Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Enfys y dydd: sut rwy'n bod yn garedig i fy hun yn ystod pandemig

Dydd Llun, 18 Mai 2020 Ellen

Dyma flog gan Ellen, o Gaerdydd, sy’n disgrifio sut mae hi’n defnyddio technegau y dysgodd hi ar gwrs Mind lleol i ofalu am ei hiechyd meddwl yn ystod y cyfnod cloi.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Ers tipyn, roeddwn i wedi arddel y ffaith fy mod i’n berson llawen - ar fod yn glust i wrando i bobl sy’n ei chael hi’n anodd, er fy nad oeddwn i erioed wedi ei chael yn anodd fy hun. Yna, ces i fabi. Roedd cael pethau’n anodd yn brofiad syfrdanol. Roeddwn i wedi bod yn hynod o naïf. Gan fy mod i’n ysu i fod yn fam, roeddwn i’n meddwl y bydden i’n iawn. Dyna dwp fues i!

Roeddwn i’n dioddef o iselder, ac yn boddi mewn euogrwydd. Doeddwn i ddim yn adnabod fy hun, ddim yn gwybod sut i ‘ail-frandio’ fy hun fel person nad oedd bellach yn llawen. Defnyddiais bob gronyn o egni oedd gen i yn cuddio hyn i gyd oddi wrth bobl.

Ceisiais ymweld â fy meddyg teulu. Ar y diwrnodau drwg, doeddwn i ddim yn gallu ymdopi â thrio cannoedd o weithiau i godi’r ffôn. Ar y diwrnodau da, doeddwn i ddim yn gallu wynebu dilorni fy hun am beidio cael ateb. Ar fwy nag un achlysur, es i mewn i’r feddygfa ond heb allu cael apwyntiad. Byddwn i’n sefyll gyda’r pram yn y lifft yn beichio crio.

Ar ôl symud tŷ, newidiais i feddygfa newydd, lle roeddwn i’n gallu cadw apwyntiad ar lein! Roeddwn i’n gallu mynd i weld fy meddyg heb orfod poeni am ffonio dro ar ôl tro. Roedd yn rhaid i fi aros am bythefnos am yr apwyntiad, ond erbyn y pwynt hwn roeddwn i wedi aros dros ddwy flynedd, felly roedd pythefnos ychwanegol yn ddim o beth.  

Bu’r meddyg yn amyneddgar gan fy nghymryd o ddifri, a chefais ddiagnosis o iselder ar ôl geni (post-natal depression). Cefais fy rhoi ar restr aros ar gyfer cwnsela, derbyniais bresgripsiwn am feddyginiaeth a chefais fy nghyfeirio at gwrs hunan-ofal gyda Mind Caerdydd.

 

Roedd cymryd y cam cyntaf yn teimlo’n ANHYGOEL, fel petai fi wedi cymryd cam bach ond hollbwysig nôl ataf i fy hun.

 

Roedd y cwrs gyda Mind wedi cynnig cymaint o adnoddau i fi gael grymuso fy hun. Dilynais y cwrs ar iselder, ac roedd cael lle i ystyried fy iechyd meddwl yn rhodd werthfawr. Mae’r feddyginiaeth wedi bod o gymorth, yn ogystal â’r chwe wythnos o gwnsela trwy’r GIG, er fy mod i wedi gorfod aros amser hir amdano, sy’n anghredadwy. Sylweddolais fy mod i wedi stopio hoffi fy hun; roeddwn i wedi rhoi’r gorau i fod yn garedig i fy hun. Penderfynais gymryd fy hun ar ambell i ddêt - mynd am dro, nofio, y theatr. Ar ôl pob dêt, recordiais nodyn llais bach i ddiolch i fy hun am y dêt, gan ddweud fy mod i wedi cael amser mor hyfryd.

Ac wedyn daeth y cyfnod cloi.

Roeddwn i’n gallu teimlo’r pryder, yr euogrwydd, a’r teimlad o fod yn sownd yn rheibio’n ôl. Sut oeddwn i’n mynd i wrthsefyll hyn?

Wel, dydw i ddim yn siŵr. Hyd yn hyn, mae popeth yn iawn... i raddau. Rwy’n newid shifftiau gofal plant gyda fy mhartner er mwyn cael amser i fi fy hun. Rwy’n creu pethau, yn cynnwys treulio oriau hapus yn gwneud ffilm micro, sef animeiddiad sy’n disgrifio sut  rwy’n ceisio gofalu am fy iechyd meddwl. Mae wedi’i uwchlwytho i YouTube ac rwy’ wrth fy modd â’r ymateb.

Yn y ffilm, rwy’n disgrifio’r enfys sydd yn fy ‘mhen hapus’, ac rwy’n rhannu fy null o gyflawni pump o saith lliw’r enfys bob dydd.

Er enghraifft, mae coch yn cynrychioli pŵer, felly rwy’n trio gwneud rhywbeth pwerus. Fy hoff ffordd o wneud hyn yw stompio o amgylch y tŷ - ffordd arbennig o ryddhau tensiwn!

I fi, mae gwyrdd yn cynrychioli meithrin, neu ofalu: mae cysylltu â phobl yn gymdeithasol yn bwysig iawn i fi, felly rwy’n defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad â phobl. Rwy’n bod yn garedig i fy hun, ac yn gofalu am fy nghorff a fy enaid gyda bwyd da a rhaglenni o safon - rwy’n dod i weld cymaint mwy pan rwy’n rhoi amser i fy hun i fwynhau pethau.

Gwyliwch ffilm micro Ellen yma:

Rwy’n credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn dweud wrthym fod pawb arall yn iawn ar hyn o bryd, neu mae ambell i jôc yn mynd o amgylch ynghylch peidio bod yn iawn, ond roeddwn i eisiau cyhoeddi rhywbeth oedd yn fwy cynrychioladwy o’r gwir. 

Dydw i ddim yn iawn, ond rwy’n trio’n galed i fod yn iawn.

Ac mae’n iawn i beidio bod yn iawn, cyn belled ein bod ni’n gallu siarad am hynny - ei rannu, a pheidio rhedeg i ffwrdd. Dyna’r cwbl sydd gen i i ddweud - ac rwy’n gobeithio, mewn rhyw ffordd, bod hwn wedi bod o help i rywun.

Mae Ellen yn byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, eu merch Peggy, a'u cathod Rigby a Prudence. Mae hi'n hoffi carbohydradau.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig