Ymgyrchoedd Mind Cymru
O lobïo gwleidyddion yn San Steffan a’r Senedd i adeiladu pwysau am wasanaethau gwell yn eich ardal leol - rydym yn ymgyrchu i gyrraedd sefyllfa well i’r rhai ohonom yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Sortiwch y Switsh
Mae gan bobl ifanc yr hawl i gymorth iechyd meddwl, beth bynnag eu hoedran. Ond mae symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael, eu bod ar eu pen eu hunain ac yn cael eu hanwybyddu. Mae angen newid y system. Ymunwch â'n hymgyrch i Sortio'r Switsh.
Dod yn ymgyrchydd
Mae ymgyrchwyr Mind yn gweithio gyda ni i ymgyrchu am fargen well i bobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl. Cofrestrwch i fod yn ymgyrchydd Mind heddiw. Byddwn ni'n eich cefnogi chi i godi llais a gweithredu ar un, neu bob un, o'n hymgyrchoedd.
Sefwch Drosof I
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru deall ac ymateb i’r heriau sy’n wynebu pob un ohonom gyda phroblemau iechyd meddwl. #SefwchDrosofI yw ein hymgyrch i sicrhau mae hyn yn digwydd.
Miliwn o ddwylo
Mae ein hymchwil yn dangos nad yw pobl ifanc bob amser yn deall sut i ofalu am eu hiechyd meddwl. Rydyn ni'n gweithio gyda'r Scowtiaid fel rhan o'u rhaglen Miliwn o Ddwylo, i bobl ifanc gael dysgu mwy am iechyd meddwl.
Tâl Salwch Statudol
Dim ond £95.85 yr wythnos yw Tâl Salwch Statudol, sy'n ein gorfodi ni i wneud y dewis amhosibl rhwng gofalu am ein hiechyd meddwl a thalu biliau neu brynu bwyd. Ni ddylai unrhyw un orfod talu pris mor uchel am gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd eu hiechyd meddwl.
Budd-daliadau
Mae'r system les yn newid drwy'r amser, ac rydyn ni'n gwybod bod ffordd bell i fynd nes ei fod yn gweithio i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Rydyn ni'n ymgyrchu i sicrhau bod budd-daliadau yn cynorthwyo pobl i fyw'n annibynnol a gydag urddas.
Amser i Newid Cymru
Law yn llaw gyda Adferiad Recover, rydyn ni'n gweithio i roi terfyn ar stigma a gwahaniaethu i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru trwy gyfrwng ein hymgyrch gwrth-stigma uchelgeisiol.
Adroddiadau a chanllawiau
Darllenwch ein hadroddiadau ar ystod o faterion iechyd meddwl, a sut maent yn effeithio ar bobl yng Nghymru.