Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Tawelu yn yr Oerfel

Dydd Mawrth, 11 Mai 2021 Ross

Mae Ross, o Bont-y-pŵl yn disgrifio sut mae nofio mewn dŵr oer wedi gwella ei iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Meistroli’r grefft o grasu bara banana - tic

Gorffen Netflics - tic

Rhedeg allan o byslau jig-so - tic

Cymaint o gwisiau tafarn rhithiol nes eich argyhoeddi eich bod yn barod am Mastermind - tic

 

Bywyd o gyfnodau clo tragwyddol i edrych ymlaen atyn nhw a sylweddoli eich bod yn rhedeg allan o bethau i gadw trefn ar eich meddwl cythryblus.  

Fel llawer o bobl yn ystod y 12 mis diwethaf, mae fy lles corfforol, meddyliol ac emosiynol wedi bod yn hollol anhrefnus.

 

Roedd y rhimyn o obaith y byddai’r profiad caled hwn yn dod i ben erbyn y flwyddyn newydd yn chwarae gyda chyflwr cynyddol fregus fy meddwl am y cyfan o dair eiliad.  Yna, fe sylweddolais fod y gaeaf ar y gorwel ... ac nid yn unig gyda'i ddiffyg o fitamin D a thrwynau'n rhedeg, ond hefyd gyda Brexit, tri amrywiolyn arall o Corona a llif cyson o gyfnodau clo a chyrffiw estynedig.  O na byddai yna ffordd o gadw'r teimlad hwnnw o ofn i ffwrdd nes ein bod, o’r diwedd. yn cael ei hail uno gyda chwrw casgen.

 

Er bod gen i, gam amlaf, agwedd eithaf positif at bethau, roeddwn i 'n cael trafferth i ganfod pethau y gallwn i edrych ymlaen atyn nhw.  

 

Ar ôl rhoi clep ar y drws a dweud ffarwel wrth 2020, llusgodd y tri roeddwn i'n rhannu tŷ gyda nhw (fel miloedd o bobl eraill o gwmpas y byd) ein hunain hangoferaidd at ddoc cyfagos i gael trochfa adnewyddol y Calan.  (Doeddwn i ddim yn sylweddoli’r adeg hynny nad neidio’n orffwyll i ddŵr rhewllyd oedd y cyflwyniad gorau i hyn). Ar ôl colli gwynt, sgrechian a chwyrlio breichiau, roedd pawb allan mewn amrant.  Wrth ddringo allan, roeddwn i’n deall pam nad ond unwaith mewn blwyddyn mae pobl yn gwneud hyn.

Dim ond ar ôl i mi ddechrau anghofio erchylltra’r plymio Calan, ac ar ôl i mi wneud ychydig o ymchwil fy hunan, y dechreuais i sylweddoli, efallai, dim ond efallai, fy mod i’n colli rhywbeth bob gaeaf.  Mae manteision ychydig funudau’r wythnos mewn dŵr oer yn anhygoel.  Mae astudiaethau’n dangos ei fod yn cryfhau eich system imiwnedd, yn lleihau stres ac hyd yn oed yn eich codi’n ‘uchel’ yn naturiol drwy gynyddu eich endorphins.  Pwy na fyddai eisiau manteisio ar hynny gefn ganol gaeaf!

 

Ar ôl canfod dim ond pethau da am nofio mewn dŵr oer, fe ymunais i â thri o bobl eraill oedd yn cael eu denu gan y syniad o roi tro ar ymdrochi bob dydd am wythnos.  O’r diwedd, rhywbeth y gallen ni ei fwynhau gyda’n gilydd heb fod ofn y byddai’n cael ei gau i lawr.  Amser pan allen ni anghofio am gyflwr truenus y byd a mwynhau'r syniad gwirion o roi ein hunain mewn lle anghyfforddus, poenus weithiau - am hwyl.  

Trodd ein her saith niwrnod yn rhai wythnosau ac erbyn hyn rydyn ni wedi mynd heibio 100 diwrnod dilynol o nofio mewn dŵr oer!

 

Ar ben popeth roeddwn i wedi’i ganfod ar lein, roeddwn i’n sylwi ar y manteision o fewn ychydig o’r dyddiau dilynol hynny; roeddwn i’n teimlo’n hapusach ac yn fwy egnïol.  Mae rhywbeth mor syml â chael arferiad dyddiol nid yn unig yn torri ar undonedd gweithio gartref ond mae'n rhoi cyfnod byr o feddwl clir a chael gwared ar stres sy’n golygu nid yn unig gallu goddef y gaeaf erchyll diwetha, ond ei fwynhau. 

A minnau yn fy ugeiniau cynnar, doeddwn i ddim wedi rhagweld mai fy mhrif weithgaredd cymdeithasol fyddai tynnu oddi am danaf pan oedd wedi rhewi’n gorn a stwyrian o gwmpas yn yfed te.  Ond, ar ôl dweud hynny, dyma yw penllanw fy niwrnod ers i mi gychwyn ac mae wedi bod yn ffordd dda o ddygymod ar gyfnod clawstroffobig yn fy mywyd.  

 

Mae cael amser o’r dydd pan nad oes gen i ddewis ond canolbwyntio ar un peth yn nefoedd.  Roedd y munudau prin hynny o fyfyrio yn wrthgyffur i’m clwyf o weld bliws covid y gaeaf.  Bron bob dydd, allai ddim teimlo bysedd fy nhraed na'm dwylo, mae fy nghorff mor oer nes ei fod yn teimlo'n boeth, mae lliw fy nghroen fel cimwch newydd ei ferwi ac mae fy nwylo'n crynu cymaint nes fod fy mod yn tywallt fy nhe i bobman.  Ond, er hynny, y rhain oedd rhai o adegau hapusaf y flwyddyn ddiwethaf.

 

Rwy’n siŵr fod ein cyrff yn elwa mewn cymaint o ffyrdd o’r hobi hon.  Ond mae un peth yn sicr, mae fy iechyd meddwl wedi sefydlogi a gwella drwy’r ddefod o nofio mewn dŵr oer.  Yn bwysicach, mae’r ffrindiau rwy wedi eu gwneud yn y dyfroedd rhewllyd wedi bod yn rhywbeth i’w groesawu ac yn gysur ar adeg pan mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo wedi'n llwgu'n gymdeithasol.  

 

A yw hynny oherwydd nad ydych yn gallu gwisgo'ch trôns a hithau’n -10 gradd ac yn bwrw eira a'ch dwylo'n ddiffrwyth.  Neu, gyfarfod The Iceman, Wim Hof, ei hunan un tro wrth nofio ac yntau’n eich herio i gadw’i fyny ar un o’i ymarferion cynhesu epig.  Does yr un diwrnod yn mynd hebio nad ydyn ni’n cael pyliau o chwerthin.  

Ar hyn o bryd, pan mae antur a phrofiadau newydd i’w gweld filiwn a mwy o filltiroedd i ffwrdd, mae’n bwysig gwybod eu bod ar gael yn nes adref.  Gyda thywel a thermos, rwy’n gadael y tŷ bob dydd gyda’r cynnwrf o ddychmygu sut y bydd fy meddwl a'm corff yn dygymod.  

Mae rhai dyddiau’n haws na’i gilydd, ond does yr un wedi gwneud i mi deimlo'n waeth.

Er bod y dyfodol yn dal i fod mor ansicr, nofio dŵr oer fydd fy nghyson mewn byd anghyson.

 

 

Mae Ross wedi gadael bryniau de Cymru am un o’r gwledydd gwastataf yn y byd, yr Iseldiroedd, lle mae’n rhedwr brwd ac, erbyn hyn, yn nofiwr dŵr oer.

See what we're campaigning on

Related Topics

Mind

Our campaigns

We'll fight your corner. We believe everyone with a mental health problem should be able to access excellent care and services. We also believe you should be treated fairly, positively and with respect.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig