Mind Cymru yn ymateb i Adolygiad Cenedlaethol ar y Cyd o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru
Mae adroddiad newydd wedi canfod bod llai na hanner y plant a’r bobl ifanc yng Nghymru yn gwybod ble i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl – er gwaethaf y ffaith bod ysgolion, llwyfannau ar-lein a mudiadau gwirfoddol yn darparu ‘mwy o gymorth iechyd meddwl nag erioed’ i geisio atal yr angen am ragor o gymorth arbenigol.
Dyma ganfyddiadau Adolygiad Cenedlaethol ar y Cyd a gyhoeddwyd heddiw (Tachwedd 21) gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn yn tynnu sylw at yr heriau sy’n gysylltiedig â chreu system ofal ymatebol, deg a chydgysylltiedig sy’n gallu diwallu anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Er bod y canfyddiadau’n teimlo’n ddigalon, yn ôl Mind Cymru, mae cyhoeddi’r adolygiad ei hun fel arall yn ddatblygiad cadarnhaol o ran cydnabod gwelliannau diweddar, ochr yn ochr â thynnu sylw at y rhwystrau a wynebir wrth ddiwallu anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Dywedodd Nia Evans, Rheolwr Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Mind Cymru: “Mae’r adroddiad yn cadarnhau bod llawer o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn parhau i fod ar eu colled o ran ble i droi am gymorth iechyd meddwl amserol, a bod bylchau o hyd ar gyfer y rheini sydd angen cymorth sy’n disgyn rhwng y ddarpariaeth i bawb a chymorth arbenigol.
“Felly, mae Mind Cymru yn croesawu’r adroddiad a’i ofyniad i randdeiliaid perthnasol nodi a chyflwyno cynllun gwella i AGIC, AGC ac Estyn, yn amlinellu sut maent yn bwriadu mynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad.
“Efallai na fydd y rhain yn cael eu disgrifio fel canfyddiadau calonogol, ond mae’r hyn y mae AGIC, AGC ac Estyn wedi’i greu gyda’r adolygiad hwn yn sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen yn ddirfawr ar gyfer y rheini ohonom sy’n gweithio i wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’n amlinellu’n glir bwysigrwydd cydweithio rhwng mudiadau, ac rydyn ni’n gobeithio, er bod gwaith i gyflawni hyn eisoes yn mynd rhagddo ledled Cymru, y bydd yn galluogi rhagor o welliannau yn gyflym.
“Rydyn ni hefyd yn credu bod ei ganfyddiadau’n cryfhau ein galwad ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gweledigaeth ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc yn cael ei chyfleu’n glir yn y strategaeth iechyd meddwl genedlaethol i Gymru hefyd.”
Mae Llywodraeth Cymru ar fin cyhoeddi Strategaeth ddrafft newydd ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol (2024-2034) ddechrau’r flwyddyn nesaf, a fydd yn disodli ei strategaeth ddeng mlynedd flaenorol o’r enw Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
Yn y cyfamser, mae Adolygiad Cenedlaethol ar y Cyd AGIC, AGC ac Estyn wedi cael ei gyhoeddi i edrych ar sut mae gofal iechyd, addysg a gwasanaethau plant yng Nghymru yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru, ar ôl canfod bod y galw’n uwch o lawer na chapasiti’r gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir.
Ei brif nodau oedd ystyried a yw plant a phobl ifanc yn cael cymorth amserol ac effeithiol ar gyfer eu hanghenion iechyd meddwl, nodi lle mae gwasanaethau’n llwyddo a chanfod lle mae angen gwneud mwy.
Cyfrannodd Mind Cymru at y gwaith hwn drwy rannu’r cyfle i gyfrannu gyda’i Rwydwaith Llais Ieuenctid ei hun a’r rhwydwaith Mind lleol yng Nghymru, sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl wedi’u teilwra i anghenion cymunedau mewn 16 ardal wahanol ledled y wlad.
Dywedodd Nia: “Dim ond drwy wybod gwir gyflwr y gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael i’n plant a’n pobl ifanc yng Nghymru y gallwn obeithio eu gwella ar eu rhan, a rhan ganolog o gyflawni hyn yw gwrando ar anghenion y plant a’r bobl ifanc eu hunain.
“Mae gwybod bod dros 200 o blant a phobl ifanc ledled Cymru wedi cyfrannu at yr adolygiad hwn drwy sôn am eu profiad bywyd yn galonogol iawn ac yn dangos eu bod am i’w lleisiau gael eu clywed. Mae angen i ni nawr wrando drwy weithredu, mewn ymateb penodol i’r adroddiad hwn, ond hefyd o ran y cyfle a ddaw yn sgil y Strategaeth Iechyd Meddwl newydd i Gymru.
“Mae’r gwaith mae AGIC, AGC ac Estyn wedi’i wneud i gynhyrchu’r Adolygiad Cenedlaethol ar y Cyd hwn wedi bod yn amhrisiadwy, ac mae’n gyfrifoldeb ar bawb bellach i fyfyrio ar ei gasgliadau a sicrhau bod camau’n cael eu cymryd. Yn sgil yr wybodaeth hon, daw cyfrifoldeb i ymateb, ac rydyn ni yn Mind Cymru wedi ymrwymo i wneud hynny gyda phobl ifanc yn ein harwain.”