Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Llywio trwy’r system iechyd meddwl fel person ifanc

Dydd Mawrth, 02 Awst 2022 Imogen

Mae Imogen, o Gaerdydd, yn esbonio sut y gwnaeth y diffyg cymorth iechyd meddwl effeithiol a gafodd ei adael yn teimlo'n unig ac yn ddryslyd.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Y ffordd symlaf y galla i ddisgrifio fy iselder yw nad ydw i eisiau bod yn unman, nac eisiau gwneud unrhyw beth. Mae'n deimlad cyson o anobaith a ddim yn gwybod sut i wneud y sefyllfa'n well.

Mae’n golygu mynd allan a ddim eisiau yfed na chymdeithasu, ond ar yr un pryd ddim eisiau mynd adre chwaith. Mae’n deimlad tywyll iawn ac yn ynysig, sy'n llawer mwy na dim ond teimlo'n drist.  

“Mae pobl yn gwneud llawer o ragdybiaethau”

Mae iselder, a llawer o gyflyrau iechyd meddwl eraill, yn gallu ymddangos mewn gwahanol ffyrdd ac mae pobl yn gwneud llawer o ragdybiaethau ynghylch sut y dylai person isel edrych.

Er enghraifft, fel rhywun sy’n allblyg, siaradus a hyderus, mae rhai cwnselwyr wedi dweud nad ydw i’n ‘ymddangos yn isel’ neu nad oes gen i ddim 'rheswm' dros fod yn isel.  Mae iselder yn gallu bod oherwydd rheswm, ond nid dyna’r achos pob tro.

Weithiau, bydd pobl yn rhoi enghreifftiau i mi o bethau rwyf wedi’u cyflawni neu bethau rwy’n eu mwynhau fel rhesymau pan na ddylwn fod yn isel, neu'n awgrymu fod y pethau hynny golygu fy mod yn 'caru bywyd' ac felly ddim eisiau diweddu pethau go iawn.

Mae’r mathau hyn o sylwadau’n gallu gwneud i mi deimlo hyd yn oed yn fwy ynysig a dryslyd, sy’n fy nhroi i ffwrdd o chwilio am help. Yn y gorffennol, mae hyn wedi achosi i mi fynd hyd yn oed yn fwy anhrefnus, ac rwyf hyd yn oed, weithiau, yn cael profiad o ddatgysylltiad - fel pe byddwn i’n edrych arna i fy hun o’r tu allan.

Cael Cefnogaeth

Rwyf wedi bod yn brwydro gyda fy iechyd meddwl ers pan oeddwn i’n 19 mlwydd oedd.  Erbyn hyn rwy’n 23. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi gweld llawer o gwnselwyr ac wedi mynd at amryw o wasanaethau cefnogi – mae rhai wedi bod yn brofiadau positif, yn wahanol i rai eraill.

Mae’r gwasanaethau rwyf i wedi eu cael wedi bod am ddim – dyw cwnsela preifat ddim yn opsiwn i rywun fel fi sy’n fyfyriwr ac o gartref incwm isel.

Mae pawb yn gwybod bod y Gwasanaeth Iechyd o dan bwysau mawr, felly doedd hi ddim yn y syndod i mi fod yna restr aros hir.

Fodd bynnag, yn ystod yr amser yma, cefais fy nhynnu oddi ar y rhestr aros mewn camgymeriad. Doeddwn i ddim yn gwybod nes i mi ffonio i weld a allwn i gael apwyntiad brys oherwydd fy mod mor daer am help. Mae’n gwneud i mi feddwl faint o lythyrau sy'n mynd ar goll yn y post a byth yn cyrraedd pen eu taith.

Problem arall i mi yw bod cyn lleied o sesiynau cwnsela ar gael yn y Gwasanaeth Iechyd. Mae’n cymryd amser i ddod yn gyfforddus gyda’ch cwnselwr ac os nad ydych chi ond yn cael pedair neu wyth sesiwn, mae’n amhosibl trafod eich problemau yn  ystod y cyfnod hwnnw.

Mae’r prinder sesiynau hefyd yn golygu fod yna rhai problemau na allwch eu trafod oherwydd eu bod yn rhy drawmatig ac rydych yn gwybod y byddwch angen rhagor o sesiynau i ddod i delerau â hyn. Mae’r cwbl yn amharu ar faint rydych yn ei gael allan o’ch sesiynau cwnsela.

Ar y llaw arall, pan rwyf wedi mynd at wasanaethau cefnogaeth y brifysgol, maen nhw, yn rhy aml, wedi’u teilwra i broblemau ynghylch y brifysgol.  Roedd fy iselder a’m pryder yno ymhell cyn i mi fynd i’r brifysgol. Mae yna gamsyniad fod pob person ifanc yn isel oherwydd gwaith y brifysgol a'r cyfryngau cymdeithasol, ond nid fel 'na mae.

“Mae meddygon yn rhy awyddus i rannu tabledi gwrth iselder”

Tua blwyddyn ar ôl sôn wrth fy meddyg am y tro cyntaf am fy iselder, dechreuais gymryd tabledi gwrth iselder, ac rwy’n dal arnyn nhw nawr.

Rwy’n meddwl fod y meddygon yn rhy awyddus i roi tabledi gwrth iselder ac, er eu bod wedi bod o help mawr i mi’n bersonol, mae gen i gymaint o gwestiynau nad ydyn nhw erioed wedi cael eu hateb.

Mae tabledi gwrth iselder yn trin ‘diffyg cydbwysedd’ cemegol yn yr ymennydd, ond nid pawb sydd eu hangen. Mae yna restr ddi-ben-draw  o sgil effeithiau’n gysylltiedig â meddyginiaethau fel hyn – gan gynnwys teimladau o hunan laddiad – yn aml, maen nhw’n gallu gwneud i chi deimlo’n waeth cyn eich bod yn teimlo’n well.

Rwy’n teimlo fod unrhyw un sy’n cael ei roi ar dabledi gwrth iselder angen rhagor o gefnogaeth. Yn ogystal â’r adolygiadau meddyginiaeth arferol, rwy’n credu’n gryf y dylai pawb sydd arnyn nhw hefyd dderbyn cwnsela. Nid yw tabledi gwrth iselder ar eu pen eu hunain yn ateb.

Doedd fy iechyd meddwl i ddim yn ‘ddigon drwg’

Pan wyf ar fy mwyaf isel, rwy wedi teimlo’n eithriadol o anhrefnus ac eisiau lladd fy hunan, eto nid yw’r ymyrraeth argyfwng na’r gefnogaeth rwy’n erfyn amdano ar gael.

Unwaith, pan oeddwn i’n teimlo’n anniogel, ffoniais fy meddyg teulu a gofynnais am apwyntiad iechyd meddwl. Roedd y nyrs iechyd meddwl â’m ffoniodd i’n ôl yn nawddoglyd ac o ddim help o gwbl.

Pan ofynnais i iddi pa help oedd ar gael, fe ddywedodd nad oedd fy achos i’n ddigon difrifol oherwydd, er fy mod yn teimlo fel diweddu fy mywyd, doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw gynlluniau cadarn i wneud hynny.

“Dyw’r gefnogaeth ddim yno”

Mae achosion fel hyn wedi gwneud i mi deimlo nad oes unrhyw gefnogaeth i bobl fel fi – i’r rhai ohonom sydd mewn limbo yna neu yn y man llwyd pan ydych yn teimlo’n anniogel ond heb weithredu ar eich teimladau o hunan laddiad eto.

Roedd yn gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy arwain i  ddrysfa ddiddiwedd - maen nhw'n eich arwain i mewn i'r ystafell ble rydych yn meddwl eich bod yn cael help, ond, bob tro y byddwch yn agor y drws, dim ond ystafell wag sydd yna ac rydych yn cael eich hunan yn ôl ar y dechrau.

Mae yna gymaint wedi lladd eu hunain yn y brifysgol roeddwn i ynddi'r ychydig o flynyddoedd diwethaf, mae’n wirioneddol frawychus. Mae’n gwneud i mi feddwl a fyddai modd eu hatal, petai digon o gefnogaeth ar gael.

Ar hyn o bryd, buaswn yn dweud nad yw’r gefnogaeth yno ac mae hynny’n fy mhoeni oherwydd mae cymaint o bobl ifanc mewn trafferthion.

See what we're campaigning on

Mind

Our campaigns

We'll fight your corner. We believe everyone with a mental health problem should be able to access excellent care and services. We also believe you should be treated fairly, positively and with respect.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig