Cwestiynau Cyffredin ar gyfer pobl ifanc
Ar y dudalen hon, gallwch chi ddarllen cwestiynau cyffredin am y Rhwydwaith Lleisiau Ifanc.
Rydyn ni wedi ceisio esbonio popeth mor glir â phosib, ond os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffech chi siarad ag aelod o'r tîm, anfonwch e-bost atom: [email protected].
Cliciwch y penawdau isod i ddarganfod mwy.
Mae'r Rhwydwaith Lleisiau Ifanc yn gyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 24 oed lywio gwaith Mind yn genedlaethol.
Trwy'r Rhwydwaith Lleisiau Ifanc, gallwch chi:
- Gymryd rhan mewn blogio ar bynciau sy'n bwysig i chi
- Cymryd rhan mewn arolygon barn ac arolygon ar-lein i rannu eich barn
- Cael cyfleoedd i lunio gwaith Mind yn genedlaethol
- Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhwydwaith Llais Ieuenctid trwy'r e-gylchlythyr
- Cael mynediad at ystod o hyfforddiant ar-lein, megis ymwybyddiaeth iechyd meddwl a diogelu
- Mynychu diwrnodau gwybodaeth ranbarthol lle bydd ein tîm yn cynnal sesiynau er mwyn i chi ddod i'n hadnabod a gofyn cwestiynau
- Gwnewch gais i wirfoddoli mewn digwyddiadau penodol, fel cefnogi partneriaeth Mind gyda'r Sgowtiaid
Pan rydyn ni'n dweud ‘pobl ifanc’, yr ystyr yw unrhyw un rhwng 11 a 24 oed.
Os ydych chi'n mynd drwy gyfnod anodd neu os ydych chi’n poeni am y ffordd rydych chi'n teimlo, rydyn ni'n gwybod bod hynny'n gallu achosi ofn a gofid. Rydyn ni ar gael i’ch helpu i ddeall nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac i’ch helpu i gael y cymorth angenrheidiol. Cliciwch yma i gael gwybod sut i gael cymorth.
Byddwch. Rydyn ni eisiau clywed gan bobl ifanc sydd â phrofiad eu hunain o iechyd meddwl, neu beidio, a byddwn ni'n sicrhau bod gennym wahanol ffyrdd i chi allu cyfrannu i helpu i lywio ein gwaith.
Ymhob cyfle, byddwch chi'n cael enw person a’i fanylion cyswllt.
Efallai y byddwch chi'n cymryd rhan mewn cyfleoedd pryd bydd yr hyn rydych chi'n ei ddweud yn cael ei rannu gyda’r cyhoedd. Byddwn ni'n dweud wrthych os ydych chi wedi cofrestru i gymryd rhan mewn cyfle pryd gallai'r hyn rydych chi'n ei ddweud gael ei rannu gyda’r cyhoedd, a byddwn ni'n gofyn am ganiatâd (a chaniatâd eich rhieni neu eich gofalwyr os ydych chi dan 18 oed) cyn i ni rannu unrhyw beth.
Yr unig adeg pryd byddwn ni'n rhannu'r hyn rydych chi ddweud fydd os byddwn ni'n poeni am eich diogelwch ac os ydyn ni'n meddwl y gallai’r hyn a ddywedoch eich rhoi chi neu bobl eraill mewn perygl o niwed. Mae’r rhan fwyaf o gyfleoedd yn golygu eich bod yn ddienw, ond mewn cyfleoedd megis cyfweliadau i'r cyfryngau ni fyddwch yn gallu bod yn ddienw.
Os ydych chi dan 18 oed, rhaid i ni ofyn am ganiatâd y person sy'n gyfrifol am eich diogelwch a’ch gofal. Y rheswm am hyn yw bod cyfrifoldeb arnynt i wybod beth rydych chi'n ei wneud ac i sicrhau eich bod chi'n ddiogel wrth wneud hynny. Rydyn ni eisiau iddynt fod yn fodlon ein bod ni'n siarad gyda chi am gyfleoedd lle gallwch chi gymryd rhan.
Rydyn ni’n deall na fydd hi’n bosibl weithiau i gael caniatâd gan eich rheini neu eich gofalwyr. Os ydych chi’n 16 oed neu'n hŷn, byddwn ni’n siarad gyda chi am hyn ac yn penderfynu a fyddwn ni'n gallu cyfathrebu â chi heb gael caniatâd gan eich rhieni neu eich gofalwyr. Os ydych chi rhwng 13 a 15 oed, bydd angen i ni lenwi ‘ffurflen asesu cymhwysedd’ i benderfynu a allwn ni barhau i gyfathrebu â chi. Os ydych chi’n 12 oed ac iau, ni fyddwn ni'n gallu cyfathrebu â chi heb gael caniatâd gan eich rhieni neu eich gofalwyr.
Yn anffodus, ni chewch ddod â rhywun gyda chi i’r digwyddiadau.
Os oes angen i chi ddod â rhywun i’r digwyddiad (e.e. rhiant, gofalwr neu oedolyn dibynadwy), oherwydd nad ydych chi’n gallu teithio ar eich pen eich hun, bydd angen i chi roi gwybod i ni cyn i chi gymryd rhan mewn unrhyw gyfle.
Pan fyddwch chi'n derbyn cyfle i lywio ein gwaith, byddwn ni'n cael sgwrs gyda chi i weld a oes angen i rywun arall ddod gyda chi. Os oes angen, bydd angen i ni siarad gyda’r person i wneud yn siŵr bod hynny’n iawn. Y rheswm am hyn yw sicrhau ein bod ni'n gwybod pwy fydd yn dod ac i sicrhau ein bod ni’n gallu ceisio cadw pobl mor ddiogel â phosibl.
Cewch.
Yn anffodus, dydyn ni ddim yn gallu cynnig profiad gwaith gyda’r sefydliad cenedlaethol, sydd wedi’i lleoli yn Llundain a Chaerdydd. Fodd bynnag, falle mai’n werth cysylltu â’ch Mind Lleol i weld os maen nhw’n gallu helpu. Gallech chi ddarganfod mwy am ein rhwydwaith Mind lleol a ffeindio’ch Mind lleol agosach yma.
Er does dim modd i ni gynnig profiad gwaith gyda’r sefydliad cenedlaethol, mi fydd nifer o gyfleoedd i bobl ifanc cymryd rhan ar gael yn fuan. Mi fydd y cyfleoedd yma yn cynnig siawns i gael profiad a datblygu sgiliau newydd, tra hefyd yn cyfrannu at lunio ein gwaith. Bydd cyfleoedd ar gael ar-lein, yn ogystal ag yn bersonol at ddigwyddiadau penodol. Os mae hyn o ddiddordeb i chi, gallech chi ddarganfod mwy a chofrestru yma.
Cewch. Anfonwch neges i [email protected] os hoffech chi weld yr wybodaeth.
Dim o gwbl, mae’n rhad ac am ddim.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich cyfraniadau, ond yn anffodus ni allwn dalu pawb am ei farn oherwydd mai elusen ydyn ni. Gan ddibynnu beth yw'r cyfle, byddwn ni’n talu treuliau rhesymol ac yn diolch i chi drwy roi taleb gwerth £20 yn rhodd i chi, ond byddwn ni’n esbonio hyn yn glir os yw’n berthnasol.
Dim problem, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni. Anfonwch eich enw a’ch cyfeiriad e-bost newydd i [email protected] ac fe wnawn ni ei newid.
Os byddwch chi’n newid eich meddwl am fod yn rhan o rwydwaith, mae hynny’n iawn. Rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i [email protected]. Cofiwch fod croeso i chi ddod yn ôl unrhyw bryd.