’n i’n teimlo mai pobl eraill oedd yn fy helpu i! Roedd cerdded i godi arian i elusen iechyd meddwl yn golygu bod pobl yn gallu teimlo’n gyfforddus i siarad am bethau oedd yn eu poeni nhw, ac roedd o’n fy annog i i siarad am fy argyfwng i hefyd.
Yn anffodus roedd meddyliau hunanladdol yn brofiad cyffredin ymhlith y bobl y gwnes i eu cyfarfod, a daeth yr argyfwng iechyd meddwl yma’n fyw i mi pan wnes i gyfarfod merch a oedd yng nghanol y teimladau hyn.
Gan mai fi oedd yr unig berson arall a oedd o gwmpas, mi wnes i drio dal ei sylw, chwifio fy mreichiau a mynd ati i geisio ei pherswadio i beidio ag ildio i’w meddyliau. Mi wnes i ddweud wrthi mod i’n gwybod sut deimlad oedd o, ac roedd cysylltu dros y profiad cyffredin yna’n ddigon i dorri ar ei meddyliau a mynd â hi i le diogel. Yn ffodus, mi wnaeth tîm argyfwng ac yna’r gwasanaethau brys gamu i mewn. Mi wnes i aros efo hi tan iddyn nhw fynd â hi i ffwrdd, ond fyddwn i byth yn clywed ganddi eto.
Ro’n i’n dal i deimlo ’mod i ddim wedi gallu gwneud digon i’w helpu hi, gan ei bod hi’n dal i brofi’r meddyliau hunanladdol pan wnaethon ni fynd ein ffyrdd ein hunain. Mi wnes i feichio crio wedyn, ac ro’n i’n teimlo rhyw wacter mawr y tu mewn i mi oherwydd mod i’n galaru amdani hi ac am y fersiwn iau ohonof i a oedd wedi rhannu’r meddyliau tywyll hynny.
Roedd o’n alar a oedd wedi cuddio ei hun fel dicter tuag at fy mhartner ar y pryd, a oedd, drwy gyd-ddigwyddiad, wedi symud i arfordir yr Alban o ’mlaen i tra ro’n i’n cerdded.
Roedd ei chyfarfod hi ar fy nhaith yn deimlad swreal, gan mai’r ffaith ei bod hi wedi fy ngadael i oedd y catalydd ar gyfer fy chwalfa feddyliol. Ond roedd y ddau ohonon ni wedi dod yn bell iawn, pan oedden ni’n eistedd mewn caffi yn Inverness, yn llawer hapusach. Roedd hi wedi dweud bod yn ddrwg ganddi hi, a gan mod i wedi gallu maddau iddi mi lwyddodd y ddau ohonon ni i gau’r drws o’r diwedd ar bennod anodd ym mywydau’r ddau ohonon ni.
"Dyma rywun y byddwn i’n gallu rhannu fy mywyd efo hi."
Ychydig yn ddiweddarach, pan o’n i’n aros i storm basio yn lloches Kearvaig yn Cape Wrath, cefais neges gan ferch ro’n i wedi ei chyfarfod fis ynghynt, yn gofyn fyddai hi’n cael prynu diod i mi pan fyddwn i wedi gorffen.
Roedd Abi wedi cynnig brecwast i mi yn y caffi lle’r oedd hi’n gweithio yn Norfolk. Roedden ni’n hoffi ein gilydd ar unwaith. Mi ddechreuodd hi siarad am adar nad oedd hi’n gwybod dim byd amdanyn nhw, cyn mynd i guddio wedyn mewn cywilydd, a dyma fi’n meddwl, dyma rywun y byddwn i’n gallu rhannu fy mywyd efo hi.
Roedd ganddi hi ferch, felly mi wnes i gymryd nad oedd hi ar gael, ac mi wnaeth hi feddwl na fyddai gen i ddiddordeb ynddi hi. Ond ar ôl i ni ddechrau anfon negeseuon at ein gilydd, mi wnaethon ni syrthio mewn cariad, a dod yn deulu. Fyddwn i byth wedi dychmygu y byddai rhywun yn edrych arna i fel tad ar ddiwedd fy nhaith gerdded, rhywbeth a oedd yn ymddangos yn amhosibl yn y cyfnod tywyll hwnnw pan o’n i yn nyfnderoedd salwch meddwl.
Dw i mor falch mod i heb wrando ar y meddyliau hunanladdol yna. Fyddwn i ddim wedi cerdded yr arfordir, gallu cau’r drws ar y bennod flaenorol, na chyfarfod Abi. Fyddwn i ddim wedi codi £21,650 i Mind, nac wedi atal marwolaeth. Yn ddiweddarach clywais fod y ferch â’r meddyliau hunanladdol wedi gwella’n llwyr, yn union fel fi.
Dw i’n sgwennu llyfr am fy mhrofiad rwan. Mae fy stori i am iechyd meddwl yn stori gyffredin, a dyna pam mae hi’n stori mor bwysig i’w hadrodd. Pan wnes i edrych ar fy ôl fy hun, a gwneud y pethau hynny dw i’n mwynhau eu gwneud, ac sy’n gwneud i mi deimlo’n fyw, roedd popeth arall fel pe bai wedi syrthio i’w le. Mae fy nhaith wedi profi i mi fod hunanofal yn mynd yn bell.
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.