Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut mae grwpiau Mind lleol yn eich cefnogi chi yn ystod ynysiad

Dydd Mercher, 08 Ebrill 2020 Julian John

Julian John, Rheolwr Mind Cwm Taf Morgannwg a Chadeirydd One Mind yng Nghymru

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Roeddwn i yn fy swyddfa, yn cynllunio fy wythnos fel arfer, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU eu neges allweddol: 'Aros Adref, Amddiffyn y GIG, Achub Bywydau'. Yn sydyn, roeddwn yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa, a sut byddai'r argyfwng yn effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl canghennau Mind lleol yng Nghymru.

Roedd tensiwn yn codi, roedd staff yn dechrau poeni a phobl yn dechrau teimlo o dan bwysau, yn bryderus ac yn grac. Roedd pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau'n poeni am eu hapwyntiadau a therapi siarad. Ar y stryd fawr, roedd pobl yn prynu llwythi o hylif diheintio, paracetemol a phapur tŷ bach. Roedd y rhain i gyd wedi dod yn gynhyrchion hanfodol yn sydyn, ac roedd yr awyrgylch yn ein cymuned yn newid.

Rydyn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i ymgysylltu â phobl.

Wrth i reolau ar ymbellhau cymdeithasol gael eu cyflwyno ac wrth i ni dderbyn diweddariadau dyddiol, roedd fy nghydweithwyr a fi'n gofyn yr un cwestiynau. Sut y gallwn ni barhau i gefnogi'r rheini sy'n dibynnu arnom ni? Beth allaf i wneud dros fy nhîm? Doedd parhau fel arfer ddim yn opsiwn bellach, ac roeddem yn gwybod bod rhaid i ni fod yn greadigol yn ein hymateb. Yn syth, dechreuodd cydweithwyr ar draws canghennau Mind Cymru a thu hwnt gysylltu â'i gilydd. Roeddem ni gyd yn siarad am beth i wneud nesaf a sut y gallwn ni newid ein gwasanaethau i gwrdd ag anghenion pobl, anghenion sy'n newid yn y sefyllfa sydd ohoni. Rydyn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i ymgysylltu â phobl.

Mae nifer o ganghennau lleol Mind bellach yn cynnig cefnogaeth o bell, yn cynnwys e-gwnsela, cefnogaeth emosiynol dros y ffôn, cefnogaeth i gymheiriaid, hyfforddi ar-lein a digwyddiadau byw ar Facebook. Mae platfformau ar-lein wedi bod yn hanfodol, a byddwn i'n argymell bod pawb yn dilyn cyfrifon eu cangen leol o Mind ar y cyfryngau cymdeithasol i ddarganfod beth sy'n mynd ymlaen yn lleol.

Efallai bod yr awyrgylch yn wahanol, ond mae'r gefnogaeth yn dal i fodoli.

Rydw i wedi cael fy siomi ar yr ochr orau gan ein staff a'n gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed iawn i redeg ein gwasanaethau cefnogaeth, er nad ydyn nhw'n gallu helpu pobl wyneb yn wyneb. Yr wythnos ddiwethaf, defnyddiodd grŵp o ddeg mam newydd yn Ystradgynlais Zoom i gysylltu â'i gilydd a chael cefnogaeth a chyngor trwy Mums Matter. Efallai bod yr awyrgylch yn wahanol, ond mae'r gefnogaeth yn dal i fodoli.

Rydyn ni hefyd yn parhau i gwblhau gwaith achos, fel y gall ein heiriolwyr barhau i gefnogi pobl sydd yn yr ysbyty neu'n byw mewn hosteli. Rydyn ni hefyd yn helpu pobl gydag anawsterau sy'n ymwneud â budd-daliadau - mae'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn o natur weinyddol iawn, ac mae'n bosib parhau ei reoli ar y ffôn neu ar lein gan fod rhaid i ni barhau i ddiweddaru pobl am unrhyw gynnydd.

Gall unrhyw un sy'n poeni am iechyd meddwl hefyd gael cefnogaeth gan Mind trwy ein llinell wybodaeth, y llinell gyfreithiol, gwasanaethau cefnogaeth i gymheiriaid ar-lein a'r tudalennau gwybodaeth ardderchog ar y wefan hon.
Mae'r canghennau Mind lleol i gyd yn poeni ynghylch beth gall y Coronafeirws olygu i bobl gyda salwch meddwl. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud newidiadau deddfwriaethol dros dro i'r Ddeddf Iechyd Meddwl i ymlacio pwerau ar asesu a chadw pobl yn y ddalfa. Gall hyn achosi oedi i apeliadau a chyfarfodydd adolygu, gan olygu bod pobl yn cael eu cadw am ofal a thriniaeth dros gyfnod hirach.

Rydyn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i weithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl y GIG ac Awdurdodau Lleol ar draws Cymru. Bydd ein cydweithiwr yn Mind Cymru yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r heriau ac anghenion cefnogaeth pobl â phroblemau iechyd meddwl. Rhaid blaenoriaethu ymatebion creadigol, gan barhau i'w hariannu.

Mae'r adeg hon yn un pryderus i nifer ohonom - i'r rheini ohonom sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl, a'r rheini ohonom sy'n ei darparu. Ond rydyn ni'n gweithio i wneud popeth posib i sicrhau bod unrhyw un sy'n dioddef o broblem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a'r parch maen nhw'n ei haeddu, hyd yn oed ar yr adeg eithriadol hon. Mae canghennau lleol Mind yn cefnogi dros 24,000 o bobl ar draws Cymru bob blwyddyn, felly os ydych chi angen ein cefnogaeth, cysylltwch â ni heddiw.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig