Gwynebu gorbryder
Mae Ffion, o Gaerbryn, yn disgrifio’i brwydr gyda’i gorbryder, a pa mor bwysig yw gwasanaethau iechyd meddwl yn yr iaith Gymraeg.
Rhybudd cynnwys: mae stori Ffion yn sôn am broblemau bwyta.
Wrth i mi edrych yn ôl ar fy mrwydr i â gorbryder mae wedi bod yn rhan ohona i erioed. Rwy’n cofio cael y teimladau o deimlo’n sic a fy nghalon i yn rhedeg pan roeddwn i yn yr ysgol gynradd. Nath fi a mam ei enwi yn “gweithio fy hunan lan” ac roeddwn yn ei brofi pan roeddwn yn mynd allan i gael bwyd ac yn cwrdd gyda ffrindiau tu allan i’r ysgol. Nid oeddwn yn gallu deall pam roedd hyn yn digwydd ac roeddwn yn poeni o’r oedran ifanc hynny byddai bywyd yn un caled ac anodd.
Pob diwrnod roeddwn yn agor fy llygaid ac roedd y gorbryder yn cydio ynof ac yn gwneud fy mywyd yn uffern.
Ond ni ddaeth y gorbryder ar ei waetha tan yr oeddwn i tua blwyddyn 9; dyma pryd nes i rili brofi effeithiau’r gorbryder ar ei waetha. Soi’n deall pam mai ym mlwyddyn 9 yn benodol ddaeth i’r pen ond rwy’n credu roeddwn i’n profi llawer o newid. Roeddwn yng nghanol gyfnod aeddfedu; ces i sboner yn iawn am y tro cyntaf ac roeddwn yn dechrau mynd allan gyda ffrindiau a chymdeithasu gyda phobl gwahanol lawer yn fwy.
Adeg y Pasg oedd hi, a rown i’n cofio teimlo bo fi methu cymryd dim o hyn mwy. Pob diwrnod roeddwn yn agor fy llygaid ac roedd y gorbryder yn cydio ynof ac yn gwneud fy mywyd yn uffern. Dyna pryd benderfynais fod angen help arnaf.
Y lle cyntaf es i am gymorth oedd y meddyg teulu ond nid oedd hi’n gallu gweithio allan beth oedd y broblem. Felly penderfynodd mam a dad, gan eu bod yn poeni cymaint, i fynd a fi i weld seiciatrydd preifat. Ges i 3 i 4 sesiwn gydag ef ac fe ddaeth i’r diagnosis o orbryder. Rhoddodd y diagnosis hwn felly fi ar ben ffordd ac o ganlyniad ces i’m danfon i dîm CAMHS yng Nghaerfyrddin. Rwy’n credu ei fod yn bwysig fy mod yn pwysleisio fy mod wedi bod mor lwcus i allu fforddio mynd i weld seiciatrydd preifat, gan ei fod yn costio’n ddrud- tua £250 y sesiwn. Rwy’n meddwl hyd heddiw am yr unigolion a’u teuluoedd efallai na fyddai yn gallu fforddio talu a pha mor anodd fyddai pethau wedi bod neu yn dal i fod iddyn nhw.
Pan ddechreuais dderbyn therapi lawr yn CAMHS, y peth cyntaf roedd yn rhaid targedu oedd fy mhwysau. Un o’r effeithiau mwyaf profais o ganlyniad i’r gorbryder oedd fy mod yn ei weld yn hynod o anodd i fwyta, gan yr oeddwn yn ofni’n fawr fy mod yn mynd i fod yn sic. O ganlyniad i hyn, roeddwn yn osgoi ac yn methu bwyta a olygodd i mi fynd dan bwysau yn sylweddol. Rwy’n cofio iddyn nhw ddweud wrthaf os nad oeddwn yn cynyddu fy mhwysau yn gyflym ni fyddwn yn ddigon iach i fynychu’r ysgol. Fe gefais fy rhoi ar ddiet arbennig a oedd wedi cynllunio i mi roi pwysau arno.
Ar ôl i mi lwyddo i roi digon o bwysau arno, symudais ymlaen i dderbyn therapi CBT yn CAMHS i geisio lleihau'r gorbryder. Fe wnes i bethau megis creu sic fy hun allan o fwyd, a gwylio fideos o bobl yn mynd yn sâl i geisio lleihau'r ofn ‘ma oedd gyda fi o fod yn sâl a oedd yn cyfrannu’n fawr at fy ngorbryder. Fe gafodd hyn peth effaith ond roeddwn yn dal i weld llawer o bethau’n anodd ac roeddwn yn teimlo bod angen rhywbeth yn fwy. Cafodd hyn ei atgyfnerthu wrth i mi waethygu yn sylweddol eto ar ôl gorffen fy arholiadau TGAU.
Welais hi’n anodd mynd o gyfnod lle'r oedd gennyf ffocws mawr a digon i wneud i gyfnod lle'r oedd gennyf ddigon o amser i feddwl a dechrau poeni, a dyna beth wnes i. Nid oeddwn yn siŵr beth i wneud â fy hun ar ôl yr arholiadau. Rwy’n cofio cerdded i fyny a lawr y coridor adre, ddim yn gwybod beth i wneud ac o ganlyniad gwaethygodd y gorbryder eto. Penderfynwyd yn CAMHS ar ôl hyn efallai bod angen rhywbeth ychwanegol arnaf i frwydro yn erbyn y gorbryder a dyna pryd ddechreuais gymryd tabledi gwrth-iselder. Yn wir fe ddechreuais weld gwahaniaeth wedyn wrth gymryd y tabledi, law yn llaw a gwneud therapi CBT a gwthio fy hun mewn i sefyllfaoedd a oedd yn achosi gorbryder i mi. Roeddwn yn dechrau gwneud pethau mewn bywyd rown i’n meddwl bydda ni byth yn gallu gwneud. Roeddwn yn dechrau dod yn fwy cyfforddus yn mynd ar y bws ysgol, mynd mas gyda ffrindiau ac roeddwn hyd yn oed wedi llwyddo i basio fy mhrawf gyrru a mynychu parti chweched. Darganfyddais dyma beth oedd yn gweithio i mi: tabledi gwrth-iselder, CBT a gwthio fy hun mewn i sefyllfaoedd sy’n fy ngwneud yn orbryderus.
Ar y cyfan, ers tua blwyddyn 13, mae’r gorbryder wedi setlo ac nid ydwyf yn profi mor aml, i’r un graddau ofnadwy. Rwy’n gwybod ei fod wastod yn mynd i fod yn rhan ohono i ac rwy yn profi adegau anodd ar brydiau, ond y gwahaniaeth nawr yw fy mod yn ymwybodol o beth yw’r gorbryder a sut i ddelio gydag ef. Rwy’n gwybod pan rwy yn y tywyllwch fod cyfnod gwell ar y ffordd. Enghraifft o hyn yw pan wnes i weld y flwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn hynod o anodd, gyda’r holl newid ac yr ansicrwydd wrth i mi ddechrau yn Aberystwyth yng nghanol cyfnod cofid. Ond roeddwn yn ymwybodol y tro hwn fod siarad yn helpu ac felly pan roeddwn yn dechrau poeni ac yn mynd yn orbryderus roeddwn yn siarad gyda mam a dad neu’r cownselydd benderfynais roedd angen arna i mewn cyfnod mor ansicr. Rwy’n hapus i ddweud erbyn heddiw rwyf yn berson llawer hapusach sydd yn barod i wthio fy hun a gwynebu bob dim mewn bywyd.
Mae’n rhaid i mi nodi fy mod yn hynod siomedig nad oedd modd i mi dderbyn unrhyw agwedd o’r driniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae rhaid i fi ganmol y driniaeth i mi dderbyn ar hyd y blynyddoedd, gan ni fyddwn i yma heddiw hebddo. Ond mae’n rhaid i mi nodi fy mod yn hynod siomedig nad oedd modd i mi dderbyn unrhyw agwedd o’r driniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob triniaeth rwyf wedi derbyn wedi bod drwy gyfrwng y Saesneg. Mae hyn yn gwbl warthus gan fod y Gymraeg yn cael ei gyfri fel un o ieithoedd swyddogol y wlad ac felly dylai fod gennyf i’r hawl i dderbyn y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ni fyddai byth bythoedd sefyllfa debyg i hyn mewn gwlad fel Ffrainc, felly pam ei fod yn ganiataol yn ein gwlad fach ni? Gellir dychmygu hefyd y ffwdan a’r helynt fyddai yn bodoli pe bai’r sefyllfa benodol hon yn perthyn i’r iaith Seisnig. Pam bod y sefyllfa yn wahanol wrth i ni drafod yr iaith Gymraeg? Mae’n gwbl annheg ac mae’n amser i ni weld newid.
Rwyf hefyd o’r farn fyddai wedi cael defnydd o’r iaith mewn amser mor anodd i mi wedi bod o gymorth enfawr. Rwyf wedi siarad Cymraeg erioed, dyna’r iaith i mi ddefnyddio wrth i mi dyfu i fyny ar yr aelwyd, gyda fy ffrindiau, wrth i mi astudio ac yn y gwaith. Mae’r Gymraeg yn bwysig i mi ac mae’n rhan o fy hunaniaeth i fel person. Mewn cyfnod lle nad oeddwn yn teimlo fel fy hun o gwbl, ac yn hynod ansicr o fywyd, byddai wedi cael defnydd o’r iaith Gymraeg wedi helpu mi i deimlo yn fwy cyfforddus a fy atgoffa o’n hunaniaeth. Mae trafod problemau iechyd meddwl yn eich iaith gyntaf yn ddigon anodd, heb sôn am orfod ychwanegu’r dasg o orfod trawsieithu meddyliau a theimladau am rywbeth nad ydych cweit yn deall eich hun.
Mae ymgyrch Mind Cymru yn ymgyrch mor bwysig. Maent yn codi sylw i broblem a dylid wedi’i datrys flynyddoedd yn ôl, problem na ddylai fod yn bodoli o gwbl. Cefnogwch yr ymgyrch! Mae’r elusen yn ymgyrchu i newid pethau i’r gwell, i gael mwy o gymorth trwy gyfrwng y Gymraeg er lles pob Cymro/aes. Nid ydych yn gwybod, efallai mai chi neu rywun sy’n annwyl i chi fydd ei angen rhywbryd, felly cefnogwch!
Our campaigns
We'll fight your corner. We believe everyone with a mental health problem should be able to access excellent care and services. We also believe you should be treated fairly, positively and with respect.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.