Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Rhoi cyfle i fy hun: sut ddysgais i i beidio bod mor galed arnaf i fy hun

Dydd Gwener, 19 Mehefin 2020 Luke

Dyma flog gan Luke, o Ferthyr Tudful, am ei daith at dderbyn ei ddiagnosis o iselder. 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae hyn yn newydd i fi. Rwy’ wedi sôn am fy nhaith bersonol gydag iselder a fy iechyd meddwl o’r blaen, ond nid mewn llawer o fanylder.  Felly byddwch yn garedig!

2015 oedd y flwyddyn gyntaf i fi deimlo’n isel. Yn isel tu hwnt. Mor isel, nad oeddwn i’n gallu gweld ffordd allan. I’r rheini sy’n fy adnabod i ac sy’n treulio amser gyda fi, roedd y peth yn sioc iddyn nhw bryd hynny, ac mae’n dal i fod yn sioc iddyn nhw nawr.  Fel arfer, rwy’n berson positif, hapus, gyda gwên fawr, rwy’n cerdded ar flaenau fy nhraed fel petai fi’n bownsio - person tebyg i’r cymeriad ‘Tigger’. Felly dydy pobl ddim yn disgwyl i fi deimlo’n isel.

Roedd nifer o ffactorau wedi cyfrannu at waethygu fy iechyd meddwl ar y pryd.  O ystyried y peth erbyn heddiw, roeddwn i’n llawer rhy brysur; roeddwn i wrthi fel lladd nadroedd, ac yn lladd gormod ohonyn nhw hefyd!  Roeddwn i’n dad i ddau o blant bach yn fy nauddegau cynnar, yn gweithio swydd llawn amser llawn straen oedd y tu hwnt i’r hyn oedd yn gyfarwydd i fi, a hefyd yn chwarae mewn gigiau dair neu bedair gwaith yr wythnos.  Roedd hyn i gyd yn cael effaith andwyol ar fy llesiant. 

Dim ond ar ôl torri lawr yn gyfan gwbl a thrwy ymyrraeth fy nheulu y cefais i help i fod ar ben ffordd. Fy anrheg pen-blwydd yn 27 oedd apwyntiad gyda’r doctor, diolch i Mam. 

Roedden nhw’n gallu gweld fy mod i’n cwympo i ddarnau a bod angen help arnaf i, a byddaf i bob amser yn ddiolchgar am hynny.

Cefais fy siomi’n arw gyda fy sesiwn gyntaf gyda’r doctor. Er fy mod i’n ymwybodol bod Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD) yn gyflwr real a dilys iawn, doeddwn i ddim yn cytuno â’r diagnosis o gwbl. Ar fy ail ymweliad â’r doctor, cefais bresgripsiwn am dabledi gwrth-iselder a chefais fy anfon adref o’r gwaith. Fel rhywun sy’n meddwl am ei hun fel dyn mawr cryf, wnes i ddim casglu fy mhresgripsiwn gan fy mod i’n meddwl y byddwn i’n gallu ymladd y peth fy hun, ond roeddwn i’n anghywir. 

Wythnosau’n ddiweddarach, a heb brysurdeb y gwaith a’r gigiau i gadw fy meddwl yn brysur, roeddwn i’n cwympo’n ddyfnach fyth i stâd o iselder. Doeddwn i ddim yn cael hapusrwydd allan o chwarae gyda fy mhlant, ac yn aml byddwn i’n rhoi stŵr iddyn nhw neu’n cyfarth atyn nhw am ddim rheswm. Roeddwn i’n gadael y tŷ gyda’r mymryn lleiaf o straen, ac roeddwn i’n gallu teimlo fy ngafael ar realiti’n llithro ymhellach fyth i ffwrdd.

Yn ffodus, pwysodd fy mam a fy chwaer arnaf i i fynd i gasglu fy mhresgripsiwn a dechrau cymryd y tabledi fel y dylwn i fod wedi gwneud. Heb os nag oni bai, fe wnaeth hyn fy arbed i a fy mhlant rhag mwy o loes calon a gofid.

Er fy mod wedi cael profiad sigledig gyda’r feddyginiaeth ar y dechrau, rhoddais fy ffydd yn y broses, ac yn y man dechreuais deimlo’r manteision.  Un fantais oedd fy mod wedi llwyr sylweddoli bod rhaid i fi newid agweddau eraill ar fy mywyd hefyd.

Roedd fy neiet yn warthus, ac roeddwn i’n teimlo’n ddi-egni o’r herwydd. Roeddwn i’n arfer yfed alcohol gyda phopeth bron, ac er mai ‘un gwydr o win neu beint o gwrw’ oedd e yn fy meddwl, roeddwn i’n gwybod bod rhaid i fi ddod â’r arfer i ben. 

Doeddwn i erioed wedi rhyw hoffi gwneud ymarfer corff, a’r gampfa oedd un o’r llefydd olaf y byddwn i’n dewis mynd iddi, ond wedi i fy ffrindiau argymell campfa leol, penderfynais roi tro arni. Daeth Daleon Gym ym Merthyr yn hafan i fi, gan drawsnewid fy mywyd yn gyfan gwbl, gyda chefnogaeth ac anogaeth yr aelodau eraill. Cefais flas newydd ar fywyd!

Rwy’n ymwybodol iawn mai diolch i ymyrraeth gan ambell i berson agos y cefais i fy achub. Roeddwn i’n lwcus bryd hynny a heddiw i gael ffrindiau a theulu mor agos, sydd bob amser yno i fi pan fydd angen arnaf i. Rwy’ bob amser yn ceisio dangos yr un gefnogaeth yn ôl - mae bod yn berson gofalgar a charedig yn bwysig iawn i fi.

Ers y cyfnod tywyll hwnnw, gadewais fy swydd oedd yn llawn pwysau gan ddod o hyd i fy ngwir alwad, sef gweithio mewn coleg i gynorthwyo pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl a’u llesiant.

Yn ogystal â fy meddyginiaeth, sy’n fy nghadw i ar lefel debyg i bawb arall, mae’r newidiadau i fy mywyd bob dydd wedi bod yn fwy o gymorth nag oeddwn i erioed wedi gallu dychmygu.

Erbyn hyn, rwy’n meddwl yn ddigon eglur i werthfawrogi popeth sydd gen i mewn bywyd.

Rwy’n caru fy nheulu bach, sef fy mhartner a fy nau blentyn bach sy’n llenwi’r diwrnodau â llawenydd a chwerthin (a thantrym nawr ac yn y man!)

Rwy’n dal i gael diwrnodau lle mae popeth yn ormod, ac weithiau rwy’n teimlo fel methiant, ond mae fy system gefnogi wedi fy helpu i dro ar ôl tro. Y prif beth rwy’ wedi’i ddysgu yw bod rhaid i chi roi cyfle i’ch hun. Siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol, mynnwch gymorth meddygol a symudwch ymlaen o’r pwynt hwnnw. Dydw i ddim yn rhy galed ar fy hun pan rwy’n teimlo’n isel, ac rwy’n rhoi fy ffydd mewn pobl eraill. Byddan nhw’n helpu mewn unrhyw ffordd y gallan nhw.

Rwy’ wedi sylweddoli nad yw cydnabod fy anawsterau a siarad amdanyn nhw yn wendid. Mae siarad yn gryfder sy’n gallu helpu datrys yr heriau dwysaf.

Mae nifer o fudiadau a sefydliadau allan yno sy’n gallu bod o gymorth. Os yw pobl yn meddwl nad ydyn nhw’n barod i siarad â ffrindiau neu deulu, byddan nhw bob amser yno i godi’r ffôn, ateb e-bost neu neges destun.

Rwy’n brwydro bob dydd, ond erbyn hyn dydy’r brwydrau ddim cynddrwg na mor galed i fi nac i fy nheulu. 

Cymerwch ofal. Siaradwch â rhywun. Mae’r byd yn lle gwell gyda chi’n rhan ohono!

Diolch am ddarllen,

Luke

 

Mae Luke yn byw ym Merthyr Tudful ac yn dad i ddau o blant bach hyfryd a dwy gath ddrwg. Mae’n chwarae’r gitâr ac yn canu - mae’n hoff iawn o wneud sŵn lle bo hynny’n bosib! 

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig