Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut mae grwpiau Mind lleol yn eich helpu yng Nghymru

Dydd Mercher, 03 Awst 2022 Simon

Mae ein Pennaeth Rhwydweithiau (Cymru), Simon, yn esbonio sut mae grwpiau Mind lleol yng Nghymru yn darparu cymorth hanfodol yn eu cymunedau.

#EichMindLleol

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Roeddwn wedi bod yn pendroni ers sbel sut mae Mind yn gallu darparu cefnogaeth iechyd meddwl sy’n newid bywydau’n lleol, ond sy’n ymestyn yn genedlaethol.  Yn y diwedd, roedd yr ateb yn eithaf syml - mae’n dod ar ffurf grwpiau Mind lleol.

Argraffiadau cyntaf

Ddechrau Mai dechreuais ar daith newydd gyffrous fel Pennaeth Rhwydweithiau (Cymru), sy’n golygu fy mod yn gweithio’n agos â grwpiau Mind lleol yng Nghymru ac yn eu cefnogi nhw i helpu mwy o bobl sy’n byw gyda phroblem iechyd meddwl.

Ar fy niwrnod cyntaf yn y swydd es ar daith i Ogledd Cymru i ymweld â fy Mind lleol cyntaf erioed yn Mind Conwy, cyn mynd draw i Mind Dyffryn Clwyd.  Ni chymerodd yn hir i mi sylweddoli fod y rhwydwaith Mind lleol yn rhywbeth arbennig iawn, y galon sy'n curo yn eu cymunedau ble maen nhw'n byw ac yn achubiaeth i gymaint.

Mae’r gefnogaeth leol yn ymateb yn drawiadol ac yn uniongyrchol i anghenion y cymunedau ac o gofio fod 19 Mind lleol ar draws Cymru, yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl i blant, pobl ifanc ac oedolion, mae’r hyn sy’n cael ei gynnig yn syfrdanol ac yn unigryw. Gyda gwasanaethau fel therapïau sgwrsio, llinellau cymorth argyfwng, canolfannau galw i mewn, cynlluniau cyflogaeth a hyfforddi, cwnsela a chyfeillio, mae yna gymaint o gefnogaeth ar gael ac wedi’i deilwra i ymateb i angen.  

Ar y ffordd

Un o'r grwpiau Mind lleol yr oeddwn yn ffodus i ymweld â nhw yn ddiweddar oedd Mind Sir Benfro, ac mi oedd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles, Lynne Neagle AoS hefyd yn ymweld ar yr un diwrnod. Yn ystod yr ymweliad, roeddwn yn llawn parch at angerdd y tîm darparu gwasanaeth i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth sôn am y math o gefnogaeth yr oedden nhw yn ei darparu.  Cefnais hefyd y pleser o gyfarfod â rhai o’r bobl a oedd yn defnyddio gwasanaethau Mind Sir Benfro yn Hwlffordd.

Soniodd un person sut yr oedd Mind Sir Benfro yn llythrennol wedi achub eu bywyd ac ers hynny wedi bod yn le diogel i gysylltu’n rheolaidd gydag eraill ac wedi rhoi synnwyr go iawn o bwrpas trwy brosiect awyr agored gwych. Wrth gwrs dim ond un stori yw hon, a chyda chyrhaeddiad o dros 31,000 mae yna lawer mwy o storiâu i'w hadrodd.

Gwasanaethau a chefnogaeth

Cysylltodd 31,000 o bobl â gwasanaethau Mind lleol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, naill ai trwy sianeli digidol neu ymgysylltiad wyneb  yn wyneb.  Cyflawnwyd hyn ar draws amrywiaeth o gefnogaeth a gwasanaethau perthnasol i’r gymuned sy’n cyfarfod â’r anghenion  yn eu cymdogaeth, ac yn nodweddiadol mae’r gefnogaeth am ddim. Un o’r gwasanaethau hyn yw Monitro Gweithredol, sy'n gwrs hunan gymorth o dan arweiniad am ddim i unrhyw un dros 18 oed yng Nghymru, ble mae pobl yn gallu ymuno eu hunain, neu trwy eu meddyg teulu neu berson proffesiynol iechyd arall. Cewch ragor o wybodaeth ynghylch Fonitro Gweithredol ac ymuno yma.

Wrth gwrs, mae yna lawer mwy o wasanaethau ar gael, a ydych eisiau cael cefnogaeth cymheiriaid yn Aberystwyth neu sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar yn Ystradgynlais, mae yna Mind lleol allan fanna i gefnogi beth rydych chi ei eisiau.

Beth sydd gan y dyfodol?

Wrth i'r argyfwng costau byw ddal ei afael, nid yw ond yn naturiol y bydd hynny'n effeithio ar iechyd meddwl ein cymunedau.  Yn union fel y parhaodd grwpiau Mind lleol gefnogi trwy effaith y pandemig Coronafeirws, gallwch warantu y bydden nhw yno i gefnogi trwy'r heriau presennol sy'n wynebu ein cymunedau.

Erbyn hyn, rwyf yn y swydd ers tri mis ac allwn i ddim bod yn falchach o ddweud fy mod yn gweithio i Mind.  Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio’n agos â chydweithwyr ym Mind lleol er mwyn sicrhau fod pobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn derbyn y gefnogaeth a’r parch maen nhw eu haeddu.

Os ydych chi neu unrhyw un rydych yn ei h / adnabod yn byw gyda phroblem iechyd meddwl, peidiwch â phetruso ag ymestyn allan i un o’r grwpiau Mind lleol yn eich ardal i weld y rhychwant o wasanaethau a chefnogaeth sydd ar gael. 

Ffeindiwch #EichMindLleol yma

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig