Rhwydwaith Lleisiau Ifanc
Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym eu bod eisiau cael eu clywed fwy, yn enwedig o ran penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Yma ym Mind, rydyn ni eisiau gwrando.
Drwy ymuno â’r Rhwydwaith Lleisiau Ifanc byddwch chi’n cael cynnig amrywiaeth o ffyrdd o gymryd rhan ac o lywio ein gwaith yng Nghymru a Lloegr. Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sydd â phrofiad personol, neu beidio, o gael problemau iechyd meddwl. Yr unig beth sydd ei angen yw bod rhwng 11 a 24 oed, a bod yn barod i wneud gwahaniaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith, cliciwch ar y dolenni isod i weld ein cwestiynau cyffredin, neu cysylltwch â ni: [email protected].
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer pobl ifanc
Darganfyddwch fwy am y rhwydwaith gyda'n cwestiynau cyffredin.
Sut rydyn ni'n gallu helpu pobl ifanc
Darllenwch ein gwybodaeth am iechyd meddwl a lles a sut i ddod o hyd i gefnogaeth.