Miloedd o bobl yn dal i aros chwe mis neu fwy i gael cymorth seicolegol arbenigol yng Nghymru
Mae Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth gan Mind Cymru yn dangos bod tua 2,000 o bobl y mis yng Nghymru sydd â chyflyrau iechyd meddwl cymedrol a difrifol yn dal i aros am fwy na 6 mis i dderbyn therapïau.
- Mewn rhai misoedd rhwng 2020 a 2024, roedd dros 3,000 o bobl yn gorfod aros am 6 mis neu fwy.
- Mae’r elusen yn dweud bod diffyg tryloywder ynghylch sut caiff data ei gasglu a’i rannu yn golygu nad yw’n hysbys i raddau helaeth faint yn union o bobl sydd ar y rhestr aros.
- Daw hyn i’r golwg wrth i Weinidog Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru baratoi i wneud datganiad cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Fyrddau Iechyd Lleol ledled Cymru, mae tua 2,000 o oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus yn dal i aros am 6 mis neu fwy i gael therapïau seicolegol arbenigol yng Nghymru. Mae dros 750 yn rhagor yn gorfod aros am flwyddyn neu fwy.
Mae ystadegau a gasglwyd gan Mind Cymru drwy Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth i bob un o’r 7 Bwrdd Iechyd Lleol yn dangos bod hyd at 7,500 o bobl bob mis ar restrau aros ar gyfer therapïau siarad yng Nghymru, gyda bron i 6,000 o bobl ar gyfartaledd bob mis ers Ebrill 2019.
Mewn rhai misoedd o fewn y cyfnod hwnnw, mae cynifer â 3,000 o bobl yn gorfod aros mwy na 6 mis i gael eu gweld. Mae o leiaf 700 o bobl wedi bod yn aros am 12 mis neu fwy bob mis ers Ebrill 2019, ac ar adegau penodol mae dros 1,300 o bobl wedi bod yn aros am fwy na blwyddyn.
Daw’r data hyn ar ôl i Brif Weinidog Cymru gymryd y cam cadarnhaol i gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl fel blaenoriaeth ddiweddar i Lywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael ag amseroedd aros cleifion yng Nghymru.
Mewn ymateb, mae Mind Cymru yn datgelu ei ganfyddiadau diweddaraf yn ogystal ag erfyn ar Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti ar gyfer therapïau seicolegol arbenigol. Mae’r elusen hefyd yn galw am ganllawiau llymach o ran sut mae Byrddau Iechyd Lleol yn adrodd ac yn rhannu data am amseroedd aros a bod y ffigurau hyn yn cael eu cyhoeddi.
Dechreuodd Kayleigh Francis, 27 oed o Abertawe, therapi Dadsensiteiddio Symudiadau Llygaid (EMDR) drwy’r GIG eleni ar ôl cael diagnosis o Anhwylder Personoliaeth ar y Ffin (BPD) pan oedd yn 19 oed. Mae hi bellach yn ôl ar restr aros arall ar ôl cael ei chyfeirio am therapi rheoli emosiynau, a hithau heb gael unrhyw arwydd ynghylch faint o amser y gallai hyn ei gymryd.
Dywedodd Kayleigh: “Does dim byd yn gwella yn ystod y cyfnod hwnnw (pan rydych chi’n aros), y cyfan y gallwch chi wneud yw ceisio rheoli pethau cyn iddyn nhw waethygu eto. Ges i ddiagnosis BPD am y tro cyntaf yn 19 oed ac ro’n i’n aros i weld rhywun, ond doedd dim byd yn digwydd, dim llythyr - dim byd.
“Yna, es i’r brifysgol a mynd yn sâl eto, a chael fy rhoi yn ôl ar y rhestr aros. Ar ddechrau 2024, llwyddais i ddechrau therapi EDR drwy’r GIG ond erbyn hynny roedd fy mywyd wedi newid ac ro’n i wedi dioddef llawer o bethau eraill, gan gynnwys colli pobl ro’n i’n eu caru.
“Ro’n i’n ceisio dygymod â chymaint o alar a llawer o deimladau eraill, gan olygu bod y math o therapi ro’n i’n ei gael yn rhy drawmatig. Dywedon nhw wrtha i wedyn y byddai therapi rheoli emosiynau’n well opsiwn, ond does gen i ddim syniad nawr faint o amser mae hynny’n mynd i’w gymryd chwaith.
“Pan fyddwch chi’n estyn allan am y tro cyntaf, dyna pryd mae angen y cymorth arnoch chi. Pwy a ŵyr beth sy’n gallu digwydd yn y cyfamser wedyn? Mae’r aros yn achosi mwy o drawma i bobl, mwy o chwalfa i bobl, mwy o bobl yn ceisio lladd eu hunain – mwy o bobl yn hunan niweidio cyn bod rhywun yn eu gweld. Dw i wedi bod yn y sefyllfa honno sawl gwaith.”
Dyma’r ail dro i Mind Cymru ofyn am y data hwn gan Fyrddau Iechyd Lleol. Gofynnwyd am y data gyntaf yn 2020. Canfuwyd mai ychydig iawn o newid, os o gwbl, fu mewn amseroedd aros ar gyfer oedolion sydd angen gwasanaethau cymorth seicolegol arbenigol ers cyn pandemig Covid-19.
Mae’r ffigurau ar gyfer mis Hydref 2020 i fis Ebrill 2024 yn dangos bod amrywiadau mawr o hyd ar draws Byrddau Iechyd Lleol o ran nifer y bobl fesul y boblogaeth sy’n aros am therapïau seicolegol, a bod canfyddiadau’r adroddiad hwnnw’n dal i fod yn berthnasol i raddau helaeth o hyd.
Dywedodd Sue O’Leary, Cyfarwyddwr yn Mind Cymru, yn absenoldeb y data cywir gan Fyrddau Iechyd Lleol, mae’n anodd i Lywodraeth Cymru ddweud ei bod wedi ymrwymo’n llwyr i wella mynediad at therapïau seicolegol i oedolion yng Nghymru.
“Mae pobl ar y rhestrau aros hyn yn byw gyda chyflyrau iechyd meddwl difrifol a pharhaus. Ni ddylai neb fod yn aros mwy na blwyddyn am therapïau seicolegol arbenigol.
“Yn 2015, clustnodwyd £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at therapïau seicolegol fel rhan o’i strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Bron i 10 mlynedd yn ddiweddarach, nid ydym yn ddim nes at wybod a yw’r strategaeth honno’n gweithio ai peidio.
“Pan fydd oedolion yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y driniaeth, mae ansawdd y driniaeth yn dda, ac mae profiadau Kayleigh yn dyst i hyn, ond yr hyn sy’n glir hefyd yw bod galw cynyddol am gymorth ac mae’r system iechyd meddwl yn ei chael yn anodd ateb yr angen hwnnw.
“Wrth i Lywodraeth Cymru lunio Strategaeth Iechyd Meddwl Ddrafft newydd, rydyn ni mewn perygl o hyd bod yr holl waith da yna’n mynd i wastraff os nad ydyn ni’n cael darlun cywir gan ein Byrddau Iechyd Lleol o’r hyn sy’n digwydd gydag amseroedd aros. Rydym yn croesawu’r ymrwymiad diweddar gan y Prif Weinidog newydd i fynd i’r afael ag amseroedd aros, gan gynnwys amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, ond mae llawer o waith i’w wneud i sicrhau mynediad amserol at gymorth.
“Gyda hyn mewn golwg, mae Mind Cymru yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn therapïau seicolegol arbenigol, trefniadau llywodraethu cadarnach o ran sut mae Byrddau Iechyd Lleol yn casglu ac yn cyflwyno data am amseroedd aros, a bod y cyhoedd yn cael eu hysbysu am y ffigurau hynny.”
Yn 2020, cyhoeddodd Mind Cymru adroddiad ‘Rhy Hir i Aros’, a wnaeth nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella amseroedd aros.