Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sefwch Drosof I a dros gymorth caethiwed

Dydd Mawrth, 22 Medi 2020 Lee Jones

Dyma Lee, 24, o Wrecsam, blogio am ddefnyddio cyffuriau i ddianc rhag teimladau o iselder, a defnyddio pêl-droed a therapïau siarad fel strategaethau ymdopi. Mae Lee yn rhannu ei stori fel rhan o'n hymgyrch Sefwch Drosof I i wella gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl yng Nghymru.

Cefais fy nghyffur cyntaf yn 13 mlwydd oed. O hynny ymlaen, aeth pethau allan o reolaeth.

Pan oeddwn i’n defnyddio, doedd dim rhaid i mi fod yn fi. Mi allwn i wisgo persona neu fwgwd; Mi allwn i fod yn berson cwbl wahanol. Doedd dim rhaid i mi fod y boi a oedd yn cael ei fwlio neu'n cael amser caled.

Ers hynny, mae’n debyg fy mod wedi cymryd tua 90% o’r gwahanol gyffuriau sydd ar gael. Doedd gan fy nheulu ddim cliw. Roeddwn i’n slei ac yn dda iawn am ddweud celwyddau; roeddwn i’n ei guddio’n dda iawn.

Alla i ddim cofio diwrnod pan nad oeddwn yn eu defnyddio'r adeg hynny. Ond, os nad oeddwn i’n defnyddio, allwn i ddim eistedd yn llonydd. Allwn i ddim bod yn fi. Doeddwn i ddim eisiau bod yn fi. Roedd y cyffuriau’n gwneud popeth yn ddiffrwyth. Felly, i ddianc, roeddwn i’n treulio amser gyda phobl eraill oedd yn defnyddio neu pobl gydag arian i brynu cyffuriau i mi. Ac roeddwn i’n mynd yn uchel.

Chwalodd y cyfan yn 2015. Roeddwn wedi bod yn defnyddio’n drwm am bythefnos ar ei hyd ac mi gyrhaeddais y gwaelod. Doeddwn i ddim yn gwybod ble i droi. Yn y diwedd mi geisiais ladd fy hun.

Methais (yn ffodus) ac mi ffoniais fy nghyn bartner. Hi yw mam fy merch – a oedd ond yn fabi yr adeg hynny – a hi ddywedodd wrth fy nheulu.
Daeth fy Mam i'm nôl i ac aeth â fi at y doctor. Rhoddodd bapur i mi fod i ffwrdd o’r gwaith a rhoddodd feddyginiaeth i mi.

Ond fe gefais ychydig yn fwy o help oherwydd roedd fy Mam yn gwybod am CAIS – Tŷ Hyrwyddwyr – yn Wrecsam sy’n cefnogi pobl sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol. Mae’n rhad ac am ddim i fynd yno a chefais bas bws i helpu gyda’r costau teithio oherwydd doedd gen i yr un ddimai goch. Mae CAIS fel clwb i bobl sy’n gaeth ac mae’n eich cadw’n brysur gyda llawer o weithgareddau gwahanol. Es i Narcotics Anonymous hefyd ond doedd hynny ddim i mi.

Ar ôl i mi gael fy hun yn lân a dechrau mynd i CAIS, ciciodd fy mhartner ar y pryd fi allan. Doedd gen i unlle i fynd mewn gwirionedd a doedd gen i ddim arian, felly roeddwn yn syrffio soffas am ychydig. A, dechreuais ddefnyddio eto. Roeddwn i’n cael budd-daliadau ond roedd yn rhaid i mi wario’r rhan fwyaf ohono i gysgu ar soffa rhywun. Roedd hynny’n fy ngadael gyda £20 yr wythnos am fwyd ond roeddwn i’n ei wario ar ‘weed’.

Rwyf wedi neidio ar ac oddi ar y rêls ychydig o weithiau. Ond, yn CAIS, codais daflen ar gyfer Clwb Pêl-droed Cynhwysedd Wrecsam. Clwb yw hwn ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ac anableddau. A dim ond ychydig o ddyddiau’n ddiweddarach, dyma fi’n mynd yno. Roedd hynny’n drobwynt gwirioneddol i mi.

Mae’r clwb wedi fy ngweddnewid. Fe achubodd fy mywyd.

Erbyn hyn, rwy wedi bod yn lân ers 14 mis. Rwy’n dweud yn aml mai pêl-droed yw fy nghyffur newydd. Roeddwn i wrth fy modd efo pêl-droed yn blentyn, ond, ar ôl dechrau defnyddio, doeddwn i ddim yn chwarae. Wrth wella, roeddwn i wedi trio clybiau eraill ond dim ond yma roeddwn i’n perthyn go iawn. Roedden nhw’n fy neall i ac yma roeddwn i’n hyderus. Ond doedden nhw ddim yn fy nhrin i’n or ofalaus chwaith na gadael i mi cael fy ffordd fy hun ac ymddwyn yn ddrwg. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi gwylltio lawer iawn, ond mae’r clwb yn eich dysgu i reoli’ch emosiynau. Yn y gorffennol, rwyf wedi ateb yr hyfforddwyr yn ôl ac maen nhw wedi tynnu amser gêm oddi wrthyf. Fe aethon ni i Bencampwriaethau Ewrop ym Munich a chefais fy ngwahardd rhag chwarae yn y gêm gyntaf oherwydd y ffordd roeddwn i wedi ymddwyn wrth hyfforddi. Dyna’n union beth oeddwn ei angen.


Rwy’n disgrifio pawb yn y clwb fel teulu. Fe alla i ffonio’r hyfforddwyr am 3am a bydd yn eistedd a gwrando ar unrhyw broblemau sydd gen i. Maen nhw wedi rhoi cyfleoedd i mi na fyddai yr un clwb arall wedi’u rhoi. Maen nhw wedi talu i mi gael fy nghymwysterau hyfforddi ac erbyn hyn rwy’n rhedeg fy sesiynau pêl-droed fy hunan. Dyw hynny ddim yn rhywbeth y byddwn wedi breuddwydio fyddai’n bosibl ychydig flynyddoedd yn ôl.

Bob dydd Mercher, mae ganddyn nhw bolisi drws agored ble gallwn ni ddod am waith grŵp ar bethau fel rheoli dicter neu reoli dyledion. Fe allwn ni hefyd gael cefnogaeth un i un. Weithiau rwy’n teimlo fy ngwrychyn yn codi ac yn barod i ffrwydro. Rwy’n gwybod os bydd rhywun yn fy nhaclo yn y ffordd anghywir, y byddaf i’n ymateb yn wael. Felly, rwy’n gwybod bod rhaid i mi eistedd i lawr a sgwrsio gyda’r bois ac wedyn rwy’n iawn ac yn barod i chwarae.

Rwy’n gwybod erbyn hyn fy mod i’n dioddef o iselder pan oeddwn i’n defnyddio. Ac rwy’n dal i frwydro nawr ac yn y man. Rwy’n mynychu cwnsela trwy’r GIG sy’n helpu, er fy mod yn dal ei chael hi’n anodd i sôn am fy nheimladau.


Mae cyfnod y coronafeirws wedi bod yn eithriadol o anodd gan nad ydw i wedi bod yn gallu chwarae pêl-droed.

Mae’n strategaeth ymdopi enfawr i mi, felly mae colli hynny wedi bod yn anodd iawn. Ond, rwy wedi gallu aros yn lân trwy’r cyfan ac erbyn hyn, mae’r hyfforddi’n ail gychwyn. Alla i ddim aros!

Rwy’n gwybod y bydd hi’n dal i fod yn anodd. Pob tro mae rhywbeth yn mynd o’i le yn fy mywyd, rwy’n cael fy nhemptio i ddefnyddio. Ond, mae fy mywyd gymaint yn well erbyn hyn. Pan glywodd fy nain a’m taid – sy’n eithaf hen ffasiwn –am y cyffuriau gyntaf, fe gawson nhw gymaint o sioc nes torri pob cyswllt â fi. Ond maen nhw’n deall dibyniaeth ychydig yn well erbyn hyn ac maen nhw’n gefnogol. Rwy’n gweld fy merch ifanc eto sy’n golgyu’r byd i mi. Rwy’n chwarae, rwy’n hyfforddi ac rwy’n ymdrin â phethau ychydig yn well ac yn derbyn y gefnogaeth rwy'n ei angen.

 

Mae Lee yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Thaliad Annibyniaeth Personol sy’n helpu pobl gyda bywyd pob dydd os oes gennych salwch, anabledd neu gyflwr iechyd meddwl.

See what we're campaigning on

Mae stori Lee yn tynnu sylw at rai o'r nifer o ffyrdd y gall ein bywydau effeithio ar ein hiechyd meddwl, a gall ein hiechyd meddwl effeithio ar ein bywydau. Er mwyn sicrhau bod Llywodraeth nesaf Cymru yn sefyll dros bob un ohonom yng Nghymru, ymunwch â'n hymgyrch Sefwch Drosof I ar gyfer gwell iechyd meddwl.

Sefwch Drosof I

Mind

Our campaigns

We'll fight your corner. We believe everyone with a mental health problem should be able to access excellent care and services. We also believe you should be treated fairly, positively and with respect.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

Related stories

arrow_upwardYn ôl i'r brig