Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut i gefnogi person ifanc arall gyda dicter – i bobl ifanc 11-18 oed

Cyngor a syniadau i bobl ifanc ar sut i gefnogi ffrindiau, partneriaid, brodyr a chwiorydd, neu bobl ifanc eraill gyda theimladau dicter.

Syniadau ar gyfer cefnogi rhywun gyda dicter

Nid ein cyfrifoldeb ni ydy rheoli dicter rhywun arall drostyn nhw – rydyn ni gyd yn gyfrifol am ein hymddygiad ein hunain. Ond mae gan y dudalen hon syniadau am sut i helpu person ifanc arall pan fydd yn teimlo’n ddiogel i ti helpu.

Gallai rhai o’n syniadau weithio’n well i ti nag i rywun arall, a gallai rhai deimlo’n anodd ar y funud. Cofia bod yn garedig i dy hun a dim ond trïo pethau sy’n teimlo’n ddiogel i ti.

Rheoli a deall dicter

Mae’r dudalen yma’n cynnwys syniadau i helpu ti i gefnogi person ifanc arall sy’n teimlo’n ddig.

Mae gennyn ni dudalen arall ar sut i reoli teimlo’n ddig dy hun.

Cyn darllen ein syniadau am gefnogi pobl eraill, efallai y bydd eisiau deall dicter yn well.

Gallaf drafod pethau gyda ffrindiau am beth sy’n eu trigro nhw, a sut y gallaf helpu i wneud yn siŵr nad ydy’r pethau yma’n dod ar eu traws pan rydw i gyda nhw.

Gwrando arnyn nhw

Beth bynnag y maen nhw’n ei deimlo neu’n mynd trwyddo, gallai fod angen rhywun arnyn nhw i wrando arnyn nhw. Gallai hyn eu helpu i deimlo bod pobl yn eu deall a’u cefnogi.

Gallet ti cynnig safbwynt gwahanol neu ffordd wahanol o weld pethau.

Gallet ti hefyd eu helpu i ddod o hyd i rywun arall i wrando arnyn nhw. Ceisia rhannu ein syniadau am:

Gallai edrych fel dicter os ydyn nhw’n ymddwyn yn ymosodol neu dreisgar, fel gweiddi neu daro pethau. Ond gallen nhw hefyd fod yn cael teimladau anodd eraill.

decorative

Cofia: teimlad ydy dicter, nid pwy ydy rhywun.

Mae mwy nag un peth yn achosi dicter ac mae’n gallu digwydd oherwydd llawer o wahanol deimladau a phrofiadau anodd – Leah, 16

Ceisio peidio â chynhyrfu

Gall ceisio peidio â chynhyrfu pan fydd rhywun arall yn ddig fod yn anodd – gallet ti hefyd fod yn profi teimladau anodd. Ond os wyt ti'n aros yn ddigynnwrf o’u cwmpas, gallai eu helpu i reoli eu dicter.

Os gallet ti, ceisia:

  • Anadlu’n ddwfn cyn dweud rhywbeth
  • Oedi cyn dweud rhywbeth
  • Peidio â siarad yn uwch nag y byddet ti fel arfer

Os wyt ti'n cael trafferth peidio â chynhyrfu o gwmpas y person sy’n ddig, gallet ti:

  • Cytuno i gymryd seibiant o’r sefyllfa tan fydd y ddau neu ddwy ohonoch wedi ymdawelu
  • Gadael a dod o hyd i rywle tawelach a mwy diogel i fynd iddo

Gall deimlo’n anodd peidio â chynhyrfu neu reoli’r sefyllfa, yn enwedig os ydy’r ddau berson wedi cael eu trigro ac yn cael trafferth tawelu’r sefyllfa.

Eu helpu i fynd i rywle tawel

Gallai helpu rhywun i ddod o hyd i rywle tawel eu helpu i ymdopi’n well â dicter. Bydd hyn efallai’n anoddach os ydych yn byw ’ch gyda'ch gilydd, ond gallet ti awgrymu:

  • Eu bod yn mynd am dro neu allan o’r tŷ am funud
  • Dod o hyd i neu awgrymu rhywle tawel iddyn nhw fynd
  • Mynd i lefydd gwahanol i roi amser i ffwrdd oddi wrth eich gilydd

Os wyt ti'n cael trafferth meddwl am sut i awgrymu’r pethau uchod, gallet ti ceisio dweud:

  • ‘Efallai y gallai helpu i ti fynd am dro neu fynd allan am ychydig funudau?’
  • ‘Mae’n swnllyd / gormod o bobl yma. Beth am ddod o hyd i rywle tawelach?’
  • ‘Dydy e ddim yn ddefnyddiol os ydy’r ddau ohonon ni’n teimlo fel hyn. Dylen ni fynd i rywle ar wahân nes y byddwn yn teimlo’n dawelach.’

Pan fydd y ddwy neu ddau ohonoch wedi ymdawelu, gallwch gynllunio ymlaen llaw sut i gael sgyrsiau fel hyn, neu ble i fynd os ydyn nhw’n teimlo’n ddig.

Does dim rhaid i mi reoli dicter rhywun arall, ond gallaf helpu i’w cefnogi mewn ffordd iach a diogel – Emma, 17

Teen Boy And Girl Discussing Laptop Content Lying On Bed

Gosod ffiniau

Meddylia am ba ymddygiad sydd ddim yn teimlo’n iawn i ti – mae gan bawb ben draw ar eu hamynedd. Weithiau rydyn ni’n galw hyn yn ‘ffiniau’.

Gallai ‘ffin’ fod yn rhywbeth fel:

  • ‘Dydw i ddim eisiau siarad am hyn gyda ti ar y funud.’
  • ‘Dydw i ddim yn hoffi pan ti’n gweiddi. Os byddi di’n gweiddi, bydd yn rhaid i fi adael.’

Ceisia gwneud cynllun ar gyfer beth wnei di os ydy’r person rwyt ti'n ei gefnogi yn croesi dy ffiniau. Gallet ti gwneud hyn gyda’ch gilydd pan fydd y ddau / ddwy ohonoch yn teimlo’n dawel ac yn gallu siarad am y peth.

Beth os ydy rhywun yn croesi fy ffiniau o hyd?

Gallwn weithiau deimlo’n anniogel os ydy eu hymddygiad dig yn croesi ein ffiniau.

Cofia: nid ti yn unig sy’n gyfrifol, ac mae’n bwysig i ti gofalu amdano ti dy hun hefyd.

Rhannu gwybodaeth gyda nhw

Gallai rhannu gwybodaeth eu helpu i ddeall beth y maen nhw’n mynd trwyddo a rhoi syniadau i’w helpu.

Pan fydd y ddau / ddwy ohonoch yn dawel, gallet ti dangos ein tudalennau ar:

Mae rhai ohonon ni’n cael trafferth cyfathrebu neu egluro pethau i eraill. Yn enwedig os teimlwn nad ydy pobl yn gwrando, yn ein parchu neu’n ein hannog i siarad am sut y teimlwn.

Gallai dangos y tudalennau hyn iddyn nhw, neu rannu’r dolenni, helpu i ddechrau siarad am y peth.

Eu helpu i wneud cynllun

Pan fydd y ddau / ddwy ohonoch yn dawel, ceisia awgrymu eu bod yn creu cynllun ymlaen llaw ar gyfer teimladau anodd, fel dicter. Dylai cynllun ei gwneud yn haws iddyn nhw edrych arno fe a chofio:

  • Beth i’w wneud os oes angen help arnyn nhw
  • Eu harwyddion rhybudd ar gyfer dicter
  • Pethau y gallent ei wneud i deimlo’n dawelach, o dan syniadau ar gyfer rheoli dicter
  • Y ffyrdd gorau o gadw nhw eu hunain, a phobl eraill, yn ddiogel

Gallent wneud cynllun diogelwch ar ben eu hunain neu gyda rhywun dibynadwy y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw. Gallet ti hefyd eu helpu, os ydy hynny'n bosib. Ac os wyt ti'n teimlo'n ddigon cyffyrddus, gallet ti dweud am unrhyw arwyddion neu drigyrs ar gyfer mynd yn ddig nad ydynt wedi sylwi arnyn nhw eto.

Mae’n syniad da cadw’r cynllun yn rhywle y gall y ddau / ddwy ohonoch ddod o hyd iddo’n hawdd.

Lawrlwytho templed o gynllun diogelwch

Gallent lenwi eu cynllun diogelwch eu hunain, neu wneud cynllun ar gyfer eu hoedolyn dibynadwy, drwy glicio ar y dolenni isod.

Mae pob dolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Os nad ydyn nhw’n siŵr sut i lenwi cynllun diogelwch, mae enghraifft ar gael.

Gall dicter weithiau ddigwydd heb rybudd felly ni fydd pethau’n dilyn y cynllun bob tro. Gallai cynllun hyblyg fod yn well– Emma, 17

Gofalu amdanat dy hun

Gall fod yn anodd cefnogi person ifanc arall gyda dicter. Mae’n bwysig gofalu amdanat dy hun ac am dy les.

Siaradon ni gyda phobl ifanc i ofyn sut oedden nhw’n gofalu am eu lles meddwl eu hunain wrth gefnogi rhywun gyda dicter:

Mae mor bwysig dod o hyd i rywle diogel a helpu pobl ifanc i ddod o hyd i oedolyn dibynadwy i siarad gyda nhw.

Mae’n bwysig cofio nad wyt ti’n gyfrifol am reoli ymddygiad pobl eraill.

Meddylia am bethau i fwynhau eu gwneud gyda ffrindiau neu yn dy amser dy hun pan fydd angen tawelwch arnat ti.

Mae’n ocê blaenoriaethu fy niogelwch a lles fy hun wrth helpu pobl eraill – dydw i ddim yn gyfrifol am reoli dicter y person arall.

Sut arall fedra i ofalu amdanaf fy hun?

Mae gennyn ni fwy o wybodaeth am hunan-ofal a sut i ofalu amdanat dy hun.

Syniadau os wyt ti'n teimlo'n anniogel pan fydd rhywun yn ddig

Pan fydd person ifanc arall yn edrych yn ddig, dydy o ddim yn golygu eu bod am ymddwyn yn ymosodol neu’n dreisgar bob tro. Ond os wyt ti'n teimlo y gallai hyn ddigwydd, y peth pwysicaf yw cadw dy hun yn ddiogel.

decorative

Un ffordd o gofio beth i’w wneud os wyt ti'n teimlo'n anniogel ydy AWARE AAA.

Os wyt ti'n sylwi bod ymddygiad dig yn gwneud i ti deimlo’n anniogel:

  • dylet osgoi ANGHYDFOD a ffrae
  • gwna dy orau i ADAEL y sefyllfa
  • dweud wrth oedolyn ARALL y gallet ti ymddiried ynddyn nhw

I ddechrau, ceisia bod yn ymwybodol o newid yn eu hymddygiad. Gallet ti sylwi eu bod yn mynd yn ymosodol neu’n dreisgar. Gallet ti sylwi nad ydy’r cyngor neu syniadau i helpu’r sefyllfa yn gweithio.

Os wyt ti'n dechrau teimlo’n anniogel ar ôl sylwi ar unrhyw newid, rho gynnig ar y pethau hyn:

  • Peidio eu herio. Ceisia osgoi cael ffrae neu eu cwestiynu am eu hymddygiad.
  • Symud i ffwrdd. Os ydy e’n ddiogel i ti, gallet ti mynd i ystafell wahanol neu i weld rhywun arall, fel oedolyn dibynadwy neu ffrind.
  • Dweud wrth oedolyn dibynadwy. Dyweda wrth rywun fel athro neu athrawes, gweithiwr ieuenctid neu feddyg, am eu dicter. Gallet ti siarad gyda nhw cyn gynted â dy fod yn dechrau poeni – er nad oes dim byd mawr efallai wedi digwydd eto.
  • Dod o hyd i gymorth. Gallet ti cysylltu gyda Childline i siarad yn gyfrinachol gyda chwnselydd drwy ffonio 0800 1111 neu fynd i wefan Childline. Am fwy o fudiadau a allai roi cymorth i ti, cer i’n tudalen cysylltiadau defnyddiol
  • Ffonia 999 os wyt ti neu rywun arall mewn perygl. Ffonia'r heddlu os ydy e’n argyfwng. Gall hyn fod yn anodd ei wneud a chyffroi llawer o feddyliau a theimladau anodd. Ond mae pawb yn y sefyllfa’n haeddu bod yn ddiogel.

Gall unrhyw un ohonon ni brofi cam-drin. Ond weithiau mae’n anodd deall ein bod yn cael ein cam-drin. Yn enwedig os ydy’r person yn rhywun agos atom fel ffrind neu bartner.

Os nad wyt ti'n siŵr dy fod yn cael dy gam-drin, mae gwybodaeth ar gael i helpu ti i ddeall cam-drin ar wefan Childline.

Mae cefnogi rhywun yn gallu bod yn anodd ac ni ddylet ti, o gwbl, orfod derbyn cam-drin na thrais.

Beth os ydyn nhw’n meddwl nad oes gennyn nhw broblem gyda dicter?

Gall fod yn anodd os nad ydy’r person yn meddwl bod gennyn nhw broblem dicter, neu ddim eisiau help. Ceisia eu hatgoffa y bydd teimladau o ddicter yn pasio a bod help ar gael pan fyddan nhw’n barod.

Siaradon ni gyda phobl ifanc a ranodd eu cyngor ar gefnogi eraill sydd ddim yn meddwl bod gennyn nhw broblem dicter:

Tawelu eu meddwl dy fod yno i helpu pan fyddan nhw’n barod...eu hatgoffa bod eu teimladau’n ddilys ond bod eu hymddygiad yn gallu brifo pobl eraill – Emma, 17

Os wyt ti'n cefnogi rhywun sydd ddim yn meddwl bod gennyn nhw broblem gyda dicter, gallet ti dweud sut y mae’n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd, bydd y person wedyn yn deall yn well – Leah, 16

Rwy'n meddwl ei bod yr un mor bwysig atgoffa’r person rwyt ti'n ceisio eu helpu, nad wyt ti'n ymosod arnyn nhw mewn unrhyw ffordd.

Rwy'n teimlo ei bod yn hollbwysig gallu teimlo’n ddiogel cyn siarad â’r bobl rwyt ti’n eu caru – gall fod yn anodd teimlo’n ddiogel a chael rhywun i wrando – Keara, 17

Cafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2025. Byddwn yn ei diwygio ym mis Mehefin 2028. 

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os wyt ti am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig