Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Newid agwedd meddwl ein cymuned

Dydd Iau, 17 Tachwedd 2022 Donna

Mae Donna, rheolwr prosiect ‘Taclo’r Stigma’ yn disgrifio sut yr ymunodd Mind Ystradgynlais â’r gymuned rygbi leol i helpu gwella iechyd meddwl ac achub bywydau.

I wrando ar fersiwn awdio (Saesneg) o’r blog gyda Michael Sheen, cliciwch yma.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae yna ddihareb Gymreig ‘dyfal donc a dyr y garreg’. A dyna’n union wnaeth Mind Ystradgynlais wrth geisio torri stigma iechyd meddwl.

I’r rhai sy’n darllen ac erioed wedi clywed am Ystradgynlais, heb sôn am allu ei ynganu, cymuned cyn lofaol yw Ystradgynlais, yn swatio’n ddwfn yng Nghwm Tawe. Mae’n un o’r lleoedd mwyaf croesawgar yn y bryniau, lle gellir mesur mawredd ei gymuned yn rhwydd gan weithredoedd tosturiol ei aelodau. Fodd bynnag, er waethaf ei leoliad delfrydol a natur garedig ei bobl, mae cysgod yn hongian dros y mynyddoedd hyn.  Mae cysgod tywyllach a dyfnach na’r pyllau glo yn gorwedd oddi tano.  Mae cysgod iselder yn drwm dros y rhannau hyn. 

"Nid yw iselder yn gwahaniaethu.”

Mae gan Bowys y gyfradd uchaf o hunanladdiad y pen yng Nghymru.  Er nad yw iselder yn gwahaniaethu rhwng y rhywiau, mae’r bywydau rydym wedi’u colli iddo yma wedi bod yn wrywaidd yn bennaf.  Gyda chalon drom rwy’n dweud wrthych y bydd bron iawn pob un person rydych yn ei gwrdd yn y cwm hwn, yn cael ei gyffwrdd gan hunanladdiad mewn rhyw ffordd neu ffurf, hyd yn oed fi!

Rydym wedi ein claddu mewn galar, ac roeddem yn gwybod fod yn rhaid i rywbeth newid!

Daeth yn amlwg i ni mai un o'r prif resymau ein bod yn colli cymaint 'o'n bechgyn ni’ oedd oherwydd eu bod yn llai tebyg o ymestyn allan pan oedden nhw'n teimlo'n isel.  Yn wir, nid oedd 75% o’r rhai a gymerodd eu bywydau eu hunain yn adnabyddus i’r gwasanaethau iechyd meddwl o gwbl. 

“Rydym yma, ac rydym yn fodlon ac yn barod i wrando.”

Roedden nhw wedi dioddef yn dawel, ond pam? Fel tîm yn Mind Ystradgynlais byddwn yn ystyried y cwestiwn hwn drosodd a throsodd, pam nad ydyn nhw’n siarad? Rydym ni yma, ac yn fodlon ac yn barod i wrando.  Nid ni oedd yr unig rai oedd yn gofyn y cwestiynau hyn wrth gwrs, roedd pwyllgorau ein clybiau rygbi lleol yn dod atom yn aml ac yn gofyn, “beth allwm ni ei wneud i helpu”? Ac yna, disgynnodd y geiniog, fe ddylem ni fod yn gwneud rhywbeth cwbl wahanol yma i roi terfyn ar y colli bywyd trasig hwn. Roedd dynion yn llawer tebycach o siarad gyda’u mêt neu rywun roedden nhw’n ymddiried ynddo dros beint yn y dafarn, yn hytrach na siarad ac ymestyn allan atom ni.

Maen nhw hefyd yn dod at ei gilydd yn rheolaidd, naill ai i chwarae neu i wylio rygbi.  

Mae rygbi’n rhan flaenllaw iawn o ddiwylliant Cymru ac mae yna lawer o glybiau fan hyn a fan draw ledled y cwm.  Ers i’r capeli edwino yn yr ardal, y clybiau rygbi yw’r canolfannau ble mae'r ysbryd cymunedol yn parhau, ac mewn gwirionedd mae rygbi bron a bod yn gwasanaethu fel pseudo crefydd.  

Felly, ar y cyd â nifer o glybiau rygbi’r ardal, cymerwyd y penderfyniad, ein bod yn mynd i daclo'r broblem hon ar ei phen.  Fe ddylem ni hyfforddi unigolion mewn clybiau rygbi i fod yn gymhorthion cyntaf iechyd meddwl. 

Roeddem ni wedi harneisio nerth cyfeillgarwch, ymddiriedaeth a ‘brawdgarwch’ a nerthu a darparu dynion i gefnogi ei gilydd, ac yn ein tro, byddwn ni'n eu cefnogi.  Er mwyn codi ychydig o frwdfrydedd ar gyfer y fenter hon, aethom hyd yn oed ymhellach, a chyda chymorth ein Michael Sheen ni, ac ychydig o gerddorion lleol, dyma baratoi fideo hyrwyddo, nid yn unig i dorri lawr y stigma sydd ynghlwm â siarad am iechyd meddwl, ond hefyd, annog aelodau arferol o'r gymuned rygbi i hyfforddi fel cymhorthion cyntaf iechyd meddwl.

 

Ein nod oedd bod y cymhorthion cyntaf iechyd meddwl yn cael yr un parch â ffisiotherapydd yn y clwb, ei fod mor normal siarad am deimladau o anobaith ag yw i siarad a cheisio cymorth am droi ffêr.  Ond yn hanfodol, byddai’r man cyswllt cyntaf, yn union fel ffisio, yn y clwb ei hunan.

Drwy dorri’r rhwystrau hyn, mae dynion, sy’n ei chael yn anodd siarad gyda pherson proffesiynol iechyd meddwl, o leiaf yn gwneud eu hunain yn hysbys i ffrind neu fêt yn y tîm.  Ac i’r clybiau hynny sydd wedi dechrau ar y model hyfforddi hwn, byddwn eisoes wedi hyfforddi'r ffrind hwnnw / honno sut i ddehongli’r arwyddion hanfodol a sut i gyfeirio a hyrwyddo'r sgwrs a allai'n wir achub bywyd. 

Braint fawr yw dweud, gyda diolchgarwch a thystiolaeth ac o wydnwch ein cymuned leol, gallaf ddweud wrthych gyda balchder; mae bywydau wedi’u hachub. Bywydau a fyddai, heb hyn, wedi’u colli.  Byddai mam heb ei mab, chwaer heb ei brawd, gwraig heb ei gŵr a phlentyn heb ei dad. Felly, pan sefydlwyd y model hwn i helpu gwarchod a meithrin ‘ein bechgyn ni’, doedd y cyfan ddim am ynghylch dynion, roeddem ni hefyd yn gwarchod ac yn meithrin y gymuned gyfan.  Dim ond unwaith rydym ni yma, pan fo un person yn brifo, mae pob un ohonom yn ei deimlo ac mae’r model hwn nid yn unig wedi achub bywydau, ond mae hefyd wedi llunio’r ffordd i daclo’r stigma o gwmpas iechyd meddwl ac wedi lliniaru poen cymuned gyfan.  Mae wedi newid ‘Agwedd Meddwl’ y rhai a fyddai fel arall wedi dioddef yn dawel.  Mae yna ddihareb Gymreig ‘mi gerddaf gyda thi dros lwybrau maith'.  A dyna’r union neges rydym eisiau ei chyfleu.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig