Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Unigrwydd

Mae'r adran hon yn egluro unigrwydd, gan gynnwys beth sy'n achosi unigrwydd a sut mae hynny'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n rhoi awgrymiadau ymarferol i helpu i reoli teimladau o unigrwydd, a lle arall gallwch chi fynd i gael cymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Sut alla i reoli unigrwydd?

Mae gan y dudalen hon awgrymiadau ar gyfer rheoli teimladau o unigrwydd:

Mae’r syniadau hyn yn ddefnyddiol i rai pobl. Ond cofiwch fod gwahanol bethau’n gweithio i wahanol bobl ar wahanol adegau. Rhowch gynnig ar yr hyn rydych chi'n teimlo'n gyfforddus ag ef yn unig, a cheisiwch beidio â rhoi gormod o bwysau arnoch chi'ch hun.

Os nad yw rhywbeth yn gweithio i chi (neu os nad yw'n teimlo'n bosibl nawr), gallwch chi roi cynnig ar rywbeth arall neu ddod yn ôl ato rywbryd arall.

Dysgwch ragor am fod yn gyfforddus yn eich cwmni eich hun

Nid yw cael llawer o ffrindiau a chysylltiadau yn eich bywyd yn golygu na fyddwch chi'n teimlo'n unig. I lawer ohonom, mae teimlo'n unig yn gysylltiedig â hunan-barch neu hunan-hyder isel.

Weithiau, gall gwella ein perthynas â ni ein hunain, yn ogystal ag eraill, ein helpu i deimlo’n llai unig. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar ein gwybodaeth am hunan-barch.

Gallech ddechrau trwy feddwl am yr hyn y mae hunan-ofal yn ei olygu i chi. Cofiwch fod hunan-ofal yn edrych yn wahanol i bawb. Mae rhai pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain yn cael cysur o gael rhywfaint o sŵn yn y cefndir. Gallai hyn fod y teledu, y radio neu bodlediad rydych chi'n ei fwynhau.

Gall fod o gymorth i chi ddechrau gwneud gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau ar eich pen eich hun. Er enghraifft, mynd am dro yn eich ardal leol, gwneud ychydig o gelf a chrefft neu goginio pryd o fwyd.

Gallai hefyd gynnwys symud eich corff, gwylio ffilm rydych chi'n ei charu, tacluso eich cartref neu fynd i amgueddfa am ddim yn eich ardal. Mae'n iawn rhoi cynnig ar wahanol bethau i weld beth sy'n gwneud i chi deimlo'n dda. Ceisiwch fod yn amyneddgar gyda’ch hun.

Gofal cymdeithasol

Os oes gennych chi anghenion am ofal a chymorth, efallai bod yna ffyrdd y gall y gyfraith eich helpu.

Mae Deddf Gofal 2014 yn Lloegr a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yng Nghymru yn gosod rhwymedigaethau cyffredinol ar awdurdodau lleol i hybu llesiant ac atal anghenion gofal cymdeithasol rhag codi.

Maent hefyd yn cynnwys dyletswyddau penodol i awdurdodau lleol helpu unigolion. Gweler ein tudalennau ar hawliau iechyd a gofal cymdeithasol am ragor o wybodaeth. Gallwch hefyd gysylltu â Llinell Gyfreithiol Mind gyda'ch ymholiad penodol

Ceisiwch fod yn agored gyda phobl rydych chi'n eu hadnabod

Efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod chi'n adnabod digon o bobl, ond nad oes gennych chi gysylltiad dwfn â nhw. Neu nad yw'r bobl o'ch cwmpas yn rhoi'r gofal a'r sylw sydd eu hangen arnoch.

Os ydych chi’n teimlo fel hyn, efallai y byddai'n help i chi fod yn agored gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddynt. Gallai hyn fod yn ffrind neu aelod o'r teulu, cydweithiwr neu rywun arall yn eich bywyd. Nid oes angen i chi siarad wyneb yn wyneb. Gallech anfon neges destun atynt, neu anfon neges at rywun ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae llawer ohonom wedi profi unigrwydd, ond gall fod yn beth brawychus i ddweud wrth bobl eraill amdano. Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn yr hoffech ei ddweud ymlaen llaw. Efallai eu bod wedi profi teimladau tebyg o'r blaen.

Gall normaleiddio teimlo'n unig gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo eich helpu i deimlo ychydig yn well.

Pwyll pia hi

  • Os ydych chi wedi teimlo'n unig ers amser maith, efallai y bydd yn teimlo'n llethol i ddechrau bod yn agored gyda phobl. Efallai y bydd ceisio cwrdd â phobl newydd hefyd yn eich pryderu. Ond nid oes angen i chi ruthro i mewn i unrhyw beth.
  • I ddechrau'n fach, ceisiwch sgwrsio gyda phobl rydych chi'n dod ar eu traws yn eich bywyd o ddydd i ddydd. Er enghraifft, gallai hyn fod trwy ddweud helo wrth weithiwr yn eich siop leol. Neu sgwrsio â chymydog.
  • Mae rhai pobl yn ei gweld hi'n ddefnyddiol bod mewn amgylchedd lle mae llawer o bobl o gwmpas. Er enghraifft, siopau coffi, llyfrgelloedd neu ganolfannau siopa. Gall teimlo presenoldeb pobl eraill helpu gyda rhai teimladau o unigrwydd.
  • Gall fod o gymorth i sefydlu trefn, lle byddwch chi'n mynd i'r un llefydd ar yr un pryd. Efallai y byddwch chi'n dechrau adnabod pobl yn y llefydd hyn, a all arwain at ffurfio cysylltiadau.
  • Ceisiwch feddwl sut y gallai eich diddordebau eich helpu i gysylltu â phobl eraill. Er enghraifft, os ydych yn hoffi darllen, gallech ymuno â fforwm ar-lein ar gyfer sgyrsiau am lyfrau. Gallech hefyd dreulio peth amser mewn llyfrgell leol cyn ymuno â chlwb llyfrau. Canolbwyntiwch ar amgylcheddau lle rydych chi'n teimlo'n ddiogel a cheisiwch beidio â rhoi gormod o bwysau arnoch chi'ch hun.
  • Gallech roi cynnig ar weithgaredd ar-lein lle mae pobl eraill yn mynychu ond nid oes disgwyl i chi ryngweithio â nhw. Er enghraifft, dosbarth celf neu fath arall o weithdy creadigol. Gallech ofyn i bwy bynnag sy'n cynnal y sesiynau a allwch chi wylio ar y dechrau, yn hytrach na chymryd rhan.

Unigrwydd ac iechyd meddwl

Gwyliwch flog Lee ar sut y dechreuodd goresgyn ei unigrwydd trwy siarad â phobl ar-lein a chymryd rhan mewn ymgyrch iechyd meddwl.

Gwnewch gysylltiadau newydd

Rydym wedi rhestru gwahanol fathau o gymorth gan gymheiriaid a ffyrdd i wneud cysylltiadau newydd. Gall y rhain ddarparu lle i gwrdd â phobl newydd a dod o hyd i gefnogaeth:

  • Ymunwch â chymuned ar-lein fel Side by Side. Gall y cymunedau hyn ddarparu lle i wrando a rhannu ag eraill sydd â phrofiadau tebyg. Maen nhw ar gael 24/7. Mae'r rhan fwyaf yn rhad ac am ddim, a gallwch gael mynediad iddynt ble bynnag yr ydych.
  • Gwefan yw Meetup lle gallwch gwrdd â phobl newydd sy'n rhannu eich diddordebau, trwy ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Os na welwch unrhyw grwpiau neu weithgareddau sydd o ddiddordeb i chi, gallech geisio dechrau eich grŵp eich hun.
  • Os ydych chi'n gallu, mae gwirfoddoli yn ffordd dda o gwrdd â phobl. Gallwch chi ei wneud wyneb yn wyneb neu gartref. Gall helpu eraill hefyd wella eich iechyd meddwl. Mae'n syniad da gwirio y byddwch chi'n derbyn cefnogaeth ddigonol gan y mudiad rydych chi'n gwirfoddoli iddo. Gweler ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol ar gyfer sefydliadau a all eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli lleol.
  • Ymunwch â grŵp ar y cyfryngau cymdeithasol i siarad ag eraill yn eich ardal. Er enghraifft, mae gan lawer o ardaloedd yn y DU grwpiau Facebook lleol y gallwch ymuno â nhw i gwrdd ag eraill sy'n byw yn yr ardal.
  • Gofynnwch i'ch meddyg teulu eich cyfeirio at weithiwr cyswllt presgripsiynu cymdeithasol. Gallant eich cyfeirio at ffynonellau cymorth lleol. Er enghraifft, sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol.
  • Cysylltwch â Llinell Wybodaeth Mind neu eich cangen Mind lleol i weld pa fathau eraill o gefnogaeth gan gymheiriaid a all fod yn eich ardal.
  • Rhowch gynnig ar wasanaeth cyfeillio. Mae elusennau amrywiol yn cynnig gwasanaethau cyfeillio dros y ffôn. Maent yn rhoi cyfeillion gwirfoddol mewn cysylltiad â phobl sy'n teimlo'n unig. Gweler ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol am fanylion sefydliadau sy'n cynnal gwasanaethau cyfeillio. 

Dydw i byth yn teimlo’n unig pan dwi ym myd natur. Dwi’n teimlo’n fwy cysylltiedig nag erioed pan fyddaf yn cerdded ar fy mhen fy hun trwy goedwig neu ar lan afon.

Ceisiwch beidio â chymharu eich hun ag eraill

Mae llawer ohonom wedi newid y ffordd rydym yn cyfathrebu dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn cysylltu ag eraill ar-lein a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy.

Mae gallu rhyngweithio â mwy o bobl ar-lein wedi bod yn brofiad cadarnhaol i lawer ohonom. Ond efallai y bydd hyn yn heriol i eraill. Yn aml, dim ond yr hyn y mae pobl eraill eisiau ei rannu am eu bywydau ar y cyfryngau cymdeithasol y byddwn yn ei weld.

Gallai gweld lluniau o eraill mewn digwyddiadau, neu gymdeithasu gyda ffrindiau a theulu, wneud i ni deimlo mai ni yw'r unig un sy'n teimlo'n unig. Gall cael mynediad at fywydau cymaint o bobl deimlo'n llethol weithiau.

Weithiau mae'n anodd rhoi'r gorau i gymharu ein hunain ag eraill. Ond cofiwch nad yw pethau bob amser fel y maent yn ymddangos o'r tu allan. Nid ydym yn gwybod sut mae pobl eraill yn teimlo pan fyddant ar eu pen eu hunain. Neu beth sy'n digwydd iddyn nhw y tu allan i'w ffrwd cyfryngau cymdeithasol.

Os ydych chi'n poeni y gallai’r cyfryngau cymdeithasol fod yn effeithio ar eich iechyd meddwl, gweler ein gwybodaeth am iechyd meddwl ar-lein.

Dydw i byth yn teimlo’n unig pan dwi ym myd natur. Dwi’n teimlo’n fwy cysylltiedig nag erioed pan fyddaf yn cerdded ar fy mhen fy hun trwy goedwig neu ar lan afon. 

Gofalwch amdanoch eich hun

Gall teimlo'n unig effeithio ar eich lles. Gall gwneud newidiadau bach yn eich bywyd o ddydd i ddydd eich helpu i deimlo y gallwch gysylltu ag eraill. Er enghraifft:

  • Gall gweithgaredd corfforol fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer eich lles meddyliol. Mae rhai pobl hefyd yn gweld ei fod yn helpu i wella eu hunan-barch. Os ydych chi eisiau cwrdd â phobl wrth wneud ymarfer corff, gallech chi ymuno â dosbarth ymarfer corff lleol neu ddosbarth ar-lein. Mae parkrun hefyd ar gael, sy’n cynnal digwyddiadau rhedeg neu gerdded 5k wythnosol am ddim yn lleol i chi. Gweler ein tudalennau ar weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl am ragor o wybodaeth.
  • Treuliwch amser ym myd natur os allwch chi. Gall hyn wella eich ymdeimlad o les a lleihau teimladau o unigrwydd. Er enghraifft, gallech chi blannu llysiau yn eich gardd neu ar eich silff ffenestr. Mae sefydliadau fel Ramblers yn trefnu teithiau cerdded lleol i bobl gerdded gyda'i gilydd. Gallwch hefyd edrych ar ein tudalennau ar fyd natur ac iechyd meddwl i gael rhagor o syniadau.
  • Mae rhai pobl yn gweld bod treulio amser gydag anifeiliaid yn gallu helpu gyda theimladau o unigrwydd. Gallech geisio ymweld â fferm gymunedol neu ddinesig leol. Mae gan y sefydliad Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol restr o brosiectau cymunedol awyr agored ledled y DU. Mae gan lawer o'r rhain anifeiliaid y gall y cyhoedd ryngweithio â nhw. Mae yna hefyd wefannau sy'n cysylltu perchnogion anifeiliaid â phobl sydd eisiau gofalu amdanyn nhw, fel Borrow my Doggy.
  • Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy unig ar adegau penodol o'r flwyddyn. Er enghraifft, dros y Nadolig neu ar ben-blwyddi penodol. Efallai y byddai’n ddefnyddiol meddwl ymlaen llaw am ba weithgareddau y gallech chi eu gwneud i wneud i chi deimlo’n dda ar yr adegau hyn.

Therapïau siarad

Gall therapïau siarad eich helpu i archwilio beth mae teimlo’n unig yn ei olygu i chi. Gall eich therapydd eich helpu i ddatblygu gwahanol ffyrdd o reoli eich teimladau.

Os yw gorbryder am sefyllfaoedd cymdeithasol wedi gwneud i chi deimlo'n ynysig, efallai y bydd therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) yn ddefnyddiol i chi. Mae'r math hwn o therapi yn canolbwyntio ar sut mae eich meddyliau, eich credoau a'ch agweddau yn effeithio ar eich teimladau a'ch ymddygiad. Gall eich therapydd eich helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd sy'n anodd i chi.

Gweler ein tudalennau therapïau siarad a therapi gwybyddol ymddygiadol i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Tachwedd 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig