Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut i gefnogi ffrind – ar gyfer pobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc ar sut i gefnogi ffrind sydd yn ei chael hi'n anodd gyda sut maen nhw yn teimlo. 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Sut ydw i'n cefnogi fy ffrind?

Os yw eich ffrind yn mynd drwy gyfnod anodd neu'n brwydro â'i deimladau, gall fod yn anodd gwybod beth i'w wneud. Ydych chi'n chwilio am ffordd o'i helpu? Neu'n poeni am ba mor ddiogel yw eich ffrind? Rydyn ni yma i helpu.

Mae gan y dudalen hon wybodaeth am y canlynol:

Gofalu amdanoch chi eich hun

Gall fod yn anodd cefnogi ffrind sy'n mynd drwy gyfnod anodd, ac efallai na fyddwch chi'n sylwi faint mae hynny'n effeithio arnoch chi. Mae'n iawn teimlo'n ypset, wedi dychryn neu'n flin am sut mae'n ymddwyn.

Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n gofalu amdanoch chi eich hun, er mwyn i chi gadw'n iach er mwyn gallu helpu eich ffrind. Gallech wneud y canlynol:

  • ceisiwch beidio ag ysgwyddo gormod – gall cefnogi rhywun ar eich pen eich hun fod yn gyfrifoldeb mawr. Ceisiwch annog eich ffrind i gysylltu â phobl eraill y mae'n ymddiried ynddyn nhw hefyd, fel teulu, athrawon neu oedolion eraill y mae'n agos atyn nhw
  • pennwch ffiniau – fel rhoi gwybod i'ch ffrind pa gefnogaeth y gall ei ddisgwyl gennych chi, er mwyn i chi fod yn glir faint allwch chi wneud dros eich ffrind a pha bryd
  • meddyliwch am sut mae hyn yn effeithio arnoch chi – os yw cefnogi eich ffrind yn mynd yn ormod i chi, neu os yw hynny'n dechrau cael effaith ar eich hwyliau, ar eich cwsg neu ar eich patrwm bwyta, mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch ffrind bod angen rhywfaint o amser i chi eich hun arnoch
  • gofalwch am eich lles – cofiwch neilltuo amser i chi eich hun a gwneud pethau sy'n eich helpu i ymlacio. Mae gan Childline dudalen ar ofalu amdanoch chi eich hun sy'n cynnwys awgrymiadau am bethau y gallwch roi cynnig arnyn nhw
  • Siaradwch am eich teimladau eich hun â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo - os hoffech chi siarad â rhywun yn gyfrinachol, mae gan Childline a The Mix gwnselwyr y gallwch siarad â nhw

Arwyddion y gallai rhywun fod yn ei chael hi'n anodd

Weithiau gall fod yn anodd gwybod a yw rhywun yn cael trafferth gyda'i iechyd meddwl, oherwydd gall pawb ymddwyn yn wahanol pan fydd yn mynd drwy gyfnod anodd.

Dyma rai o'r arwyddion cyffredin:

  • ymddangos yn bell, neu ddim yn ef ei hun
  • ddim yn cwrdd nac yn ymateb i negeseuon cymaint â'r arfer
  • treulio mwy o amser ar ei ben ei hun
  • ddim yn sgwrsio, gwenu na chwerthin cymaint
  • llai o hunan-barch
  • siarad am deimladau sy'n eich poeni, neu'n dweud 'dydw i ddim yn gallu gwneud hyn ddim mwy'
  • ddim yn gwneud pethau mae'n arfer hoffi eu gwneud
  • crïo neu weiddi
  • ysmygu, yfed neu gymryd cyffuriau, ac heb wneud o'r blaen.

Dyma rai o'r arwyddion corfforol efallai fyddwch yn sylwi mewn pobl:

  • ddim yn gwisgo fel yr oedd yn arfer ei wneud
  • magu neu golli pwysau
  • bwyta gormod neu ddim digon
  • ddim yn gallu canolbwyntio
  • edrych yn flinedig
  • ddim yn ymolchi na gofalu amdano'i hun
  • anafu ei hun yn fwriadol.

Sut galla i ofyn os ydyn nhw'n iawn?

Gall fod yn anodd dod o hyd i'r geiriau i ddechrau siarad â'ch ffrind am sut mae'n teimlo. Ond, mewn gwirionedd, does dim ffordd anghywir o ddechrau, a sut bynnag y byddwch chi'n dechrau'r sgwrs, mae'n debyg iawn y bydd eich ffrind yn gwerthfawrogi eich ymdrech. Dyma rai enghreifftiau o sut i ddechrau sgwrs i chi gael syniad:

  • 'Hei, dw i yma i ti os wyt ti eisiau siarad.'
  • 'Ti ydy fy ffrind i, dw i yma i ti pryd bynnag.'
  • 'Dwyt ti ddim i weld yn ti dy hun yn ddiweddar. Sut wyt ti?'
  • 'Fe wnaethon ni dy golli di yn yr ysgol heddiw. Ydy popeth yn iawn?'
  • 'Dw i'n poeni amdanat ti. Oes yna unrhyw beth hoffet ti siarad amdano?'
  • 'Dydyn ni ddim wedi siarad ers tro. Beth sydd wedi bod yn digwydd?'

Os nad yw eich ffrind yn dymuno siarad, ceisiwch beidio â rhoi pwysau arno. Bydd yn bwrw ei fol wrthych chi, neu rywun arall y mae'n ymddiried ynddo, pan fydd yn barod.

Awgrymiadau ar gyfer cefnogi ffrind

Gall fod yn anodd gwybod sut i helpu ffrind sy'n mynd drwy gyfnod anodd. Efallai nad ydych chi'n gwybod beth i'w wneud, neu'n poeni nad ydych chi'n gwneud digon, ond mae'n debyg iawn eich bod chi'n gwneud beth allwch chi. Dyma rai pethau gallech chi roi cynnig arnyn nhw:

  • canfod cyfle i siarad – gall helpu i ddod o hyd i rywle tawel lle na fydd rhywun arall yn tarfu arnoch chi nac yn eich clywed chi. Tarwch olwg ar ein syniadau ar gyfer dechrau sgwrs i gael syniadau ar gyfer dechrau sgwrsio
  • gwrandewch arnyn nhw – gall gwrando yn unig wneud gwahaniaeth mawr i sut mae rhywun yn teimlo. Os yw eich ffrind yn ei chael hi'n anodd siarad, rhowch wybod iddo eich bod chi yno pan fydd yn barod
  • cysurwch eich ffrind – does dim byd anghywir y gallwch ei ddweud. Ond gallech ddweud 'fyddi di ddim yn teimlo fel hyn am byth' neu 'dwyt ti ddim ar dy ben dy hun - mae 'na lawer o bobl sy'n poeni amdanat ti'
  • gofynnwch beth fyddai'n helpu – gallai olygu bod yno iddo, neu efallai yr hoffai gael help i siarad ag oedolyn neu i chwilio am opsiynau cymorth
  • anogwch eich ffrind i chwilio am gymorth – fel siarad ag oedolyn fel rhiant, athro, meddyg neu rywun arall mae'n ymddiried ynddo. Gallech hyd yn oed gynnig mynd gyda'ch ffrind i siarad â nhw. Ewch i'n tudalen ar ddod o hyd i gymorth i gael rhagor o syniadau ynghylch ble i gael cymorth
  • gwnewch y pethau rydych chi'ch dau yn mwynhau eu gwneud gyda'ch gilydd – weithiau gall gwneud y pethau arferol rydych chi'ch dau yn hoffi eu gwneud gyda'ch gilydd, fel gwylio ffilm neu fynd am dro, wneud byd o wahaniaeth i sut mae'n teimlo
  • cadwch mewn cysylltiad – gofynnwch i'ch ffrind sut mae, daliwch ati i'w wahodd i ymuno â chi ac anfonwch neges o bryd i'w gilydd i holi sut mae pethau, hyd yn oed os na fydd yn ateb
  • gwnewch rywbeth neis – fel anfon neges at eich ffrind i wneud iddo wenu neu chwerthin, neu drefnu rhywbeth bach iddo edrych ymlaen ato, fel cysgu draw yn eich tŷ chi neu fynd i'r sinema
  • byddwch yn amyneddgar – efallai y bydd eich cyfeillgarwch yn teimlo'n wahanol am gyfnod, ond bydd mwy o adegau da i ddod a bydd yn falch os byddwch chi'n ffrind ffyddlon.

Os yw eich ffrind wedi dechrau bwrw ei fol wrthych chi, a bod hynny'n teimlo'n ormod i chi ddelio ag ef, mae hynny'n iawn. Gallwch ddiolch i'ch ffrind am siarad â chi, ond egluro sut rydych chi'n teimlo. Os gallwch chi, cynigiwch ei helpu i ddod o hyd i ragor o gymorth ar ein gwefan. Cofiwch edrych ar eich ôl eich hun hefyd.

Beth os ydw i'n poeni am rywun ar-lein?

Os yw ffrind yn ymddwyn yn wahanol ar-lein a bod hynny'n eich poeni chi, mae'n dda eich bod yn dymuno ei gefnogi - ond dydych chi ddim yn gyfrifol am ei ddiogelwch. Gallwch wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo
  • os yw hyn yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, fel Facebook, Twitter, Instagram, Snapchat a YouTube , gallwch roi gwybod i'r wefan am y sefyllfa
  • os ydych chi'n meddwl y gall rhywun anafu ei hun neu y gallai fod mewn unrhyw fath o berygl fel arall, ffoniwch 999 (neu ofyn i oedolyn wneud hynny).

Beth os yw rhywun wedi gofyn i mi gadw cyfrinach?

Os bydd ffrind yn dweud rhywbeth wrthych chi ac yn gofyn i chi gadw hynny'n gyfrinach, mae'n normal i chi deimlo nad ydych chi am dorri ei ymddiriedaeth, neu boeni efallai y bydd yn ffraeo â chi os byddwch chi'n dweud wrth rywun.

Ond os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus â'r hyn mae wedi'i ddweud wrthych chi, neu os ydych chi'n meddwl y gallai eich ffrind, neu rywun arall, fod mewn perygl, gallech:

  • ofyn iddo ddweud wrth oedolyn y mae'n ymddiried ynddo
  • dweud wrtho bod arnoch angen dweud wrth rywun oherwydd eich bod yn poeni amdano, ond gallech ofyn a oes rhywun y byddai'n well ganddo i chi'n siarad ag ef neu hi

Efallai y bydd yn teimlo eich bod chi'n torri ei ymddiriedaeth, ond mae'n bwysig dweud wrth oedolyn rydych yn ymddiried ynddo am yr hyn mae eich ffrind wedi'i ddweud, er mwyn gwneud yn siŵr bod y ddau ohonoch chi'n ddiogel.

Beth os na fydd yn gadael i mi helpu?

Os na fydd eich ffrind yn derbyn cymorth gennych chi na'r bobl o'i gwmpas, gall hyn wneud i chi deimlo'n ypset, yn flin ac yn ddi-rym. Ond ceisiwch gofio, dim ond hyn a hyn allwch chi ei wneud, fel:

  • rhoi amser iddo - efallai na fydd yn barod i fwrw ei fol wrthych chi ar hyn o bryd, ac y gall ei chael hi'n haws ar ôl cael mwy o amser
  • rhoi gwybod iddo eich bod chi yno iddo os yw'n dymuno siarad neu gael cwmni unrhyw dro
  • anfon gwybodaeth ato ar ddod o hyd i gymorth, i'w darllen pan fydd yn barod.

Beth os ydw i'n poeni am ei ddiogelwch?

Os ydych chi'n poeni bod eich ffrind mewn unrhyw fath o berygl, neu y gallai anafu ei hun neu rywun arall, mae'n bwysig nad ydych chi'n delio â hyn ar eich pen eich hun:

  • rhowch wybod i oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo cyn gynted â phosib, fel rhiant neu athro. Os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus, gallwch ddweud wrth eich ffrind eich bod yn bwriadu gwneud hyn er mwyn iddo ddisgwyl hynny. Efallai na fydd yn hoffi hynny, neu y bydd yn gofyn i chi beidio â dweud, ond mae diogelwch eich ffrind yn bwysig
  • os yw'n argyfwng, gofynnwch i oedolyn ffonio 999 neu fynd â'ch ffrind i'r ysbyty.

Gall poeni am ddiogelwch eich ffrind fod yn flinedig, felly cofiwch ofalu amdanoch chi eich hun hefyd. Ewch i'r adran Gofalu amdanoch chi eich hun i gael syniadau.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Mawrth 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n dudalen ar ganiatâd a thrwydded

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig