Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Rhestr termau triniaeth a chymorth – i rai 11-18 oed

Mae’n egluro’r geiriau a’r ymadroddion y gallet ti eu clywed pan fyddi di’n cael triniaeth a chymorth ar gyfer dy iechyd meddwl.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Efallai y bydd yr adnodd hwn yn ddefnyddiol os wyt ti:

  • Yn yr ysbyty oherwydd dy iechyd meddwl
  • Yn cael cymorth gan wasanaeth iechyd meddwl
  • Yn chwilio am gymorth ar gyfer dy iechyd meddwl

Chwilio am derm

A


Absenoldeb o dan adran 17

Pan fyddi di wedi dy anfon i'r ysbyty, gallai dy brif feddyg ganiatáu i ti dreulio amser oddi ar y ward. Efallai y byddi di’n clywed hyn yn cael ei ddisgrifio fel absenoldeb.

Gallai dy feddyg bennu amodau neu reolau ar gyfer dy absenoldeb, fel dim ond caniatáu i ti fynd allan gyda rhiant neu ofalwr.


Asesiad o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl

Mae hyn yn digwydd pan fydd grŵp o weithwyr iechyd proffesiynol yn cwrdd â ti i weld a oes angen i ti fynd i ysbyty i gael triniaeth a chymorth ar gyfer dy iechyd meddwl.

Os yw pob un ohonyn nhw’n cytuno bod angen i ti fynd i’r ysbyty, gallet ti gael dy anfon i'r ysbyty o dan un o adrannau’r Ddeddf.

Gallet ti glywed y term ‘asesiad’ yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r broses hon hefyd.


Asesiad risg

Gall aelod o dy dîm gofal yn yr ysbyty ddefnyddio asesiad risg i ystyried y risgiau a’r buddion o ganiatáu i ti wneud rhywbeth neu gael rhywbeth. Er enghraifft, y risgiau a’r buddion o adael yr ysbyty am gyfnod byr.


Atgyfeiriad

Cais sy’n cael ei anfon at wasanaeth yw hwn. Mae’n gofyn iddo adolygu:

  • Sut rwyt ti’n teimlo
  • Pa gymorth sydd ei angen arnat ti

Mae’r atgyfeiriad yn helpu i egluro i’r gwasanaeth newydd pam y dylai dy weld di a beth yw’r ffordd orau o dy helpu di.

Weithiau, byddi di’n gallu dy atgyfeirio dy hunan, neu bydd aelod o’r teulu neu weithiwr cymdeithasol yn gallu dy atgyfeirio di. Ond, yn aml, dy feddyg fydd yn gwneud hyn gan ei fod yn deall dy hanes meddygol.


Awdurdod lleol

Awdurdod lleol yw’r llywodraeth leol yn yr ardal lle rwyt ti’n byw. Mae’n darparu gwasanaethau, fel gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, cludiant a thai.

Mae pob awdurdod lleol yn penderfynu sut i ddarparu ei wasanaethau. Mae hyn yn golygu y gall fod gan rai gwasanaethau mewn gwahanol ardaloedd wahanol reolau.

C


Cael dy anfon (i’r ysbyty)

Ystyr hyn yw dy fod yn cael dy anfon i’r ysbyty o dan un o adrannau Deddf Iechyd Meddwl 1983.

Mae gan wahanol adrannau o’r Ddeddf wahanol reolau i dy gadw di’n ddiogel.

Mae hyd y cyfnod y gelli di gael dy gadw yn yr ysbyty yn dibynnu ar yr adran rwyt ti’n cael dy gadw oddi tani.

I gael mwy o wybodaeth, darllena ein tudalen am gael dy anfon i'r ysbyty.


Cael dy dderbyn

Ystyr hyn yw mynd i ysbyty, i glinig neu i wasanaeth arall i gael triniaeth a chymorth ar gyfer dy iechyd meddwl.

Os cei di dy dderbyn i ysbyty, gallet ti fynd yno fel:


Cael dy gadw

Mae’r term hwn yn disgrifio sefyllfa lle byddi di’n cael dy gadw rywle, fel mewn ysbyty, hyd yn oed os nad wyt ti wedi cytuno i hynny. Bydd hyn yn digwydd dim ond os wyt ti’n sâl iawn a bod gweithwyr proffesiynol yn meddwl y gallet ti dy beryglu dy hunan neu eraill.

Mewn ysbyty iechyd meddwl, gallet ti gael dy gadw o dan ddeddf o’r enw Deddf Iechyd Meddwl 1983. Mae ‘dan gadwad’ yn enw arall ar hyn.

Darllena ein tudalen am gael dy anfon i'r ysbyty i gael mwy o wybodaeth.


Cael dy ryddhau

Ystyr hyn yw bod dy driniaeth mewn ysbyty, clinig neu wasanaeth arall yn dod i ben. Gallet ti gael dy ryddhau am y rhesymau hyn:

  • Mae dy driniaeth wedi dod i ben
  • Rwyt ti’n ddigon hen i ddefnyddio gwasanaeth arall
  • Rwyt ti wedi gofyn i gael gadael
  • Mae angen i ran nesaf dy driniaeth barhau rywle arall

Dylai dy dîm gofal egluro beth mae hyn yn ei olygu, a beth fydd yn digwydd os bydd angen gofal arnat ti yn y dyfodol.


Claf anffurfiol

Gallet ti hefyd glywed y term claf gwirfoddol. Ei ystyr yw dy fod ti, neu rywun sy’n gofalu amdanat ti, yn cytuno i ti aros mewn ysbyty i gael triniaeth a chymorth ar gyfer dy iechyd meddwl.

Darllena ein tudalen am fod yn glaf anffurfiol i gael mwy o wybodaeth.


Claf gwirfoddol

Rwyt ti’n glaf gwirfoddol pan fyddi di, neu rywun sy’n gofalu amdanat ti, yn cytuno i ti aros mewn ysbyty i gael triniaeth a chymorth ar gyfer dy iechyd meddwl. Weithiau, gelwir claf o’r fath yn glaf anffurfiol.

Darllena ein tudalen am fod yn glaf anffurfiol i gael mwy o wybodaeth.


Clinigydd cyfrifol (RC)

Hwn yw’r meddyg sy’n gyfrifol am dy ofal os cei di dy anfon i'r ysbyty.

Dim ond dy glinigydd cyfrifol sy’n gallu gwneud penderfyniadau penodol, fel caniatáu i ti fod yn absennol o’r ward. Dy glinigydd cyfrifol hefyd yw’r unig aelod o dy dîm gofal sy’n gallu dy ryddhau di pan fyddi di’n cael dy gadw yn yr ysbyty o dan un o adrannau’r Ddeddf Iechyd Meddwl.

I gael mwy o wybodaeth, darllena ein tudalen am gael dy anfon i'r ysbyty.


Crynodeb rhyddhau

Adroddiad sy’n cael ei baratoi gan dy dîm gofal yn yr ysbyty pan fyddi di’n cael dy ryddhau o’r ysbyty yw hwn. Dylai egluro unrhyw ddiagnosis rwyt ti wedi’i gael, a dylai grynhoi’r gofal a’r driniaeth rwyt ti wedi’u cael yn yr ysbyty.


Cydgysylltydd gofal

Yr unigolyn hwn yw dy brif berson cyswllt os wyt ti’n cael triniaeth a chymorth parhaus ar gyfer dy iechyd meddwl. Dylai gadw mewn cysylltiad agos â ti, a dylai ateb unrhyw gwestiynau sydd gen ti.


Cydsyniad

Byddi di’n rhoi cydsyniad pan fyddi di’n cytuno i rywbeth, fel mynd i’r ysbyty neu gael triniaeth.

Alli di ddim cydsynio i rywbeth oni bai dy fod yn gymwys i wneud hynny (os wyt ti’n 15 oed neu’n iau), neu fod gen ti alluedd i wneud hynny (os wyt ti’n 16 oed neu’n hŷn).

Ystyr bod yn gymwys neu gael galluedd yw dy fod yn deall yr hyn rwyt ti’n cydsynio iddo a’r hyn a allai ddigwydd os byddi di’n cytuno neu’n anghytuno i rywbeth (yn dweud ie neu na).


Cyfreithiwr

Rhywun sy’n gallu dy gynorthwyo di a dy deulu mewn achos cyfreithiol yw cyfreithiwr. Gall dy helpu di i ddeall deddfau sy’n ymwneud ag unrhyw broblemau rwyt ti’n eu hwynebu.

Er enghraifft, gelli di ddefnyddio cyfreithiwr os wyt ti’n gwneud cwyn neu’n ei chael hi’n anodd hawlio rhywbeth mae gen ti hawl i’w gael.

Gall rhai cyfreithwyr gostio llawer o arian, ond dydy eraill ddim yn codi tâl o gwbl.


Cyfrinachedd

Mae cyfrinachedd yn ymwneud â chadw dy wybodaeth yn breifat.

Mae’n golygu, pan fyddi di’n siarad â gweithwyr proffesiynol, na ddylen nhw ddweud wrth neb arall am yr hyn rwyt ti wedi’i ddweud.

Dim ond mewn sefyllfaoedd penodol y byddan nhw’n rhannu’r hyn rwyt ti’n ei ddweud wrthyn nhw. Er enghraifft, os byddi di’n gofyn iddyn nhw wneud hynny neu os byddan nhw’n pryderu y gallet ti neu rywun arall fod mewn perygl.

Darllena ein tudalen am gyfrinachedd i gael mwy o wybodaeth.


Cyngor

Neu gyngor lleol. Grŵp o bobl yw hwn sy’n gyfrifol am wasanaethau penodol yn dy ardal di, fel gofal cymdeithasol ac addysg.


Cynllun gofal

Cynllun yw hwn sy’n egluro dy broblem iechyd meddwl, pa driniaeth a chymorth sydd eu hangen arnat ti, a phwy fydd yn darparu’r cymorth hwnnw. Gallai hefyd nodi beth ddylai ddigwydd os wyt ti mewn argyfwng iechyd meddwl.

Mae gwahanol fathau o gynlluniau ar gael, fel Dull Rhaglen Ofal (CPA) neu Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP). Pa bynnag fath o gynllun sydd gen ti, dylet ti gael copi ohono bob amser.


Cynllun Gofal a Thriniaeth (CTP)

Pecyn cymorth sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) os wyt ti’n byw yng Nghymru a bod gen ti broblem iechyd meddwl yw hwn.


Cwnsela

Math o therapi siarad gyda chwnselydd hyfforddedig yw hwn. Gall cwnsela dy helpu di:

  • I drin a thrafod problem neu sefyllfa sy’n effeithio’n negyddol ar dy iechyd meddwl
  • I gydnabod sut mae’r broblem neu’r sefyllfa’n effeithio arnat ti
  • I ddod o hyd i strategaethau ymdopi cadarnhaol neu ffyrdd o wella’r sefyllfa

Gall ddigwydd wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo.


Cwnselydd

Mae cwnselwyr yn gwrando arnat ti ac yn darparu man diogel i ti drin a thrafod sut rwyt ti’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn.

Gallan nhw dy helpu di i siarad am broblemau neu sefyllfaoedd sy’n effeithio arnat ti, ac i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi.

Efallai y byddi di’n clywed y termau cwnselydd a therapydd yn cael eu defnyddio, ond mae eu hystyr yr un fath.

D


Deddf Cydraddoldeb 2010

Hon yw’r ddeddf sy’n dy amddiffyn di rhag gwahaniaethu ac yn rhoi hawl i ti ei herio.


Deddf Iechyd Meddwl 1983

Deddf yng Nghymru a Lloegr yw hon. Mae’n golygu y gelli di gael dy anfon i'r ysbyty os oes gen ti broblem iechyd meddwl a bod angen dy gadw di’n ddiogel drwy roi triniaeth i ti mewn ysbyty.


Dull Rhaglen Ofal (CPA)

Dull o ddarparu cymorth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) i bobl yn Lloegr â phroblem iechyd meddwl yw hwn. Mae’n golygu y dylai fod gen ti gydgysylltydd gofal a chynllun gofal.

E


Eiriolwr

Gall eiriolwyr dy helpu di i ddweud dy ddweud am y pethau sy’n bwysig i ti. Gallan nhw hefyd helpu i wneud yn siŵr bod dy lais yn cael ei glywed.

Mewn rhai sefyllfaoedd, bydd gen ti hawl gyfreithiol i gael eiriolwr. Eiriolaeth statudol yw’r enw ar hyn.

Hyd yn oed os nad oes gen ti hawl i eiriolwr, mae mathau eraill o eiriolaeth ar gael sy’n gallu dy helpu di i wneud yn siŵr bod dy lais yn cael ei glywed.

Darllena ein tudalen am eiriolaeth i gael mwy o wybodaeth.


Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA)

Gall Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol dy helpu di:

  • I ddeall dy hawliau o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • I ddeall unrhyw driniaeth feddygol rwyt ti’n ei chael neu y gallet ti ei chael
  • Â phethau ymarferol, fel mynd i gyfarfodydd neu weld dy gofnodion meddygol

Darllena ein tudalen am eiriolaeth i gael mwy o wybodaeth am Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol.


Eiriolwr statudol

Mewn rhai sefyllfaoedd, mae gen ti hawl gyfreithiol i gael cymorth gan eiriolwr. Eiriolaeth statudol yw’r enw ar hyn.

Er enghraifft, os wyt ti’n cael dy gadw yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, mae gen ti hawl i gael Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA).

Darllena ein tudalen am eiriolaeth i gael mwy o wybodaeth am eiriolaeth statudol.

G


Gofal fel claf mewnol

Hwn yw’r gofal rwyt ti’n ei gael pan fyddi di’n aros mewn ysbyty. Gallet ti fod yn glaf anffurfiol neu gallet ti fod wedi dy anfon i’r ysbyty. Gallet ti fod yn cael triniaeth a chymorth ar gyfer dy iechyd corfforol hefyd.

I gael mwy o wybodaeth, darllen ein tudalen am fod yn glaf anffurfiol neu am gael dy anfon i'r ysbyty.


Gorchymyn gofal

Bydd llys yn rhoi’r gorchymyn hwn pan fydd yn rhoi pŵer i awdurdod lleol wneud penderfyniadau am blentyn.

Bydd yr awdurdod lleol fel arfer yn gwneud penderfyniadau gyda dy rieni neu ofalwyr. Ond os bydd yn pryderu am dy lesiant neu dy ddiogelwch, gall wneud penderfyniadau hebddyn nhw.


Gorchymyn Triniaeth Gymunedol (CTO)

Bydd y gorchymyn hwn yn cael ei roi pan fyddi di wedi dy ryddhau o’r ysbyty, ond pan fo angen i ti ddilyn rheolau penodol o hyd. Er enghraifft, cymryd dy feddyginiaeth neu fynd i weld dy feddyg. Os byddi di’n mynd yn sâl neu os na fyddi di’n dilyn y rheolau hyn, gallet ti ddychwelyd i’r ysbyty.

Dim ond os wyt ti wedi dy anfon i’r ysbyty o dan adrannau penodol o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, fel adran 3 neu 37, y gelli di gael Gorchymyn Triniaeth Gymunedol.

Darllena ein tudalen am gael dy anfon i'r ysbyty i gael gwybodaeth am y gwahanol adrannau.


Gwahaniaethu

Bydd gwahaniaethu yn digwydd pan fydd rhywun yn dy drin di’n wahanol neu’n annheg oherwydd:

  • Dy oedran
  • Dy anabledd
  • Dy rywedd
  • Dy hunaniaeth rhywedd
  • Dy rywioldeb
  • Dy statws perthynas
  • Dy grefydd neu gredoau
  • Dy hil, lliw dy groen, neu’r man lle cefaist dy eni
  • Dy fod yn feichiog neu fod gen ti blentyn

Yn y Deyrnas Unedig, mae deddf o’r enw’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn dy amddiffyn di rhag gwahaniaethu.

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn dweud bod gen ti anabledd os oes gen ti broblem iechyd corfforol neu broblem iechyd meddwl sy’n cael effaith fawr, negyddol a hirdymor ar dy fywyd.


Gwarcheidiaeth

Pan fyddi di’n sâl, bydd rhywun yn cael ei benodi yn warecheidwad ar dy gyfer. Mae hyn yn digwydd yn lle dy anfon i'r ysbyty. Mae dy warcheidwad yn rhywun heblaw am dy riant neu dy ofalwr.

Gall dy warcheidwad helpu i wneud yn siŵr dy fod yn cael cymorth ar gyfer dy iechyd meddwl tu allan i’r ysbyty. Gall hefyd wneud penderfyniadau penodol amdanat ti. Er enghraifft, gall benderfynu ble rwyt ti’n byw neu wneud yn siŵr dy fod yn mynd i apwyntiadau pwysig.

Dim ond os wyt ti’n 16 neu’n hŷn a’i fod yn hanfodol o ran dy ddiogelwch di neu rywun arall y gelli di gael gwarcheidiaeth.


Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS)

Gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) i gynorthwyo oedolion â phroblemau iechyd meddwl yw’r rhain.


Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

Gwasanaethau sy’n gallu dy gynorthwyo di o ran dy iechyd meddwl yw’r rhain. Maen nhw’n darparu gwasanaethau i unrhyw un o dan 18 oed.

Weithiau, bydd ganddyn nhw enwau gwahanol, ond maen nhw’n darparu’r un peth:

  • Yng Nghymru, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Arbenigol (SCAMHS) yw eu henw.
  • Yng Nghymru a Lloegr, gallet ti hefyd glywed yr enw Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CYPMHS).

Gelli ddod i wybod mwy ar ein tudalennau gwybodaeth am CAMHS.


Gwasanaethau Plant

Un o adrannau’r gwasanaethau cymdeithasol yw’r Gwasanaethau Plant. Maen nhw’n gyfrifol am ddarparu gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc, ac maen nhw’n cael eu darparu gan awdurdod lleol. Gallet ti hefyd glywed yr enw Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yn cael ei ddefnyddio.

Gall Gwasanaethau Plant:

  • Adolygu dy anghenion gofal
  • Cynorthwyo dy rieni neu ofalwyr
  • Dy gynorthwyo di os oes gen ti anabledd neu anghenion addysgol arbennig
  • Dy ddiogelu di rhag niwed, fel cam-drin domestig

Gweithiwr cymdeithasol

Gall gweithiwr cymdeithasol dy gynorthwyo di a dy deulu i fynd i’r afael â gwahanol broblemau gyda’ch gilydd. Ei swydd yw dy gadw di’n ddiogel rhag niwed. Bydd rhai gweithwyr cymdeithasol yn canolbwyntio ar feysydd gwahanol, fel iechyd meddwl neu ddiogelu.


Gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy (AMHP)

Nyrs neu weithiwr cymdeithasol sydd wedi cael hyfforddiant arbennig yw hwn. Mae’n gyfrifol am drefnu Asesiadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae hefyd yn gyfrifol am dy dderbyn di i’r ysbyty os cei di dy anfon i'r ysbyty o dan un o adrannau’r Ddeddf Iechyd Meddwl.


Gwybodaeth bersonol

Unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i dy adnabod di yw hon. Er enghraifft, dy enw, dy gyfeiriad neu dy gyfeiriad IP.

H


Hanes meddygol

Gall y gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanat ti weld dy hanes meddygol. Mae hyn yn eu helpu i roi gofal da i ti ac i ddeall dy anghenion. Mae dy hanes meddygol yn cynnwys y manylion hyn:

  • Sut rwyt ti wedi teimlo yn y gorffennol
  • Unrhyw broblemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl rwyt ti wedi’u cael
  • A wyt ti wedi gweld gweithwyr iechyd proffesiynol o’r blaen, a pham
  • Unrhyw driniaethau neu feddyginiaethau rwyt ti wedi’u cael
  • A wyt ti erioed wedi bod yn yr ysbyty o’r blaen

Hawliau

Yn gyffredinol, mae hawliau yn bodoli i’n hamddiffyn ni ac i’n helpu ni. Os oes gen ti hawl neu hawliau i rywbeth, mae’n golygu dy fod yn gymwys i’w gael neu i’w wneud.

Yn aml, bydd ein hawliau wedi eu nodi mewn deddfau. Weithiau, gall hawliau fod wedi eu nodi mewn polisïau a chanllawiau eraill.

Mae gennym ni rai hawliau nad yw hi fyth yn gyfreithlon eu cymryd oddi arnon ni. Ond, weithiau, gall deddf arall darfu neu gyfyngu ar ein hawliau. Er enghraifft, os cawn ni ein harestio neu ein hanfon i'r ysbyty o dan un o adrannau’r Ddeddf Iechyd Meddwl.

I gael mwy o wybodaeth, darllena ein tudalen am dy hawliau.

O


Ôl-ofal adran 117

Os wyt ti wedi dy anfon i'r ysbyty o dan adran 3, 37, 47 neu 48, mae gen ti hawl gyfreithiol i gael cymorth a elwir yn ôl-ofal adran 117.

Bydd y cymorth a ddarperir o dan adran 117 yn bersonol i ti. Bydd yn dibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnat ti i atal dy iechyd meddwl rhag gwaethygu. Dydy dy hawl di i gael cymorth ddim yn dod i ben nes bod dy dîm gofal yn cytuno nad oes angen y cymorth hwnnw arnat ti mwyach.

I gael mwy o wybodaeth am y gwahanol adrannau, darllena ein tudalen am gael dy anfon i'r ysbyty.

P


Perthynas agosaf

Aelod o’r teulu sy’n ysgwyddo cyfrifoldebau penodol drosto ti os byddi di wedi dy anfon i'r ysbyty neu os oes gen ti Orchymyn Triniaeth Gymunedol (CTO) yw hwn.

Fel arfer, dylai staff yr ysbyty roi gwybod i dy berthynas agosaf os wyt ti’n mynd i gael dy gadw yn yr ysbyty o dan un o adrannau’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Gall dy berthynas agosaf wneud y pethau hyn hefyd:

  • Gwrthwynebu dy gadw o dan adran 3 (dweud na)
  • Cael gwybodaeth am dy driniaeth
  • Gofyn i ti gael dy ryddhau os wyt ti’n cael dy gadw o dan adran 2 neu adran 3

Dwyt ti ddim yn gallu dewis pwy yw dy berthynas agosaf. Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn rhestru’r bobl a all fod yn berthynas agosaf. Fel arfer, y person sydd uchaf ar y rhestr hon yw dy berthynas agosaf:

  • Dy fam neu dy dad (yr hynaf o’r ddau fel arfer)
  • Dy frawd neu dy chwaer (os yw dros 18 oed)
  • Dy nain/mamgu neu dy daid/tadcu
  • Dy ewythr neu dy fodryb

Polisi

Dogfen sy’n nodi sut bydd sefydliad yn gweithredu mewn sefyllfaoedd penodol yw polisi.

Er enghraifft, dylai polisi pontio egluro sut bydd sefydliad yn rheoli’r sefyllfa os byddi di’n gadael ei wasanaeth.


Pontio

Hwn yw’r cyfnod pan fyddi di’n symud oddi wrth wasanaeth plant i wasanaeth oedolion. Er enghraifft, gallet ti symud oddi wrth Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS).

Darllena ein tudalen am symud i wasanaethau oedolion i gael mwy o wybodaeth.


Preifat (gofal iechyd preifat)

Er bod gan y rhan fwyaf ohonon ni hawl i driniaeth am ddim gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr, mae gofal iechyd preifat yn opsiwn arall. Mae hyn yn golygu bod rhaid talu amdano.

Er enghraifft, galli di dalu i weld cwnselydd neu therapydd preifat os oes angen mwy o gymorth arnat ti, neu os oes angen cymorth arnat ti yn gyflymach. Galli di dalu am wasanaethau preifat tra rwyt ti’n cael cymorth gan y GIG, neu yn lle hynny.

Gall gofal iechyd preifat fod yn ddrud iawn. Ond mae rhai therapyddion preifat yn codi ffi is os wyt ti’n fyfyriwr neu’n ennill incwm isel.

R


Rheolwyr ysbyty

Mae rheolwyr ysbyty yn gyfrifol am ddefnyddio Deddf Iechyd Meddwl 1983 mewn ysbytai.

Os cei di dy anfon i'r ysbyty a dy fod eisiau cael dy ryddhau, gelli di ofyn i reolwyr yr ysbyty. Byddan nhw’n cwrdd i ystyried dy achos. Gallan nhw benderfynu dy ryddhau di hyd yn oed os nad yw dy brif feddyg yn cytuno.

S


Seiciatrydd

Meddyg sy’n arbenigo ym maes iechyd meddwl yw hwn. Gall seiciatryddion:

  • Asesu dy iechyd meddwl
  • Penderfynu, gyda ti, pa driniaethau i roi cynnig arnyn nhw, gan gynnwys meddyginiaeth
  • Bod yn therapydd i ti ar gyfer triniaeth, fel therapi grŵp

Seicolegydd

Gall seicolegwyr asesu dy iechyd meddwl a dy gynorthwyo di i drin a thrafod sut rwyt ti’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn.

Mae gwahanol fathau o seicolegwyr ar gael, fel seicolegwyr clinigol neu seicolegwyr galwedigaethol.

T


Tîm gofal

Y bobl hyn yw’r rhai sy’n gofalu amdanat ti pan fyddi di’n cael triniaeth a chymorth ar gyfer problem iechyd meddwl. Gallai dy dîm gofal di gynnwys nyrsys, meddygon a therapyddion.

Byddan nhw’n gofalu amdanat ti mewn ysbyty, yn dy gartref neu drwy Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).


Tribiwnlys Iechyd Meddwl (MHT)

Llys arbennig y gelli di gyflwyno apêl iddo pan fyddi di wedi dy anfon i'r ysbyty yw hwn. Mae’r tribiwnlys yn penderfynu a ellir dy ryddhau di. Gall hefyd roi cyngor ynglŷn â phethau fel absenoldeb o’r ysbyty, trosglwyddo i ysbyty arall a Gorchmynion Triniaeth Gymunedol (CTO).

Yng Nghymru, Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yw enw’r tribiwnlys. Yn Lloegr, y Tribiwnlys Iechyd Meddwl yw ei enw.

Pan fyddi di’n cael gwrandawiad mewn tribiwnlys, bydd tri pherson yn gwneud penderfyniadau, sef:

  • Barnwr
  • Meddyg
  • Rhywun â phrofiad ac arbenigedd yn y maes iechyd meddwl o dan sylw – gweithiwr cymdeithasol neu nyrs fel arfer

Therapi

Triniaeth y bwriedir iddi helpu i wella dy iechyd meddwl a dy lesiant meddyliol yw therapi. Mae llawer o wahanol fathau o therapïau ar gael. Dyma rai mathau cyffredin y gallet ti fod wedi clywed amdanyn nhw:


Therapi galwedigaethol

Math o driniaeth gyda therapydd hyfforddedig yw hwn. Gall dy helpu di i fagu hyder ac i feithrin sgiliau, fel gofalu amdanat ti dy hun, mynd i weithio neu astudio, parhau i weithio neu astudio, neu hobis a diddordebau.


Therapi grŵp

Ystyr hyn yw bod yn rhan o grŵp o bobl ifanc sy’n mynd i sesiynau therapi gyda’i gilydd. Gall fod yn ddefnyddiol, oherwydd gall bod yng nghwmni pobl ifanc eraill dy helpu di i ddeall yr hyn rwyt ti’n ei wynebu.

Mae therapi grŵp yn cael ei arwain gan seicolegydd neu therapydd. Yn aml, bydd yn cyfuno gwahanol fathau o therapi, fel therapi siarad neu therapi creadigol.

Efallai mai therapi grŵp fydd dy brif therapi di, neu efallai y byddi di’n cael triniaeth a chymorth ar dy ben dy hun hefyd.


Therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT)

Math o therapi siarad gyda therapydd hyfforddedig yw hwn. Gall dy helpu di i ystyried dy ymddygiad a dy batrymau meddwl i helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi.

Gall y therapi gael ei ddarparu wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo.


Therapi ymddygiad dialectig (DBT)

Math o therapi siarad yw hwn. Gallet ti gael y therapi hwn os wyt ti’n teimlo emosiynau’n ddwys iawn neu os wyt ti’n ei chael yn anodd eu rheoli. Y bwriad yw dy helpu di:

  • I ddeall ac i dderbyn teimladau anodd
  • I herio strategaethau ymdopi negyddol
  • I ddysgu ffyrdd newydd o reoli dy deimladau

Gallet ti gymryd rhan mewn therapi ymddygiad dialectig ar dy ben dy hun neu mewn grŵp.


Therapïau creadigol

Mae hyn yn cyfeirio at ddefnyddio pethau fel cerddoriaeth, darlunio, peintio, dawnsio, drama neu chwarae gêmau i fynegi dy feddyliau a dy deimladau.

Gall hefyd gyfeirio at wneud gweithgareddau creadigol i wella dy lesiant ac i roi mwy o hyder i ti. Er enghraifft, ysgrifennu neu actio straeon gyda phobl ifanc eraill.

Gallet ti gymryd rhan mewn therapïau creadigol mewn grŵp, neu ar dy ben dy hun.


Therapïau siarad

Mae’r therapïau hyn yn ymwneud â siarad â gweithiwr proffesiynol am dy feddyliau, dy deimladau a dy ymddygiad. Mae llawer o wahanol fathau o therapïau siarad ar gael, fel cwnsela neu therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). Fel arfer, byddi di’n cymryd rhan am gyfnod a nifer o sesiynau y cytunir arnyn nhw.


Therapydd

Gweithiwr proffesiynol hyfforddedig sy’n cynnal neu’n goruchwylio dy therapi di yw hwn. Mae therapyddion yn dy helpu di i bwyso a mesur sut rwyt ti’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn, a beth all dy helpu di yn y dyfodol.

Gallet ti glywed y termau therapydd neu gwnselydd yn cael eu defnyddio, ond mae eu hystyr yr un fath.

W


Ward

Ward yw’r rhan o’r ysbyty rwyt ti’n aros ynddi. Gallet ti glywed y term ‘uned’ yn cael ei ddefnyddio hefyd.

Y


Ymyriadau cyfyngol

Pan fyddi di yn yr ysbyty ar gyfer dy iechyd meddwl, gall staff ddefnyddio pethau a elwir yn ymyriadau cyfyngol. Dylai’r rhain gael eu defnyddio i dy ddiogelu di ac eraill. Dim ond os oes risg ddifrifol o niwed y dylen nhw gael eu defnyddio.

Gall ymyriadau cyfyngol gynnwys pethau fel:

  • Dal gafael ynot ti i dy atal di rhag brifo dy hunan neu rywun arall
  • Rhoi meddyginiaeth i ti i dy dawelu di’n gyflym
  • Dy symud di o sefyllfaoedd sy’n achosi gofid i ti
  • Dy symud di oddi wrth bobl ifanc eraill ar y ward am gyfnod hir

Pan fydd gweithwyr yn defnyddio ymyriadau cyfyngol, mae’n rhaid iddyn nhw ddilyn rheolau arbennig. Mae’r rheolau hyn yn cynnwys:

  • Gwneud yr ymyrraeth am y cyfnod byrraf posibl yn unig
  • Dy gadw di’n ddiogel drwy gydol yr ymyrraeth
  • Dy drin di â pharch
  • Nodi’r ymyrraeth yn dy nodiadau

Os wyt ti’n teimlo nad yw’r gweithwyr yn dilyn y rheolau, gelli di wneud cwyn. Darllena ein gwybodaeth am ddeall cwynion a gwneud cwyn.


Ysbyty seiciatrig

Ysbyty y gelli di fynd iddo i gael triniaeth a chymorth ar gyfer dy iechyd meddwl yw hwn.

Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2020
Rydyn ni’n gweithio ar y dudalen hon ar hyn o bryd.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig