Adroddiadau Mind Cymru
Adroddiadau Mind Cymru ar faterion iechyd meddwl yng Nghymru.
Strategaeth iechyd meddwl newydd i Gymru
Yn 2023 buom yn siarad â thua 400 o bobl i ofyn beth yw eu blaenoriaethau ar gyfer strategaeth iechyd meddwl nesaf Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn 2024. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio pa gamau y mae angen i ni eu gweld gan y llywodraeth yn y strategaeth newydd am Gymru hapus ac iach.
Ymchwil ar effaith coronafeirws
Mae'r pandemig coronafeirws wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau iechyd meddwl presennol.
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar yr effaith y mae coronafeirws wedi’i chael ar iechyd meddwl, yn enwedig ar gymunedau agored i niwed.
Problemau gyda gwasanaethau digidol
Roedd y pandemig coronafeirws yn golygu bod gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi datblygu ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys apwyntiadau digidol.
Roedd hyn yn helpu pobl i gael cymorth yn ystod y cyfnod clo. Ond roedd llawer o broblemau gyda'r gwasanaethau digidol yma. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r materion hynny.
Amseroedd aros am therapi
Mae miloedd o bobl ledled Cymru yn aros yn hirach na'r targed o 26 wythnos i gael therapi seicolegol arbenigol. Mae cannoedd o bobl yn aros am fwy na flwyddyn.
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru wella dewis, cynyddu capasiti a lleihau amseroedd aros.
Effeithiau'r pandemig ar iechyd meddwl
Trwy ein hymchwil yn 2020, dywedodd mwy na 800 o bobl wrthym sut yr effeithiodd y pandemig ar eu hiechyd meddwl.
Mae'r adroddiad hwn yn archwilio profiadau'r bobl hynny.
Ailadeiladu Meddyliau ar ôl strôc
Mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Strôc, buom yn gweithio gyda goroeswyr strôc i ddeall y bylchau mewn cymorth iechyd meddwl yn dilyn strôc, a beth y gellir ei wneud yn ei gylch. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r profiadau hynny ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a’r GIG.
Gwella hawliau pobl o ran iechyd meddwl
Mae’r Mesur Iechyd Meddwl yn ddarn o ddeddfwriaeth sy’n canolbwyntio ar wella hawliau pobl i gael cymorth iechyd meddwl. Hawliau fel cael mynediad at driniaeth, ac eiriolaeth yn yr ysbyty. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar yr effeithiau y mae’r Mesur wedi’u cael. A beth arall y gellir ei wneud.
Ymgyrchoedd
Rydyn ni'n ymgyrchu i gael bargen well i'r rhai ohonom yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl. Darganfyddwch fwy.
Sefwch Drosof I
Ymunwch â'n hymgyrch i sicrhau fod addewidion etholiad Llywodraeth Cymru'n golygu newid go iawn.
Mind Cymru
Gyda'n rhwydwaith o 20 grŵp Mind lleol, ni yw'r brif elusen iechyd meddwl yng Nghymru. Darganfyddwch fwy.