Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Siaradodd James o Yard Act â’m calon

Dydd Mawrth, 10 Mai 2022 Mel

Mae Mel yn blogio am sut mae prif ganwr y band roc wedi troi ei phrofiad iechyd meddwl yn fideo barddoniaeth ar lafar.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Rydw i wrth fy modd yn teithio, yn cysgu ac yn helpu eraill. Dyna pam y dechreuais wirfoddoli, gweithio i TWE sy’n sefydliad di-elw, a chymryd rhan yn y prosiect hwn.

“Mae wedi bod yn anodd ymdopi â’m problemau iechyd meddwl wrth dyfu’n oedolyn.”

Dechreuodd fy stori iechyd meddwl pan oeddwn i’n 12 oed. Ers hynny, rydw i wedi bod yn delio â bwlimiaanhwylder personoliaeth emosiynol ansefydlogiselder a gorbryder. Mae ceisio ymdopi â hynny i gyd ar yr un pryd â mynd i’r ysgol, cyrraedd eich arddegau a thyfu'n oedolyn – wedi bod yn daith anodd doeddwn i ddim yn disgwyl mynd arni. Mae wedi bod yn sefyllfa anodd iawn ond rydw i yma.

I ddechrau, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn bod a doeddwn i’n methu credu beth oedd yn digwydd. Fy rhieni a ddaeth o hyd i gymorth imi drwy CAMHS - y gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. Fe wnaethon nhw roi cymorth i mi a’m helpu i ddeall beth oedd yn digwydd tu mewn i fy mhen.

Diflannu oddi ar y radar

Dros y blynyddoedd roeddwn i wedi dysgu beth oedd iechyd meddwl, beth oedd fy iechyd meddwl i, a beth roedd yn ei wneud i mi. Pan gyrhaeddais 16 neu 18 oed, cefais fy symud i’r adran iechyd meddwl i oedolion ac ers hynny mae’r cymorth wedi bod yn anwadal.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae wedi bod yn anodd iawn cael cymorth. Newidiodd bethau o gael therapi wythnosol a oedd yn gymaint o help i gael dim ymhen mis. Roedd hynny’n dorcalonnus. Roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i’n bwysig i neb mwyach. Rydych chi’n diflannu oddi ar y radar. Dydych chi ddim yn bodoli mwyach.

“Roeddwn i wedi synnu clywed James yn dweud fy ngeiriau ac yn cynnwys fy nghath Blue hefyd.”

Wrth i mi weld pobl eraill yn mynd drwy’r hyn rydw i wedi bod drwyddo, roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth. Doeddwn i ddim eisiau eistedd yno’n cwyno. Roeddwn am weithredu, ac rwy’n gobeithio mai dyna rwy’n ei wneud ar hyn o bryd. Rydw i wrth fy modd yn codi ymwybyddiaeth ac yn gobeithio y gwnaiff hynny wahaniaeth.

Roedd hi’n anhygoel cael gweithio ar y prosiect hwn gyda James o Yard Act.

Pan gefais wahoddiad i Lundain i gwrdd â James i ffilmio fy stori, yr unig beth roeddwn i’n gallu meddwl oedd “beth ar y ddaear sy’n digwydd?!”.

Digwyddodd pethau mor gyflym. Alla i ddim coelio ble rydyn ni erbyn hyn. Roeddwn i wedi synnu clywed James yn dweud fy ngeiriau ac yn cynnwys fy nghath Blue hefyd. Pan ddangosais i mam a dad, doedden nhw ddim yn credu’r peth.

Rydw i hefyd wedi’i ddangos i rai o’m ffrindiau, ac roedden nhw’n deall bod hyn yn ddifrifol. Dros y blynyddoedd rydw i wedi bod yn siarad am iechyd meddwl, ond dydw i ddim yn credu bod pobl wir wedi deall mai dyma fy realiti a’r realiti i nifer fawr ohonom. Felly mae’n golygu cymaint cael gweithio ar y prosiect hwn.

Hanes bywyd ar fideo

Pan ysgrifennodd James y geiriau hynny a phan ddarllenais i nhw am y tro cyntaf, roeddwn i wedi synnu. Llwyddodd i drosi'r stori y gallwn i siarad amdani am oriau ac oriau yn fideo 30 eiliad. Dyna chi dalent! Alla i ddim diolch ddigon i James am wneud hynny i mi. Nid yn unig am ei fod yn rhan o Yard Act ond am ei fod wedi cynnwys emosiwn go iawn wrth adrodd fy stori. Mae’n fwy na dim ond geiriau ar ddarn o bapur. Mae'n stori, yn ymwybyddiaeth, yn fywyd. Rwy’n gobeithio y bydd yn helpu pobl, ac rwy’n gobeithio y galla i helpu pobl.

This Mental Health Awareness Week, we’re using spoken word to show the different ways people talk about their experiences. Visit our mental health awareness week page here for more info.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig