Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Mae gwirfoddoli gyda fy grŵp Mind lleol wedi rhoi’r hyder i mi helpu fy hun ac eraill.

Dydd Mercher, 07 Mehefin 2023 Aled

Mae Aled, o Wynedd, yn esbonio sut mae gwirfoddoli gyda'i grŵp Mind lleol wedi ei helpu i adennill ei hyder a gwneud gwahaniaeth.

Rhybudd cynnwys: mae'r blog hwn yn sôn am hunan-niweidio ac ymgais i gyflawni hunanladdiad.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Fy enw i yw Aled, ac yn ddiarwybod, rydw i wedi cael problemau iechyd meddwl y rhan fwyaf o fy mywyd, roedd yr arwyddion amlwg yno erioed. 

Bod yn ddig drwy'r amser, hunan-niweidio ac ymbellhau oddi wrth bobl a digwyddiadau cymdeithasol. Roeddwn i'n credu fy mod i’n anhoffus, yn gragen wag ac y byddwn i'n marw ar fy mhen fy hun yn y pen draw. 

Ym mis Hydref 2021 ceisiais i gymryd fy mywyd fy hun, a diolch byth wnes i ddim llwyddo. Gyda chymorth fy ffrindiau agos, fy mhlant a fy ngwraig anhygoel, gallwn i geisio'r cymorth yr oedd ei angen arna i. 

I ddechrau roeddwn i'n chwilio am rywle y gallwn i fynd i siarad am fy mhrofiadau; rhywle fel cyfarfod Alcoholigion Anhysbys lle gallwn i siarad â phobl sydd wedi mynd trwy rywbeth tebyg, neu sy'n mynd trwyddo. Rhywle i fy helpu i ddeall fy meddyliau a'm teimladau. Ond roeddwn i'n cyrraedd man lle na allwn i fynd dim pellach dro ar ôl tro.

Dyna o ble daeth y syniad am y grŵp rygbi cerdded. 

Mae rygbi wedi bod yn rhan o fy mywyd cyhyd ag y galla i gofio, a phan rhoddais i orau iddi dros bum mlynedd yn ôl, sylwais i ar ddirywiad yn fy iechyd meddwl. Mae ffurfio’r grŵp hwn wedi fy ngalluogi i barhau â’r gamp rydw i'n ei charu mewn ffordd ddiogel, a helpu pobl eraill i oresgyn problemau iechyd meddwl a cheisio’r cymorth a’r arweiniad sydd eu hangen arnyn nhw ar yr un pryd.

"Mae wedi rhoi'r angerdd i mi hybu normaleiddio iechyd meddwl a helpu eraill i geisio'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw."

Pan es i at Mind Conwy gyda’r syniad nôl ym mis Gorffennaf 2022, roedd y cymorth a’r anogaeth a gefais i’n wych. Cefnogodd Mind Conwy fi i gael yr wybodaeth y byddai ei hangen arnaf, trwy hyfforddiant, i helpu i annog pobl i siarad am eu teimladau ac i gyfeirio at y gwasanaethau proffesiynol sydd ar gael o amgylch gogledd Cymru a ninnau’n cadw'n heini ar yr un pryd. 

Byddai wedi bod yn hawdd rhoi’r gorau iddi, ond rydw i'n benderfynol o beidio â gadael i'r salwch hwn gymryd drosodd neu osod terfynau arna i. Yn lle hynny, mae wedi rhoi'r angerdd i mi hybu normaleiddio iechyd meddwl a helpu eraill i geisio'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae Mind Conwy wedi bod yno ac wedi fy nghefnogi i ddatblygu fy syniad o'r diwrnod cyntaf!

"Hyd yn oed os mai dim ond un person sy'n dod, mae'n werth gwybod fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth."

Roeddwn i eisiau defnyddio fy mhrofiad negyddol i gefnogi eraill. Mae rygbi a'i gymuned wedi bod yn allweddol i'm hadferiad parhaus. Mae cynnal y grŵp hwn yn wythnosol yn caniatáu i bobl eraill fanteisio ar ffitrwydd rheolaidd a chymdeithasu ag eraill sy'n delio ag anawsterau tebyg.

Cyn fy mhroblemau, doeddwn i erioed wedi meddwl am wirfoddoli, roeddwn i'n meddwl yn naïf bod hyn yn rhywbeth roeddwn i'n llawer rhy brysur i’w wneud. Nid dyma’r gwir amdani.

Rwy'n gallu ffitio gwirfoddoli i mewn i fy mywyd teuluol cyn lleied neu mor aml ag y dymunaf.

Pan ddechreuais i’r grŵp hwn am y tro cyntaf, roedd yn beth brawychus cael pobl yn dod draw i ofyn i mi am gyngor ac yn gwrando ar yr hyn sydd gen i i'w ddweud. Yr hyn rydw i'n ei garu fwyaf am wirfoddoli yw'r hyder y mae wedi'i roi i mi i siarad â phobl newydd, sydd wedyn wedi rhoi hyder i mi mewn meysydd eraill o fy mywyd hefyd.

Fy hoff ran o wirfoddoli hyd yn hyn yw'r teimlad fy mod i’n gwneud gwahaniaeth, hyd yn oed os mai dim ond un person sy'n dod, mae'n werth gwybod fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth ym mywyd yr un person hwnnw. 

I unrhyw un sy'n meddwl am wirfoddoli, yr unig gyngor y galla i ei roi yw ‘ewch amdani’.

Mae'r profiad rydych chi'n ei ennill a'r bobl anhygoel rydych chi'n cwrdd â nhw wrth wirfoddoli yn rhywbeth heb ei ail!

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig