Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cefnogi rhywun yn y gwasanaeth chwilio ac achub

Mae'r wybodaeth hon i unrhyw un sydd am gefnogi rhywun yn y gwasanaeth chwilio ac achub, p'un a ydych chi'n gydweithiwr, yn ffrind, yn aelod o'r teulu neu'n bartner.

5 munud i'w ddarllen

Ar y dudalen hon:

Mae staff a gwirfoddolwyr chwilio ac achub yn delio â llawer fel rhan o'u rolau. Gall cefnogi aelodau o'r cyhoedd sydd mewn trallod, gweithio patrymau shifft anarferol a bod mewn sefyllfaoedd llawn pwysau effeithio ar eu hiechyd meddwl. Ac mae'r pwysau hyn wedi cynyddu eto ers y pandemig.

Gall cael cefnogaeth gan bobl o'n cwmpas wneud gwahaniaeth enfawr pan fyddwn ni'n cael trafferth â'n hiechyd meddwl. Efallai bod gennych chi ffrind, aelod o'r teulu neu bartner yn y gwasanaeth chwilio ac achub. Efallai eich bod chi yn y gwasanaeth eich hun. Ond efallai nad ydych chi'n siŵr p'un yw'r ffordd orau o gefnogi eich cydweithiwr neu anwylyd.

Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys syniadau ynghylch sut i gefnogi rhywun yn y gwasanaeth chwilio ac achub â'i iechyd meddwl. Yn ogystal, ceir gwybodaeth am beth i'w wneud os ydych chi'n credu ei fod yn argyfwng, a sut i ofalu amdanoch chi eich hun hefyd.

Sut i gefnogi rhywun â'i iechyd meddwl

Gall fod yn anodd gweld rhywun sy'n bwysig i chi yn mynd yn sâl, ond does dim angen i chi fod yn arbenigwr ar iechyd meddwl i gynnig cymorth. Yn aml, gweithredoedd bach cyffredin sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Dangoswch eich cefnogaeth

Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi bod yn sâl, peidiwch â bod ofn gofyn sut mae'n teimlo. Efallai y bydd am siarad am y peth, neu efallai na fydd am wneud hynny. Ond mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod nad oes raid iddo osgoi'r mater â chi. Drwy dreulio amser gyda'r person, byddwch chi'n dangos ei fod yn bwysig i chi, a gall eich helpu chi i ddeall beth mae'n ei wynebu.

“Mae llawer o gydweithwyr yn y tîm hefyd yn ffrindiau. Does neb yn fy meirniadu ac mae pawb yn ymddiried ynof i wneud gwaith da.” – Izzy, gwasanaeth achub mynydd

Gofyn sut y gallwch helpu

Bydd pawb am gael cymorth ar adegau gwahanol ac mewn ffyrdd gwahanol, felly gofynnwch sut y gallwch helpu. Ac yn dibynnu ar eich cydberthynas â'r person, mae pethau gwahanol y gallech eu gwneud. Er enghraifft:

  • Eu helpu i gadw golwg ar ei feddyginiaeth
  • Mynd gydag ef i apwyntiad meddyg
  • Gwneud ymarfer corff gyda'ch gilydd, os bydd eich cydweithiwr neu anwylyd am fod yn fwy gweithgar
  • Mynd gydag ef os bydd am siarad â rheolwr neu wasanaeth cymorth

Bod yn feddwl agored

Ni fydd ymadroddion fel 'cod dy galon', 'rwy'n siŵr na fydd yn para'n hir', 'paid â chynhyrfu' yn helpu. Ceisiwch beidio â barnu, a gwrandewch.

Peidio â siarad am iechyd meddwl yn unig

Dim ond un agwedd ar fywyd y person yw problem iechyd meddwl. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl am gael eu diffinio gan eu problem iechyd meddwl, felly parhewch i siarad am y pethau rydych bob amser yn eu trafod â'ch gilydd. Os ydych chi'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda'r person, ceisiwch ei gynnwys mewn sgyrsiau yn y gwaith fel y byddech fel arfer yn ei wneud.

“Drwy bopeth, mae fy nghydweithwyr achub wedi bod yn gefnogol dros ben. Gall hyd yn oed yr ymdrech lleiaf olygu cymaint – gwahoddiadau i fynd i ddringo, gwahoddiadau i gael paned o goffi, rhywun yn galw heibio am sgwrs.” – Nick, arweinydd tîm chwilio ac achub

Dangos ymddiriedaeth a pharch

Gall problem iechyd meddwl niweidio hunan-barch rhywun. Gall dangos ymddiriedaeth a pharch helpu'r person i ailadeiladu a chynnal ei hunan-barch. Gall gwybod bod eich cefnogaeth yn cael effaith gadarnhaol eich helpu chi i ymdopi hefyd.

Helpu rhywun i gael cymorth

Dangosodd ein hymchwil Golau Glas fod ymatebwyr brys yn fwy tebygol o geisio cyngor am eu hiechyd meddwl gan ffrindiau a theulu, dros unrhyw fath arall o gymorth. Felly, gallwch chi chwarae rhan bwysig yn eu helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Os bydd eich ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr yn dweud wrthych ei fod yn barod i geisio help ar gyfer ei broblem iechyd meddwl, dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i'w gefnogi:

  • Gwrando. Mae rhoi cyfle i rywun siarad, a gwrando ar y ffordd mae'n teimlo, yn gallu helpu. Os bydd yn ei chael hi'n rhy anodd ar hyn o bryd, rhowch wybod iddo eich bod yno pan fydd yn barod.
  • Cynnig sicrwydd. Gall gofyn am help fod yn deimlad unig a brawychus ar adegau. Gallwch roi sicrwydd iddo drwy ddangos nad yw ar ei ben ei hun, a'ch bod chi yno i helpu.
  • Peidio â chynhyrfu. Er y gall clywed bod rhywun sy'n bwysig i chi mewn trallod beri gofid, ceisiwch beidio â chynhyrfu. Bydd hyn yn helpu'r person i beidio â chynhyrfu hefyd, ac yn dangos iddo y gall siarad yn agored heb beri gofid i chi.
  • Bod yn amyneddgar. Efallai yr hoffech chi gael rhagor o fanylion am ei deimladau a'i feddyliau, neu eich bod am iddo gael help ar unwaith. Ond mae'n bwysig gadael iddo benderfynu pa mor gyflym y bydd am gael cymorth ei hun.
  • Ceisio peidio â gwneud rhagdybiaethau. Gallai eich safbwynt chi fod yn ddefnyddiol i'r person, ond ceisiwch beidio â chymryd yn ganiataol eich bod chi eisoes yn gwybod beth sydd wedi achosi ei deimladau, neu beth fydd yn helpu.
  • Cynnal cysylltiad cymdeithasol. Gallai rhan o'r cymorth a gynigiwch olygu cadw pethau mor normal â phosibl. Gallech chi gynnwys y person mewn digwyddiadau cymdeithasol yn y gwaith, neu drafod rhannau eraill o'ch bywydau.
  • Chwilio am wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol. Pan fydd rhywun yn gofyn am help gall deimlo'n ofidus ynghylch gwneud y dewis cywir, neu deimlo nad oes ganddo unrhyw reolaeth dros ei sefyllfa. Mae gwybodaeth iechyd meddwl wedi'i theilwra i bobl yn y gwasanaethau brys ar Blue Light Together, yn cynnwys gwybodaeth am sefydliadau a all gynnig cymorth.
  • Mynd i apwyntiadau gydag ef, os bydd am i chi wneud hynny - gall bod gydag ef yn yr ystafell aros helpu i dawelu ei feddyliau. Os ydych chi'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda'ch gilydd, gallech chi fynd gydag ef pan fydd yn siarad â'r adran iechyd galwedigaethol neu ei reolwr.
  • Dysgu mwy am y broblem y mae'n ei hwynebu, er mwyn eich helpu i feddwl am ffyrdd eraill o'i helpu. Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth am wahanol fathau o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys tudalennau ar yr hyn y gall ffrindiau a theulu ei wneud i helpu.

“Achubodd fy ngwraig fy mywyd am iddi gynnig diogelwch ac ymddiriedaeth, a gwrando'n astud heb farnu.” – Andy, parafeddyg chwilio ac achub

Beth os nad yw eisiau i mi helpu?

Os ydych yn teimlo bod rhywun rydych yn gofidio amdano yn amlwg yn cael trafferth ond nad yw'n fodlon neu'n methu â gofyn am help ac nad yw'n fodlon derbyn unrhyw help a gynigiwch, mae'n ddealladwy y gallech deimlo'n rhwystredig, yn ofidus ac yn ddi-rym. Ond mae'n bwysig derbyn ei fod yn unigolyn, a bod terfyn bob amser i'r hyn y gallwch chi ei wneud i helpu rhywun arall.

Gallwch:

Allwch chi ddim:

  • Gorfodi rhywun i siarad â chi. Gall gymryd amser i rywun allu siarad yn agored. Gall rhoi pwysau arno wneud iddo deimlo'n llai cyfforddus yn dweud wrthych am ei brofiadau.
  • Gorfodi rhywun i gael help (os yw dros 18 oed, ac nad yw'n argyfwng). Fel oedolion, ni sy'n gyfrifol am wneud ein penderfyniadau ein hunain yn y pen draw. Mae hyn yn cynnwys pryd - neu os - byddwn ni'n dewis gofyn am help pan fyddwn ni'n sâl.
  • Gweld meddyg ar ran rhywun arall. Efallai y bydd meddyg yn rhoi gwybodaeth gyffredinol i chi am symptomau neu ddiagnosis, ond all e ddim rhannu unrhyw gyngor penodol na manylion am rywun arall heb ei gytundeb.

Beth i'w wneud os yw'n argyfwng

Gall fod adegau pan fydd angen help mwy brys ar y person, er enghraifft:

  • Os bydd wedi niweidio ei hun a bod angen sylw meddygol arno
  • Os bydd yn cael teimladau hunanladdol, ac yn teimlo y gall weithredu arnyn nhw
  • Os bydd yn rhoi ei hun neu rywun arall mewn perygl difrifol, uniongyrchol o niwed

Darllenwch beth i'w wneud mewn argyfwng.

Sut i ofalu amdanoch chi eich hun

Gall helpu rhywun arall fod yn heriol. Gall gwneud yn siŵr eich bod chi'n gofalu am eich lles eich hun olygu bod gennych yr egni, yr amser a'r pellter i helpu rhywun arall.

  • Cymerwch seibiant pan fydd angen.Os yw'r gwaith o helpu rhywun yn mynd yn drech na chi neu os yw'n mynd â llawer o'ch amser neu'ch egni, gall cymryd seibiant eich dadflino.
  • Os ydych chi yn y gwasanaeth chwilio ac achub hefyd, efallai y byddwch chi'n wynebu eich pwysau eich hun. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n canolbwyntio arnoch chi eich hun, nid dim ond ar y person arall.
  • Siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo ynghylch sut rydych chi'n teimlo. Efallai y byddwch chi am fod yn ofalus ynghylch faint o wybodaeth rydych chi'n ei rhannu am y person rydych chi'n ei helpu, ond gall siarad â ffrind am eich teimladau chi eich helpu i deimlo bod rhywun yn eich cefnogi chi hefyd.
  • Gosodwch ffiniau a byddwch yn realistig ynghylch yr hyn y gallwch chi ei wneud. Mae eich cefnogaeth yn werthfawr iawn, ond lle y person yw ceisio cymorth ei hun. Cofiwch y gall pethau bach, syml helpu. Mae'n siwr bod y ffaith eich bod ar gael iddo yn help mawr.
  • Rhannwch eich rôl ofalu ag eraill os bydd modd gwneud hynny.Yn aml, mae'n haws helpu rhywun os na fyddwch chi'n gwneud hynny ar eich pen eich hun.

I gael syniadau ynghylch sut i gadw eich hun yn iach, darllenwch ein tudalennau ar:

Os ydych chi yn y gwasanaeth chwilio ac achub, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddarllen y wybodaeth wedi'i theilwra ar gyfer staff gwasanaethau brys ar Blue Light Together.

This information was published in May 2022. We will revise it in 2025.

References are available on request. If you would like to reproduce any of this information, see our page on permissions and licensing.

arrow_upwardYn ôl i'r brig