Cynghorwyr Llesiant
Beth yw cynghorydd llesiant?
Gall cynghorydd lles dy helpu i ddod o hyd i gefnogaeth pan wyt ti'n teimlo'n isel neu'n bryderus. Byddan nhw'n gwneud cynllun gyda thi. A byddan nhw'n dal i fyny gyda thi i weld sut mae pethau'n mynd.
Gwylia ein hanimeiddiad byr i weld beth mae cynghorydd lles yn ei wneud, a sut y gallant helpu.
Beth yw cynghorydd llesiant?
Gall cynghorydd llesiant eich helpu i ddod o hyd i gymorth pan fyddwch chi’n teimlo’n isel neu’n bryderus. Gallan nhw wneud cynllun gyda chi. Yna fe wnawn nhw gael sgwrs arall â chi ymhellach ymlaen i weld sut mae pethau'n mynd.
Alla i weld cynghorydd llesiant?
Gallwch weld cynghorydd os ydych chi rhwng 11 a 24 oed ac yn byw yn:
Sut bydda i’n sgwrsio â fy nghynghorydd llesiant?
Gallwch ddewis o wahanol amseroedd i gael sgwrs:
- Ar y ffôn
- Drwy alwad fideo
- Wyneb yn wyneb
A fydd ein sgyrsiau’n breifat?
Mae popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol. Ni fydd eich cynghorydd yn dweud wrth neb beth rydych chi’n ei ddweud oni bai ei fod yn meddwl eich bod chi, neu rywun arall, mewn perygl.
Ydych chi o dan 16 oed?
Os ydych chi dan 16 oed, y cyfan sydd angen i ni ei wneud yw holi rhiant neu ofalwr a ydych chi’n gallu gweld cynghorydd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod popeth mor ddiogel â phosibl. Gallwch ddangos y dudalen we yma iddyn nhw os ydyn nhw eisiau gwybod mwy – a dyma rywfaint o help i siarad am sut rydych chi’n teimlo. Mi fyddwn yn gofyn am eu manylion pan fyddwch yn cofrestru.
Os nad ydi hyn yn bosibl, rhowch wybod i ni. Gallwn gael sgwrs arall am hyn.
Cofrestrwch i weld cynghorydd llesiant
Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn cael cynghorydd. Mi fyddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn wedi dod o hyd i rywun ar eich cyfer – ac yn dweud ychydig mwy wrthych amdanyn nhw. Yna mi allwch drefnu eich sgwrs gyntaf.
Sut mae’n gweithio?
1. Y 2 sgwrs gyntaf
Byddwch yn dweud wrth eich cynghorydd llesiant sut rydych chi’n teimlo. Yna byddwch yn gosod nodau gyda’ch gilydd ac yn dewis y cymorth yr hoffech chi roi cynnig arno. Gallai hyn fod yn bethau fel cwnsela, grwpiau cymunedol, neu wasanaethau iechyd.
2. Cael help
Bydd eich cynghorydd llesiant yn helpu i gael y cymorth rydych chi wedi’i ddewis. Gallant eich helpu i ddod i gysylltiad â phobl. A gallant helpu â ffurflenni cofrestru.
3. Sgyrsiau
Byddwch yn trafod gyda’ch cynghorydd pa mor aml yr hoffech gael sgyrsiau. Byddant yn trafod gyda chi i weld beth sy'n gweithio. Ac os ydych chi’n awyddus i roi cynnig ar rywbeth arall, byddant yn eich helpu â hynny.
4. Symud ymlaen
Pan fyddwch yn teimlo’n barod, gallwch roi’r gorau i gwrdd â’ch cynghorydd llesiant. Byddant yn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu rheoli eich teimladau. A byddant yn rhoi gwybod lle i fynd os oes angen mwy o help arnoch chi.
Dod o hyd i wybodaeth a chymorth arall
Os dydych chi ddim yn meddwl bod cynghorydd llesiant yn addas i chi, mae ffyrdd eraill o gael cymorth.
Rwy’n rhiant neu’n ofalwr
Beth yw cynghorydd llesiant?
Mae cynghorydd llesiant wedi’i hyfforddi i weithio gyda phobl ifanc. Gallant ddod o hyd i gymorth os yw eich plentyn yn isel neu'n bryderus - a gwneud cynllun gyda nhw. Yna byddant yn cael sgwrs arall â nhw ymhellach ymlaen i weld sut mae pethau'n mynd.
All fy mhlentyn/person ifanc weld cynghorydd llesiant?
Gall eich plentyn weld cynghorydd os ydynt rhwng 11 a 24 oed ac yn byw yn:
Sut bydd fy mhlentyn yn siarad â’i gynghorydd?
Gall eich plentyn ddewis o wahanol amseroedd i gael sgwrs:
- Ar y ffôn
- Drwy alwad fideo
- Wyneb yn wyneb yn eich Mind lleol
A fydd sgyrsiau fy mhlentyn gyda’i gynghorydd yn gyfrinachol?
Mae’r hyn y mae eich plentyn yn ei ddweud yn gyfrinachol – oni bai ei fod eisiau i chi wybod. Ond mae gennym gynlluniau yn eu lle os ydyn ni’n meddwl eu bod nhw mewn perygl.
Cofrestru i weld cynghorydd
Pan fydd eich plentyn yn cofrestru, byddant yn cael cynghorydd. Mi fyddwn yn rhoi gwybod iddynt pan fyddwn wedi dod o hyd i rywun ar eu cyfer – ac yn dweud ychydig mwy wrthynt am eu cynghorydd. Yna mi allant drefnu eu sgwrs gyntaf.
Siarad â’ch plentyn
Gall fod yn anodd siarad â’ch plentyn am eu hiechyd meddwl. Ceisiwch ddod o hyd i amser a lleoliad sy’n addas i’r ddau ohonoch. Efallai na fydd yr amser byth yn teimlo’n berffaith, ond gall helpu os bydd y ddau ohonoch yn teimlo’n llonydd ac yn gyfforddus. Gallai hyn olygu siarad mewn man tawel, neu gallai olygu gwneud gweithgaredd gyda’ch gilydd. Ystyriwch ddangos y wybodaeth am ein cynghorwyr llesiant ymhellach ar y dudalen hon.
Dod o hyd i wybodaeth a chymorth arall
Os nad ydych chi neu'ch plentyn yn meddwl bod cynghorydd llesiant ynMae angen help ar frys ar fy mhlentyniawn iddyn nhw, mae mwy o gymorth ar gael.
Rydw i’n adnabod rhywun 11-24 oed
Beth yw cynghorydd llesiant?
Mae cynghorydd llesiant wedi’i hyfforddi i weithio gyda phobl ifanc. Gallan nhw ddod o hyd i gymorth os ydynt yn isel neu'n bryderus - a gwneud cynllun gyda nhw. Yna byddant yn cael sgwrs arall â nhw ymhellach ymlaen i weld sut mae pethau'n mynd.
Darllenwch fwy am sut mae’n gweithio
Dweud wrth rywun am gynghorwyr llesiant
Os ydych chi’n meddwl bod hyn yn iawn i rywun rydych chi’n ei adnabod, gallwch rannu’r dudalen we yma â nhw. Mae holi person ifanc am sut maent yn teimlo yn gallu bod yn anodd, ond mae gennym awgrymiadau a allai helpu.
A allan nhw weld cynghorydd llesiant?
Gall y person ifanc rydych chi’n ei adnabod weld cynghorydd os ydynt yn byw yn:
Sut byddant yn siarad â’u cynghorydd?
Mae cynghorwyr yn cynnig dewis o wahanol amseroedd i gael sgwrs:
- Ar y ffôn
- Drwy alwad fideo
- Wyneb yn wyneb mewn Mind lleol
A fydd eu sgyrsiau gyda’u cynghorydd yn gyfrinachol?
Rydym yn cadw pethau’n gyfrinachol. Dim ond os yw’r person rydych chi’n ei adnabod, neu rywun arall, mewn perygl y bydd cynghorydd yn dweud wrth rywun.
Cofrestru i weld cynghorydd
Pan fydd y person ifanc rydych chi’n ei adnabod yn cofrestru, bydd yn cael cynghorydd. Mi fyddwn yn rhoi gwybod iddynt pan fyddwn wedi dod o hyd i rywun ar eu cyfer – ac yn dweud ychydig mwy wrthynt am eu cynghorydd. Yna mi allant drefnu eu sgwrs gyntaf.
- Cofrestru yn Hammersmith, Fulham, Ealing a Hounslow
- Cofrestru yng Nghasnewydd
- Cofrestru yn Coventry a Swydd Warwick
Dod o hyd i wybodaeth a chymorth arall
Os nad yw cynghorydd llesiant yn iawn i’r person rydych chi’n ei adnabod, mae mwy o help ar gael.
Mae cynghorwyr llesiant yn cael eu hariannu gan Plant mewn Angen, Deloitte, a Mind. Mae hwn yn wasanaeth newydd sydd ar gael yn Hammersmith, Fulham, Ealing a Hounslow, Casnewydd, Coventry a Swydd Warwick. Bydd yn rhedeg tan fis Ionawr 2024.